91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
Cymru'r Byd

»

Archif Crefydd

Safle Newydd



91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Straeon
Wynne Melville Jones Yr eglwysi -
trychineb PR

Galwad i wario ar wefannau nid adeiladau
Byddai'n rheitiach i'r enwadau crefyddol yng Nghymru wario eu harian ar wefannau yn hytrach nag ar gynnal gapeli ac adeiladau.

Dim ond wedyn y byddan nhw yn cyrraedd trwch y boblogaeth yn ôl pennaeth un o gwmnïau cysylltiadau cyhoeddus Cymru, Wynne Melville Jones.

Beth ddywedodd Wynne Melville Jones?
Fel ag y mae pethau ar hyn o bryd dywedodd Mr Jones, sy'n Gyfarwyddwr Gadeirydd StrataMatrix fod ffordd yr eglwys o hyrwyddo ei hun yn llanast.


"Mae'n sefyllfa drist achos dwi'n cymryd bod y mwyafrif llethol o gapeli ac eglwysi erbyn hyn yn drychineb PR," meddai ar y rhaglen radio Dal i Gredu ddydd Sul Mehefin 15, 2008.

"Wnes i ymweld a gwefan y Presbyteriad - un o'r enwadau cryfaf - Dwi'n meddwl fod gan y Presbyteriad oddeutu 700 o gapeli ac mae'r wefan yn rhestru'r eglwysi sydd â gwefannau; 13 - ac o'r rheini dim ond chwe eglwys Gymraeg," meddai.

"Nawr rydym ni'n byw mewn cyfnod [lle mae gan] hanner cant y cant o'r boblogaeth fand llydan adref a rywsut neu'i gilydd nid yw'r eglwysi wedi deall hyn," meddai.

"Maen nhw'n byw mewn rhyw gapsiwl amser, yn bodoli er mwyn eu hunain tra bo'r byd wedi symud ymlaen a'r mwyafrif llethol o'r boblogaeth yn cyfathrebu a'i gilydd drwy'r we. Ond rywsut neu'i gilydd nid yw'r eglwys wedi deall hynny," meddai.

Gyda'r "rhan fwyaf o bobl yn treulio 12 awr yr wythnos ar y we" dywedodd mai ei gyngor ef oedd, "Y dylai pob eglwys feddwl am yr hyn maen nhw'n ceisio'i gyflawni.

"Sawl un o'n heglwysi ni sydd wedi eistedd i lawr ac wedi meddwl;
Beth ydym ni'n geisio'i gyflawni?
Pa mor effeithiol ydym ni?
A sut ydym ni'n mynd i gryfhau a gwella'r sefyllfa?" meddai.

Ar raglen 91Èȱ¬ Radio Cymru Taro'r Post fe'i clywyd yn ymhelaethu:

"Maen nhw [yr eglwysi] yn byw mewn rhyw ynysoedd unig mewn cymdeithas sy'n newid yn gyflym iawn, iawn, a rywsut neu'i gilydd maen nhw wedi diffodd y swîts ac yn methu gweld y tu allan i'r achos bach y maen nhw'n ceisio'i gynnal."

Ychwanegodd y byddai'n well i'r eglwysi wario eu harian ar wefannau nag ar adeiladau sy'n cael eu mynychu gan ychydig iawn o bobl.

Gofynnodd hefyd faint o eglwysi Cymru sy'n gwirioneddol berthyn i'r unfed ganrif ar hugain.

"Yn wir, faint ohonyn nhw sydd wedi eistedd i lawr i feddwl beth maen nhw'n geisio'i wneud?

"Sut maen nhw'n cyfathrebu â phobl a sut maen nhw'n mynd i ddenu pobl newydd i mewn.

"Y to hÅ·n sy'n cynnal yr achosion yma bellach, prin iawn, iawn, yw pobl dan eu hanner cant ac mae plant yn eithriadol o brin."

Yr ymateb i'r hyn a ddywedodd
Yr oedd mwy o gydymdeimlad nag a fyddai rhywun wedi ei feddwl o du'r eglwysi eu hunain.

