Mae un o chwaraewyr rygbi gorau Cymru wedi pwysleisio pwysigrwydd mynychu'r eglwys iddo bob bore Sul.
Wrth gael ei holi ar Raglen Dewi Llwyd dywedodd Gerald Davies a ystyriwyd yn asgellwr gorau'r byd yn ei ddydd ei bod yn arferiad ganddo fynychu eglwys y plwyf bob bore Sul:
"Tan eleni yr oeddwn i'n sgwennu i'r Times am y gêm oeddwn i wedi bod ynddi ddydd Sadwrn. Ac wedyn, mae'n rhaid imi ddweud - ac mae hyn yn digwydd o hyd - roeddwn i'n mynd i'r eglwys," meddai Gerald Davies â ddewiswyd yn rheolwr y Llewod Prydeinig ar gyfer ymweliad a De Affrica yn 2009.
"Dwi'n byw mewn pentref bach, Coed-y-paun rhwng Pontypŵl ar un ochr a Bryn Buga yr ochr arall ac mae eglwys yno; ac rwy'n hoff o fynd i'r eglwys ar fore Sul ac mae hynna wedi bod yn rhan o batrwm bywyd dros yr amser yr oeddwn i'n grwtyn yn Llansaint.
"Mynd i'r capel y pryd hynny , dwywaith - falle, falle - dair gwaith y Sul ond erbyn hyn rwy'n hoff o fynd i'r eglwys ar y dydd Sul.
"Dwi'n teimlo ei bod yn rhan o'r pentref, yn rhan, felly, o'r gymuned, ac mae hynny'n bwysig i gadw pobl gyda'i gilydd.
"Dwi'n hoff hefyd o fynd a gwrando ar y ficer - Andrew Morton - ac rwy'n hoff iawn yn wir o gael araith fach ac mae Andrew Morton yn wir yn gwneud imi wrando am chwarter awr bob tro dwi'n mynd ac mae hynny'n beth da," meddai.
|