|
Yn mis Ionawr 2006, yn dilyn etholiadau tanllyd i Senedd Palesteina, daeth adain wleidyddol Hamas i rym yn Gaza ar y lan orllewinol.
Er bod enw'r mudiad yn un Arabaidd yn golygu zeal mae'r enw hefyd yn acronym o Mudiad Rhyddid Islamaidd.
Enillodd Hamas 74 allan o'r 132 o seddi yn Senedd Palesteina, gan guro
Fatah, plaid a fu'n cynrychioli pobl Palesteina am ddegawdau.
Yn draddodiadol, gwrthododd Hamas â sefyll mewn etholiadau i'r sefydliadau a grëwyd trwy y broses heddwch Oslo.
Yn ddomestig, enillwyd yr etholiad o ganlyniad i wrthwynebiad y bobl i lwgrwobrwyo, cyhuddiad a wnaed yn gynyddol yn erbyn Fatah. Roedd eu polisïau digyfaddawd tuag at wladwriaeth Israel, trwy ddau initfada, hefyd yn ffactor yn y gefnogaeth i adain filwrol ac adran wleidyddol y mudiad Hamas.
Wrth i ganlyniadau'r etholiad lifo i mewn achoswyd cryn ddryswch yn Ewrop a'r Unol Daleithiau o weld Hamas yn ennill grym. Hynny, oherwydd eu dealltwriaeth hwy mai mudiad milwrol yn unig oedd Hamas a mudiad a ddefnyddiai derfysgaeth i gyflawni ei amcanion.
Cefndir y Mudiad
Tyfodd Hamas o'r Frawdoliaeth Foslemaidd (Muslim Brotherhood), mudiad crefyddol, gwleidyddol a chymdeithasol a sefydlwyd yn yr Aifft yn 1929.
Erbyn yr Wythdegau roedd adain Balesteinaidd y mudiad yn rhedeg strwythur cymdeithasol yn Llain Gaza, strwythur y mae Hamas wedi ei atgyfnerthu hyd at heddiw.
Mae'r mudiad, felly, yn rhedeg pob math o sefydliadau cymdeithasol yn ysgolion, meddygfeydd, cartrefi i blant amddifad ac undebau Islamaidd.
Cododd y mudiad yr ydym yn ei adnabod heddiw fel Hamas o'r intifada - deffroad - cyntaf a ddechreuodd ym Mhalestina fis Rhagfyr 1987.
Drwy alltudio Yassir Arafat a'r PLO o Libanus i Tunis, llwyddodd yr Israeliaid i gyfyngu'r frwydr i Balesteina. Deilliodd yr intifada wrth i'r gymdeithas Balesteinaidd radicaleiddio'n gynyddol oherwydd y sefyllfa genedlaethol hanesyddol, cymdeithasol ac economaidd.
Ymatebodd Israel i'r intifada trwy geisio defnyddio grym milwrol a radicaleiddio'r boblogaeth fwy fyth.
Fel mudiad torfol nid oedd gan y Frawdoliaeth Foslemaidd (Muslim Brotherhood) ddewis ond tyfu'n fudiad mwy cenedlaetholgar wrth i'w haelodau radicaleiddio fel rhan o'r un broses ac wrth i fudiadau eraill ddechrau achub y blaen ar y sefyllfa a honni eu bod hwythau hefyd yn siarad dros bobl Palesteina.
Arwyddodd Sheik Ahmed Yassin, arweinydd ysbrydol y mudiad, gynnig ffurfiol bod y mudiad yn ymuno â'r initifada, a'r mudiad a ymgyrchodd o blaid y deffroad oedd Mudiad Rhyddid Islamaidd - Hamas.
Ideoleg
Yn ystod y blynyddoedd cynnar y ffurfiwyd craidd polisïau a chredoau'r mudiad ac mae ideoleg grefyddol Hamas wedi ei blethu â dyheadau gwleidyddol a all amrywio o dro i dro gan ymddangos yn anghyson ar adegau.
Mae gan y mudiad Siarter ar ffurf Maniffesto o 36 o erthyglau sy'n egluro'r berthynas rhyngddo a'r PLO, yr "endid Seionistaidd" a'i strwythur fel sefydliad. Y Siarter a'r' Koran' sy'n gosod fframwaith ideolegol y mudiad.
Hyd yn oed yn y cyfnod cynnar, derbyniai siarter y mudiad genedlaetholdeb fel elfen hanfodol o'r ideoleg, trwy blethu ideoleg Islamaidd gyda chenedlaetholdeb Palesteinaidd.