Ar Taro'r Post Ddydd Mawrth Mehefin 17 dywedodd Ifan Roberts, Ysgrifennydd Cyffredinol y Presbyteriaid yng Nghymru ei fod ef yn cytuno a llawer o'r hyn ddywedodd Mr Jones.

"Dwi'n credu bod angen inni symud ymlaen i gyfathrebu'r ffydd mewn ffordd sydd yn siarad efo'n hoes ni," meddai.

Ond ychwanegodd ei bod yn gwestiwn o brinder adnoddau a phrinder pobl i wneud y gwaith a chreu gwefannau ar gyfer capeli unigol.

"Yn aml iawn dydi'r arbenigedd ddim gennym ni a dydi'r bobl ddim gennym ni," meddai - na'r arian ychwaith i gyflogi rhai.

Er bod gan yr enwad swyddog cyfathrebu newydd dywedodd"fod eisiau inni edrych yn radical iawn ar beth ydi bod yn eglwys heddiw, sut fath o addoliad ydym ni yn ei gynnal, ydi'r addoliad hwnnw yn apelio, ydi'r math o emynau ydym ni'n i ganu [yn apelio] - mae'r cwestiynau yma yn rhai sylfaenol iawn," meddai.

Rhoddodd gryn bwys hefyd ar bwysigrwydd profiad crefyddol personol yr unigolyn.

"Mae eisiau gwisgo'r profiad mewn idiom fodern - ond oni bai fod y profiad gennych chi yn y lle cyntaf beth sydd gennych chi i'w gynnig i bobl?

"Rhaid wrth y profiad - a dydi pobl ddim yn arddel y profiad hwnnw bellach, yn enwedig yn y Gymru Gymraeg," meddai.

Cyfeiriodd Peter Thomas, Ysgrifennydd Cyffredinol y Bedyddwyr, yn siarad ar Bwrw Golwg fore Sul, Mehefin 15, at ddiffyg arian, adnoddau ac arbenigedd i greu gwefannau hefyd.

"Mae'n hawdd iawn inni edrych yn feirniadol ar y sefyllfa ond mae yna gymaint o ynysoedd gobaith yn ein hanes ni a dyna'r pethau rydw i am eu pwysleisio," meddai gan ychwanegu ei bod yn bwysig cyfleu bod yna obaith a bod yna ysbryd o bethau'n digwydd er gwaetha'r sefyllfa. Ar yr un rhaglen cyfeiriodd Gwenno Teifi sy'n aelod eglwysig at yr hyn a alwodd yn "gylch dielig" sy'n llesteirio gwaith yr eglwysi:


"Mae Wynne Melville yn gywir i ryw raddau," meddai.

"Mae'n amlwg ei fod yn gylch dieflig o fewn yr eglwys achos mae'r holl bobl sy'n mynd [i'r capel] dros eu hanner cant . . . ac felly'n methu gwneud gwefan o gwbl ac felly'n methu denu'r bobl ifainc i mewn sydd yn medru gwneud y gwefannau ac sy'n gwybod beth sy'n mynd i ddenu pobl ifainc."

Ar Taro'r Post dywedodd Alun Lenny, swyddog cyfathrebu Undeb yr Annibynwyr ei bod yn bwysig defnyddio pob dull o gyfathrebu a rhodiodd y bai ar geidwadaeth crefyddwyr nad yw hynny'n digwydd.


"Mae yna fwlch wedi agor rhwng y ffyddloniaid sy'n mynd i'r capeli a'r rhai allai neu a ddylai ddod i'r capeli," meddai.

"Rhaid trafod pethau sy'n amserol i'r oes yng nghyd-destun ein crefydd ac yn sicr mae yna le i wefan ac mae hynny yn digwydd yn araf yn enwedig yn y trefi lle mae mwy o groesdoriad oed.

Ond yn ystod yr un drafodaeth ar Taro'r Post dywedodd Melville George mai'r unig gysylltiad gwe y gwelid ei hangen rhwng ei gapel ef ym Mhenparc, Aberteifi, oedd un uniongyrchol â Duw ei hun!


Rhai gwefannau . . .


  • Llusern
    Hanes Crefydd yng Nghymru
    Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


    About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý