|
Petrograd Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
Adolygiad Kate Crockett o Petrograd gan William Owen Roberts. Barddas. 拢11.95.
Pan fentrodd Llion Iwan ar gystadleuaeth y Fedal Ryddiaith y llynedd, cafodd ei nofel Yr Anweledig ei chanmol am lwyddo i wneud rhywbeth prin yn y Gymraeg, gan nad oedd i'w stori unrhyw gysylltiad Cymreig na chymeriadau o Gymru o gwbl.
Ychydig fisoedd wedi cyhoeddi'r nofel honno, dyma waith arall a all frolio'r un peth.
Gan fod Petrograd gan William Owen Roberts yn waith mor swmpus, mae'n sicr nad ceisio efelychu camp Llion Iwan yr oedd - bu'r nofel hon ar y gweill ers amser.
Chwyldro Rwsia Afghanistan y cyfnod diweddar oedd o dan sylw gan Llion Iwan ond nofel hanesyddol yw Petrograd fel mae'r teitl yn awgrymu, wedi'i gosod yn Rwsia adeg y Chwyldro.
Efallai y bydd rhai sydd wedi darllen campwaith Marcsaidd Wiliam Owen Roberts,Y Pla, wedi disgwyl y byddai'r nofel hon yn dilyn hanes y chwyldroadwyr, ond nid felly mae. Daw'r prif gymeriadau o deuluoedd cefnog, ac wrth i'w byd cyfforddus ddymchwel, dilynwn eu hanes wedi iddyn nhw ffoi i Berlin.
Ond mae hon hefyd yn nofel am lanc ar ei brifiant. Tair ar ddeg oed yw Alyosha ar gychwyn y nofel, ond mae'r digwyddiadau'n ei orfodi i dyfu'n ddyn yn gynt na'r disgwyl.
Nofel am gymeriadau
Nofel realaidd yw hon yn dilyn llinyn stor茂ol syml cronolegol, a stori Alyosha a'i ddwy gyfnither sy'n cynnal y diddordeb: nofel am gymeriadau yw hi yn bennaf oll.
Er na ellid fod wedi ysgrifennu nofel fel hon heb grugyn o waith ymchwil yn gefn, mae'r awdur yn llwyddo i'n hargyhoeddi heb ildio i'r demtasiwn o frolio'i wybodaeth.
Daw'r nofel i'w huchafbwynt yn Berlin, wrth i rai o'r Rwsiaid ariannog eu perswadio'u hunain mai rhywbeth dros dro yw eu halltudiaeth ac na fydd y drefn gomiwnyddol yn para yn Rwsia.
Ond yn y cyfamser mae cyflwr economi 'r Almaen yn dirywio yn sydyn o'u cwmpas ac mae'r Rwsiaid breintiedig yn dysgu' n sydyn sut beth yw crafu byw heb arian.
Hynod gyfoes Ar 么l yr ergydion i'r economi yn 2008, mae problemau Berlin ar ddechrau'r 1920au yn teimlo'n hynod gyfoes: banciau'n mynd a'u pen iddyn, arian yn colli'i werth, a phobl yn gwneud amdanyn nhw eu hunain oherwydd y sefyllfa.
Elfen arall sy'n rhoi i'r nofel ei chyfoesedd yw cymeriad Inessa, mam Alyosha.
Ar gychwyn yr hanes mae hi'n gwirioni o gael llofnod ei hoff actor, Alexei Dashkov. Erbyn diwedd y nofel mae'r ddau'n cyfarfod eto gyda chanlyniadau dybryd.
Cymeriad cwbl hunanol yw Alexei Dashkov sy'n byw archampagne ac yn breuddwydio am ddod yn seren yn Hollywood - mae diwylliant arwynebol y selebs yn fyw ac yn iach ymhell cyn dyfodiad y cylchgrawn Heat.
Mae Petrograd yn nofel sy'n gafael ac yn argyhoeddi ac sy'n llwyddo i wneud inni gydymdeimlo 芒'r Rwsiaid breintiedig ond heb ein dallu i'w ffaeleddau fel unigolion na diffygion y drefn yr oedden nhw mor frwd i'w gwarchod.
Rheswm arall Er bod mawr angen nofelwyr sydd yn mynd i'r afael 芒'r Gymru gyfoes, mae'n braf gweld hefyd awduron fel Wiliam Owen Roberts a all ysgrifennu mor hyderus am fywydau sydd yn anghyfarwydd i ni.
Gyda chyhoeddi Petrograd mae yna reswm arall dros ddathlu llewyrch presennol y nofel Gymraeg.
Gwrando hefyd . . .
Un o'r nofelau gorau a ddarllenodd erioed "mewn unrhyw iaith" meddai. "Mae hi'n arbennig o dda - yn epig o nofel [ac] mor eang ei rhychwant" ychwanegodd.
Fe'i disgrifodd fel mwy na stori dda:
"Mae o wedi creu cymdeithas, mae o wedi creu byd mae hyd yn oed y disgrifiadau o gymeriad sydd ond yn digwydd bod yna am rhyw hanner tudalen mae hyd yn oed y rheini wedi'u disgrifio yn ofalus yr ydych yn gallu credu . . yr ydych yn gallu ogleuo y nofel," meddai.
Ychwanegodd ei bod yn nofel ryngwladol a fyddai'n goddef ei chyfeithu i ieithoedd eraill.
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|