|
Gwenfair Michael yn sôn am lwyddiant capel lle mae pwyslais ar lawenydd
Weithiau, mae cynifer o fabanod a phlant bach yn gwneud sŵn yng nghapel Salem Treganna yng Nghaerdydd - nes ei bod hi'n anodd gwrando ar y bregeth.
Mae'r ysgol Sul wedi tyfu gymaint nes bod y capel wedi codi estyniad i sicrhau digon o le i bawb. Nid yn unig mae dros gant o blant yn yr ysgol Sul - mae nifer yr aelodau wedi cynyddu hefyd yn ddiweddar.
Un o'r aelodau sydd wedi ymuno â'r capel yn ystod y blynyddoedd diwethaf yw Haf Hayes ac y mae hi a'i gŵr Mike wedi bod yn dod i'r capel ers rhyw saith mlynedd, ac mae'r ddau yn rieni i ferch dair oed a bachgen chwe mis.
"O'r funud y cerddon ni mewn i'r capel a dweud y gwir roeddwn i'n gwybod y byddem ni'n hapus yno achos mae cymaint o groeso wrth i chi gerdded mewn. Mae teimlad o un teulu mawr yn Salem a dyn ni ddim wedi edrych nôl ers hynny," meddai Haf.
Llawn bwrlwm Gyda mwyafrif yr aelodau bellach dan 50 oed, mae'r capel yn llawn bwrlwm. Mae'r gweithgareddau yn amrywio o ddigwyddiadau mwy traddodiadol fel cwrdd gweddi, neu waith gwirfoddol fel bwydo'r digartref, i glybiau ieuenctid, clwb darllen, criced neu fabolgampau i'r plant.
Yn ôl Haf Hayes, mae'n gapel cymdeithasol iawn....
Blaenoriaid yn gwarchod "Yn y capel hefyd, mae 'na gymdeithas o'r enw CIS - Cymdeithas Iau Salem - a dy'n ni'n cwrdd un nos Iau bob mis. Ni'n cael lot o sbort yn mynd mas i fwyta, falle cael noson gwis, noson o flasu gwin hefyd, amrywiol bethau fel 'na.
"A'r syniad ydi bod y blaenoriaid ar gael i warchod wedyn achos mae lot ohonon ni yn rhieni plant bach.
"Felly mae'n gyfle inni fynd allan wedyn i gymdeithasu," meddai.
Un o'r atyniadau i Haf Hayes a'i gŵr oedd gweinidog newydd Salem, y Parchedig Evan Morgan.
Yn wreiddiol yn un o Gymry Llundain, fe dderbyniodd e alwad i Gaerdydd ar ôl gwasanaethu yn ardal Machynlleth am flynyddoedd.
Dechreuodd ei weinidogaeth yn Salem ym 1999 ac mae'n cydnabod iddo fynd ati'n syth i fanteisio ar y twf yn nifer y Cymry Cymraeg oedd yn symud i ardal y capel yn Nhreganna.
"O'dd e wedi cael ei ddweud wrtha i wrth i fi gael fy nghyfweld gan y blaenoriaid a'r swyddogion am y swydd, bod nhw'n gallu gweld bod na botensial yn y rhan yma o'r ddinas, bod na lu o deuluoedd yn symud i orllewin Caerdydd," meddai.
"Roedden nhw ishe rhywun o'dd yn gallu tapio mewn i hyn."
Cynnig mwynhad Aeth Evan Morgan ati i rwydweithio a cheisio denu rhagor o bobl i'r capel.
Dywed mai un o'r cyfrinachau yw sicrhau bod aelodau'r gynulleidfa'n mwynhau eu hunain - ond mae'n mynnu hefyd fod Salem yn cynnig mwy na dim ond cyfle arall i gymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghaerdydd.
"Wi'n credu bod Salem wedi dangos ers blynyddoedd bod capel yn gallu bod yn rhywle i fwynhau; lle mae 'na groeso, lle chi'n gallu chwerthin, lle chi'n gallu bod yn llawen.
"Does dim pwynt i chi sôn am lawenydd yr efengyl os y'ch chi'n cynnig rhywbeth sych a diflas a felly mae adlewyrchu y llawenydd yna a'r llawenydd yna yn hollbwysig.
"Mae rhai pobl wedi dweud wrtha i - 'Pe byddai rhywun wedi dweud wrtha i y byddwn i'n mynd i gapel yn selog yn fy nhridegau ac yn mwynhau mynd - byddwn wedi chwerthin am eu pennau nhw.'
"Ond mae'n amlwg eu bod nhw'n teimlo rhyw ddimensiwn arall sy'n hollbwysig - ac yn hyfryd a dweud y gwir."
