Cysgod yn y Coed Cyhoeddi llyfr dysgwraig yn y Steddfod - Cysgod yn y Coed gan Lois Arnold 拢4.99. Gomer, 80tt.
Bydd merch sydd wedi'i henwebu ar gyfer cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn 2004 yn cyhoeddi llyfr pwrpasol o stor茂au i ddysgwyr yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd.
Ganwyd Lois Arnold yn Walton-on-Thames yn Surrey, ond mae'n byw yn Y Fenni ers chwe blynedd.
Ar 么l symud i fyw yng Nghymru, roedd Lois yn awyddus iawn i ddysgu Cymraeg. "Ro'n i'n teimlo ei bod hi'n beth hollol naturiol - a phwysig - i fynd ati i ddysgu'r iaith. Ro'n i eisiau teimlo fy mod i'n perthyn yma a fy mod i'n gallu cymryd rhan lawn yn y gymuned. Ac ro'n i'n awyddus hefyd i ddeall a gwerthfawrogi hanes, diwylliant a llenyddiaeth Cymru'n llawn," meddai.
Aeth i ddosbarthiadau nos yng Ngholeg Gwent yn Y Fenni a dywed i ddarllen nofelau a stor茂au byrion fod o help mawr iddi wrth ddysgu Cymraeg.
Enillodd Lois gystadleuaeth creu deunyddiau darllen i ddysgwyr yn Eisteddfod Meifod y llynedd a ffrwyth hynny yw ei chyfrol Cysgod yn y Coed.
Casgliad yw o stor茂au ysgafn a diddorol i ddysgwyr sydd wedi bod yn dysgu Cymraeg am flwyddyn neu ddwy.
Mae'r stor茂au i gyd yn s么n am ddigwyddiadau bob dydd a allai fod yn rhan o brofiadau llawer ohonon ni, gan gynnwys gwyliau glan m么r, mynd i'r Eisteddfod, a breuddwydio am ennill y Loteri!
Bydd lansiad swyddogol ym Mhabell y Dysgwyr ar faes Casnewydd ddydd Mercher am 2.30 pryd bydd yr awdur yn s么n am ei phrofiadau fel dysgwraig ac yn darllen dyfyniadau o rai o'r stor茂au.
Ers dwy flynedd bu Lois yn diwtor Cymraeg rhan amser i oedolion yng Ngholeg Gwent.