Capel mewn pentref bychan o'r un enw â'r pentref yw Hermon. Mae rhyw ddwy filltir y tu fas i Gynwyl Elfed ar y ffordd i Gastell Newydd Emlyn ac rhyw wyth milltir i'r gogledd o Gaerfyrddin.
A hithau'n ardal amaethyddol mae nifer o'r brodorion yn ffermwyr llaeth.
Dathlodd y capel ei ddau canmlwyddiant saith mlynedd yn ôl ond mae'r achos ei hun yn llawer hŷn na hynny gan ymestyn yn ôl i ddechreuadau anghydffurfiaeth yn Sir Gaerfyrddin.