Salem yn eithriad Ond, eithriad yw capel poblogaidd fel Salem. Dim ond 6% o bobl Cymru sy'n mynd i gapel yn rheolaidd, yn ôl ffigurau elusen Ymchwil Cristnogol.
Yn ôl Ysgrifennydd Cyffredinol y Presbyteriaid, y Parch Ifan Roberts - mae nifer aelodau'r enwad yn gostwng bump y cant bob blwyddyn ar gyfartaledd.
"Mae gynnon ni rhyw 650 o gapeli yng Nghymru. Mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw yn gapeli bychain o dan hanner cant o aelodau. Ac mae ganddo ni 35,000 o aelodau. Rhyw ddau neu dri o gapeli ar yr ochr Gymraeg sy'n tyfu. Ac mae Salem yn un o ychydig iawn o gapeli sy'n tyfu ar hyn o bryd," meddai.
Cred fod nifer o resymau am y dirywiad.
"Dwi'n meddwl ei fod o'n argyfwng ffydd yn un peth ac, o bosib, nad ydi'r capeli wedi edrych digon i'r dyfodol, ei fod yn edrych ormod i'r gorffennol.
"Hefyd - efallai nad yw wedi pontio digon a'r genhedlaeth newydd sy'n codi."
Newid cymdeithasol Yn ôl yr anthropolegydd Dr Charlotte Davies, newid cymdeithasol sydd wrth wraidd y dirywiad yn nylanwad y capel ar fywydau Cymry heddiw.
Yn Athro yn adran gymdeithaseg Prifysgol Cymru, Abertawe, bu hi'n astudio newid cymdeithasol a chrefyddol o fewn y ddinas honno.
"Newid yn natur y gymdeithas yw un o'r dylanwadau pwysicaf," meddai.
"Os ydych chi'n edrych ar sefyllfa'r capeli a'r eglwysi yn ardaloedd dosbarth gweithiol Abertawe yn y Chwedegau, roedd y cymunedau yn glos iawn. Roedd eu perthynas â'r capeli yn rhan o'r agosatrwydd o nabod pawb a chael teulu a ffrindiau o gwmpas.
"Beth ddigwyddodd, wrth gwrs, oedd bod y genhedlaeth gyntaf o'r dosbarth gweithiol yn cael cyfle o addysg uwch a chyfle o swyddi gwell.
"Wrth gael swyddi gwell, ro'n nhw eisiau symud mlaen a symud allan. Felly yn nhermau lle roedd pobl yn byw roedd dechrau torri o'r cymunedau yna."
Bodlon newid Mae'r adran gymdeithaseg ym mhrifysgol Abertawe wedi ymchwilio i lwyddiant a methiant rhai o gapeli'r ddinas gan ddod i'r casgliad bod rhai agweddau penodol yn cyfrannu at lwyddiant y capeli oedd yn gwneud yn dda.
"Capeli oedd yn fodlon newid, oedd yn fodlon arbrofi gyda'r ffordd o addoli, oedd yn llwyddo.
"Yr un arall oedd yn llwyddo oedd y capel oedd wedi ailsefydlu'r cyswllt â'r gymuned. Roedd hwnnw'n fwy o gapel cymuned," meddai.
'Yn ffodus iawn' Mae nifer o ffactorau wedi ychwanegu at lwyddiant capel Salem, ac yn ôl Haf Hayes a'i gŵr Mike, maen nhw eisiau parhau yn rhan o'r twf hwnnw i'r dyfodol.
"Fi'n meddwl ein bod ni'n ystyried ein hunain yn ffodus iawn fel rhieni plant bach sy'n mynd i Salem. Mae plant yn cael cymaint o sbort yn y capel.
"Mae'r stori bore Sul gydag Evan - wel, mae'n entertaining iawn.
"S'dim dal pa fath o brops fydd e'n eu defnyddio.
"Ac, wrth gwrs, os yw'r neges yn weladwy ac ymarferol fel 'na i'r plant fe fyddan nhw'n cofio'r neges a bydd e'n aros yn eu meddylie nhw.
"Ni'n rhagweld y byddwn ni'n rhan o'r capel am flynyddoedd lawer."
Bydd agoriad swyddogol estyniad capel Salem ar Fehefin y 17 2006 - cyfle prin mewn cyfnod o drai yn nhraddodiad Cristnogol Cymru i ddathlu twf un o gapeli llwyddiannus y wlad.
Darlledwyd hanes Capel Salem, Treganna, ar Manylu, 91Èȱ¬ Radio Cymru, Mehefin 8, 2006. (Ailddarllediad ddydd Sul, Mehefin 11 am 1800.)
|
|