|
L么n Goed Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Stewart Jones yn troedio l么n y llonydd gorffenedig
Cafodd gwrandawyr radio olwg dipyn yn wahanol ar un o lecynnau mwyaf rhamantus Cymru pan fu'r actor Stewart Jones yn s么n am y L么n Goed.
Chwalodd yr actor a fu'n troedio'r l么n pan yn blentyn lawer o'r rhamant a gr毛wyd yngl欧n 芒 hi gan R Williams Parry yn ei delyneg, Eifionydd.
Ond tra bo R Williams Parry wedi ei wefreiddio gan ei "llonydd gorffenedig" a "bwa'i tho plethedig" yr oedd Stewart Jones yn cofio ffordd hir a blinedig i'w cherdded.
Bu'r actor a ddaeth i enwogrwydd fel Ifas y Tryc yn siarad am y L么n Goed, y mae ei cheg yn Afonwen rhwng Pwllheli a Chricieth, gyda Rebecca Jones ar ei rhaglen foreol ar 91热爆 Radio Cymru.
"Pan oeddwn i'n blentyn, oherwydd amgylchiadau yn y teulu, gwaeledd a ballu, mi fyddwn i'n mynd yn wythnosol i aros ar dyddyn bach ar ochr Mynydd y cennin ac yn mynd i ysgol Bryn Engan rhyw chwarter milltir oddi wrth y L么n Goed," eglurodd Stewart Jones.
"Wedyn, bob nos Wener, i fynd gartref i Roslan, yr oedd yn rhaid imi gerdded y L么n Goed i lawr i stesion yr Ynys ac wedyn roeddwn i'n cael reid wedyn gan y postman ar y beic. Dyna'r drefn.
"Ac fe f没m i'n gwneud hynny am bedair, bum mlynedd, nes yn naw oed.
"Welais i ddim rhamant yn y blydi lle erioed a bod yn onast.
"Dwi'n meddwl bod R Williams Parry wedi gwneud fel y gwnaeth Eifion Wyn efo Cwm Pennant - wedi rhoi rhamant [yno] ond mae yna, does yna ddim dwywaith, naws anghyffredin iawn yno, ond fasach chi byth yn ei cherdded hi.
"Glaswellt sydd yno, mwd.
"Pan oeddwn i'n ei cherdded hi'n blentyn, mwd a thyllau d诺r oedd ar i hyd hi. Doedd yna ddim caledi ac yn yr haf efo'r gwres doedd yna ddim ond pryfed yn y modd mwyaf melltigedig.
"Roeddech chi'n cerdded drwy bryfed ac mae hi'n ffordd wastad iawn ac i blentyn roeddech chi'n gweld y pen draw o hyd ac mae o'n ddiddiwedd," meddai.
Ond ychwanegodd iddo ddod i deimlo wedyn y llonyddwch y cyfeiriodd R Williams Parry ato yn ei delyneg.
.
"Roeddech chi'n i cherdded hi gyda - fel dwedodd o - enaid hoff gytun [ac] yn sicr . . . [yn] hel meddyliau," meddai.
Wrth s么n am gysylltiad R Williams Parry a'r l么n dywedodd fod gan y bardd deulu ar fferm ar odre Mynydd y cennin.
"A'r posibilrwydd ydi - achos doedd yna ddim bysus na dim byd i fynd i fyny'r l么n - mi fydda fo'n cymryd y tr锚n i'r Ynys a cherdded y L么n Goed i fynd i'r ffarm felly roedd o'n ei hadnabod hi pan oedd o'n llunio y gerdd a dydi'r lle ddim wedi newid fawr ddim [ers hynny]."
Peth o hanes y L么n
Adeiladwyd Y L么n Goed rhwng 1817 a 1830 yn dilyn Rhyfel Napoleon yn Ewrop gan landlord Ystad y Gwynfryn, Syr Thomas Mostyn, er mwyn hwyluso mynediad i ffermydd yr ystad rhwng Afonwen a godre Mynydd y cennin bron i bum milltir i ffwrdd.
Yr oedd yn cael ei hadnabod fel Ffordd Maughan i ddechrau ar 么l y rheolwr yst芒d a fu'n gyfrifol am ei hadeiladu.
Byddai ffermwyr yn ei defnyddio i gario calch o longau yn angori ger glan y m么r Afonwen i'r ffermydd.
Plannwyd coed derw a choed ffawydd bob yn ail hyd ochrau'r l么n oherwydd bod eu gwreiddiau yn agos at yr wyneb ac o'r herwydd yn fodd i fod yn wyneb i'r ffordd.
Mae telyneg R Williams Parry i'w gweld yn Cerddi'r Gaeaf a gyhoeddir gan Wasg Gomer.
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|