Graddiodd Helga Prosser a Ysgol Gelfyddyd Gain Michaelis ym Mhrifysgol Cape Town De Affrica lle'r enillodd wobr Michaelis ym 1952. Mae hi wedi byw ym Mhrydain ers 1959 ac fe astudiodd weldio a chastio yn Ysgol Gelfyddyd Ganolog Llundain. Daeth posibiliadau creu cerfluniaeth wedi ei weldio yn ddiddordeb mawr iddi. Mae gwaith Helga, sydd bellach yn byw yng Nghrughywel, wedi cael ei arddangos mewn orielau ar draws y byd. Mae cynllunio Coron yr Eisteddfod wedi bod yn her fawr iddi. "Bu llawer o goronau wneuthuriad arian hardd yn y gorffennol sy'n peri i ddur wedi ei weldio o'i gymharu edrych yn arw ac anghelfydd, ond dur yw'r cyfrwng rydwyf yn ei ddewis am ei fod yn gryf ac yn egniol." Cafodd Helga ysbrydoliaeth i greu Goron yr Eisteddfod a hanes diwydiannol Cymru. Mae hi'n ystyried cynhyrchiad dur fel un o'r catalyddion a greodd rhwydwaith o ffyrdd, rheilffyrdd a chamlesi. "Maent yn plethu gyda'i gilydd yn yr un modd a blethwyd hen gynlluniau Celtaidd y gorffennol. Ffyrdd, rheilffyrdd a chamlesi go iawn a haniaethol oedd fan cychwyn fy ngwaith, yn cynrychioli symudiadau a chyfnewidiadau o'r gorffennol i'r dyfodol." Noddir Coron Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd a'r Cylch eleni gan Heulwyn Davies, W John Jones, Dr Eric Sturdy a'u gwragedd, er cof am eu cyfaill John Nicholas Evans.
|