Mae'r plethiad hwn yn dangos pragmatiaeth y mudiad yn gollwng gafael o'r hen athroniaeth wrth-genedlaetholgar a fu'n bodoli yn y Frawdoliaeth Foslemaidd (Muslim Brotherhood).
Serch hynny, mae'r plethiad yn esgor ar broblem arall i'r mudiad sydd i'w weld heddiw. Yn ystod trafodaethau Oslo, roedd yn bosib i Fatah ollwng y syniad o Balesteina gyda ffiniau 1948 ac wrth wneud greu problem arall i Hamas ar y pwynt hwn.
Byddai cefnu ar ffiniau 1948, Palesteina, nid yn unig yn wrth genedlaetholgar i'r mudiad ond hefyd yn wrth Islamaidd. Datrys y broblem honno yw cur pen mawr y mudiad hyd yn oed heddiw.
Wrth edrych yn ôl dros ddau ddegawd o hanes y mudiad, mae'n bosib gweld fod y mudiad yn bragmataidd wleidyddol wrth ddiffinio ei erthyglau a'i benderfyniadau.
Un enghraifft o hyn, a phrif nod y mudiad, yw'r modd y mae'r mudiad yn delio gydag Israel - neu fel y'i gelwir gan Hamas yr "endid Seionistaidd".
Er nad yw Hamas yn cydnabod Israel, a'r duedd i wrth-Seionistiaeth lithro i mewn i rethreg gwrth-Semitaidd, mae'r mudiad yn nodi'r parodrwydd am gadoediad a all bara am flynyddoedd lawer.
Mae'r parodrwydd yma wedi amlygu ei hun, yn weithredol felly, gyda'r cadoediad diwethaf yn para o Fawrth 2005 hyd at Fehefin 2006.
Syniadaeth o Jihad amddiffynnol a ddefnyddir gan y mudiad. Yn yr un modd, mae'r mudiad yn croesawu democratiaeth yn y rhanbarth ac ym Mhalesteina, oherwydd i'r mudiad gredu taw dyma'r ffordd ddilys y bydd llywodraethau Islamaidd yn dod i rym.
Strwythur y mudiad
Mae'n anodd egluro yn fras strwythur y mudiad. Mae nifer o adrannau, strwythurau a hyd yn oed arweinyddiaethau.
Yr un mwyaf adnabyddus yn ôl y wasg yw adain filwrol y mudiad. Llai adnabyddus tan yn ddiweddar yw ei strwythur cymdeithasol a'r adain wleidyddol.
Mae i arweinyddiaeth y mudiad ddwy brif garfan. Hynny yw, arweinyddiaeth sy'n bodoli y tu allan i Balesteina, a honno sydd o fewn Palesteina (ffiniau 1967).
Yn hanesyddol, mae arweinyddiaeth 'allanol' y mudiad yn llawer mwy crefyddol ddogmataidd o gymharu â'r arweinyddiaeth 'fewnol' Balesteinaidd sy'n fwy pragmataidd.
I gloi, gwelwn fod proses gwirioneddol iach yn bodoli wrth i Hamas gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd ym Mhalesteina heddiw.
Wrth gynyddu grym arweinyddiaeth 'mewnol' y mudiad, y mae'r mudiad yn esblygu fwyfwy i fod yn un llawer mwy pragmataidd yn ei ymwneud â heddwch gydag Israel.
Ond yn sgil hyn, y mae yna berygl y gall yr heddwch hwnnw gael ei golli wrth i gymdeithas Palesteina gael ei gwthio i eithafion gyda gwaharddiadau economaidd a thrwy arestio ei Haelodau Seneddol acun rhan o dair o Gabinet Senedd Palesteina.
Gyda'r tactegau hynny y mae Israel, a'r gymuned ryngwladol yn gynyddol, yn gwthio y mudiad a phobl Phalesteina i gornel.
A thrwy hynny i ddwylo arweinyddiaeth o'r tu allan a'r union ddulliau terfysgol y maen nhw yn ceisio eu rhwystro rhag dod i rym.
Hon yw'r ail mewn cyfres o erthyglau gan Meilyr Ceredig yn trafod mudiadau Islamaidd sydd yn y newyddion ar hyn o bryd - hydref 2006.
Mae Meilyr Ceredig yn Ymgynghorydd Gwleidyddol gyda Grayling Cymru. Graddiodd mewn Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Cymru Abertawe gyda gradd bellach mewn Gwleidyddiaeth yn Aberystwyth gan arbenigo ar derfysgaeth yn y Dwyrain Canol.
Erthyglau Eraill
.
|
|