Anffyddwraig yn rhoi plant ar ben ffordd - ond y nhw i ddewis wedyn . . . Er yn anffyddwraig ei hun mae'r actores Sharon Morgan wedi dweud iddi hi ei hystyried yn bwysig dros y blynyddoedd fod ei phlant yn mynychu'r capel.
Yr actores oedd gwestai Dewi Llwyd ar ei raglen radio fore Sul 9 Mawrth 2008 ac yn ymateb i'w gwestiwn sut mae hi'n treulio ei boreau Sul fel arfer.
"Roeddwn i'n arfer mynd i'r capel - dwi'n anffyddwraig yn bersonol ond dwi wedi mynd â mhlant oherwydd dwi'n credu ei fod yn bwysig iawn am lot o resymau; yn enwedig yng Nghaerdydd o ran yr iaith, y canu, o ran y ffaith bod athroniaeth ar gael er mwyn trefnu'ch bywyd yn ei ôl e - achos dyna'r unig gyfeiriad maen nhw'n mynd i gael hwnnw," meddai.
"Ond rydym ni wedi bod yn rhy brysur yn ddiweddar ond dwi'n meddwl o hyd am fynd nôl ac i Salem yn Canton fyddwn i'n mynd lle mae Evan Morgan yn weinidog adloniadol iawn ac mae'r lle yn llawn o blant," ychwanegodd.
Er yn ei theimlo yn ddyletswydd i roi blas ar grefydd Gristnogol i'w phlant dywedodd mai eu dewis hwy wedyn fyddai parhau yn ffyddlon.
"Eu dewis nhw yw e os ydyn nhw'n moyn bod yn grefyddol - maen nhw'n cael y cefndir, cefndir y Beibl [yn] rhan o draddodiad Cymreig. Mae e yna iddyn nhw yn hytrach na mod i'n teimlo mod i wedi'u hamddifadu nhw," meddai.
"Dwi'n dod o deulu eithafol o grefyddol a dweud y gwir . . . Roedd mam-gu wedi bod yn y Diwygiad ac roedd fy nhad i yn bregethwr lleyg . Yn yr Eglwys cefais i magu ond roeddwn i'n mynd i'r capel gyda mam-gu dair gwaith bob Sul yn ddefodol ac yn y blaen ac yn y blaen - felly rydw i eisiau iddyn nhw wybod beth yw hwnnw," meddai.
Awgrymodd nad gwrthryfela yn erbyn hynny barodd iddi droi'n anffyddwraig.
"Roedd pwysau oddi wrth mam-gu ond doedd dim cymaint o bwysau adref. Fy newis i a fy mrawd oedd os oeddem am barhau i fynd i'r Eglwys.
"Fe ges i fagwraeth reit Ryddfrydol - yr oedd fy rhieni o flaen eu hamser felly doedd yna ddim gorfodaeth arnaf i i wneud dim byd a dyna pam rydw i'n dal i wneud jyst beth ydw i eisiau," meddai.
.
|