Blwyddyn ddiddorol gyda amrywiaeth o gyfarfodydd - ond, fel arfer, dim and y pymtheg neu ugain ffyddlon sy'n troi lan. Pam dyw'r bobl sy'n dod yn llu i'r cinio Gwyl Ddewi ddim yn dod i'r cyfarfodydd arferol? Hoffen ni weld yr hen wynebau eto! A hefyd ble mae'r dysgwyr profiadol - mae angen wynebau newydd arnon ni, a syniadau newydd!
Cafodd rhai cyfarfodydd eu harwain gan aelodau'r gymdeithas - noson o straeon teithwyr, noson "Ystafell 101" a noson ddarllen. Siaradodd Ceri Thomas hefyd am addysg yng Nghymru. Daeth y Cymreigyddion ynghyd â Chymdeithas Gymraeg Trefynwy mewn noson gwis hwylus iawn.
Cawson ni rai siaradwyr gwadd gyda phynciau diddorol a gwahanol:-
Llion Pryderi Roberts - Barddoni a Beimiadu, Philip Wyn Jones - Cerddoriaeth mewn Ffilmiau, a Gwen Awbery - Mynwenta.
Cafodd sawl cyfarfod eu cynnal allan o'r man cyfarfod arferol: Cynhaliwyd Cinio Gwyl Dewi llwyddiannus yng Nghanolfan San Mihangel gyda Meinir Heulyn, a'r parti anffurfiol amser Nadolig yn nhŷ Ruth a David Roberts yn Llanelen. Aethon ni gyda Frank Olding i ymweld â Chastell Rhaglan (roedd Gwyl Gerddoriaeth yn y castell ac roedd band pres a chor meibion yn cystadlu a Frank!)
Hefyd aeth rhai i helfa drysor yn y Fenni yn yr haf. Mae'r pwyllgor yn mynd ati ar hyn o bryd i drefnu'r rhaglen sy'n dechrau fis Hydref. Bydd y rhaglen ar gael ar ein gwefan (www.cymreigyddion.org.uk) erbyn yr amser dych chi'n darllen yr erthygl hon.
Mae'r gymdeithas yn cwrdd fel arfer ar y trydedd nos Fawrth yn y mis yn-:
Neuadd y Pentref, Llanffwyst am 7:30 y.h.
Os ydych am gael neges e-bost i ddwyn pob cyfarfod i'ch cof, anfonwch eich cyfeiriad e-bost at: post@cymreigyddion.org.uk neu os ydych am gael manylion ffoniwch Peter Madley (01873 812318) neu Sue Cames (01873 832233)
Sue James
|