Ar adeg pan fo cymaint o sôn am drai crefyddol beth fyddai'n perswadio rhywun i ymuno â'r weinidogaeth?
Bu Karen Owen yn holi dau weinidog dan hyfforddiant beth barodd iddyn nhw fentro.
Mae Rhun Murphy a Derek Rees sy'n cael eu hyfforddi yn Llansannan dan gynllun 'Dawn' newydd gychwyn ar eu gwaith yn Rhosllannerchrugog mewn cynllun ar y cyd rhwng y Bedyddwyr a'r Annibynwyr.
"Mi fyddai lot o bobl yn gofyn - ar gyfnod o drai pam dewis mynd i'r weinidogaeth?" gofynnodd.
Rhun Murphy:
"Pe byddwn i'n cael dewis dydw i ddim yn meddwl y byddwn i - ond pan ydw i'n teimlo fod Duw yn fy ngalw i mewn i'r weinidogaeth yna dydw i ddim yn meddwl y medra i wneud dim arall ond ufuddhau.
"Ydi mae'n gyfnod o drai ond mae rhywun yn gweld Duw yn bendithio a dwi'n gwybod bod Duw eisiau bendithio ac eisiau achub ei bobl - a mynd ymlaen yn yr hyder yna fod pethau'n mynd i newid a'n bod ni'n mynd i weld - efallai nid yn y ffordd rydan ni'n ddisgwyl ond ein bod ni'n mynd i weld Duw ar waith a Duw yn achub pobl."
Derek Rees:
"Dwi'n meddwl fod lot o bobl yn edrych ar ein capeli ni a meddwl they're on the way out ond efallai nad ydi pobl Cymru wedi bod yn ffyddlon i'n Duw ni ond mae'n duw ni yn dal yn dduw ffyddlon iawn ac mae Duw yn dod a phobl newydd i'r front line ac mi rydan ni'n mynd i weld Duw yn gwneud rhywbeth mawr cyn bo hir.
|