91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
Cymru'r Byd

»

Archif Crefydd

Safle Newydd



91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Straeon
Archesgob Barry Morgan Gwrthwynebwyr yn colli esgob arbennig
Dim sail ddiwinyddol i esgob cynorthwyol
Mae Archesgob Cymru wedi sefyll yn gadarn o blaid penderfyniad diweddar i beidio â chael esgob arbennig ar gyfer y rhai nad ydynt o blaid cael offeiriaid benywaidd yn yr eglwys.

Yn siarad gyda John Roberts ar Bwrw Golwg, Radio Cymru bore Sul Medi 21, 2008, dywedodd y Parchedicaf Dr Barry Morgan mai addewid ar y tro nid addewid am byth oedd un mainc esgobion yr Eglwys yng Nghymru i gael esgob cynorthwyol i ofalu am y rhai sy'n gwrthwynebu ordeinio merched yn ôl Archesgob Cymru.



David Thomas fu'n gwneud y gwaith ers y penderfyniad dros y 12 mlynedd yn ôl.

Yn awr ei fod ef wedi ymddeol penderfynodd Mainc yr Esgobion beidio â phenodi olynydd iddo.

Mae lle
Ond gwadodd Barry Morgan bod hynny'n arwydd nad oes lle yn yr Eglwys yng Nghymru i rai sy'n gwrthwynebu ordeinio merched yn offeiriaid.

"Fe es i allan o'm ffordd i ddweud ein bod ni fel esgobion am sicrhau lle parhaol iddyn nhw ym mywyd yr eglwys," meddai Barry Morgan.

Gwadodd hefyd i'r eglwys dorri addewid trwy beidio â pharhau â'r arfer o gael esgob cynorthwyol ar gyfer y gwrthwynebwyr.

"Addewid ar y tro," oedd yr un am esgob cynorthwyol. "Doedd e ddim yn addewid am byth," meddai.

Cyfle i ailfeddwl
"Mae'r trefniant wedi bod am 12 mlynedd ac unwaith bod David Thomas wedi ymddeol yr oedd hwn yn rhoi cyfle i esgobion feddwl a oeddem yn mynd i barhau â'r trefniant . . . ac yn y pen draw ar sail cred ac athrawiaeth roeddem ni'n meddwl, 'Wel dyw e ddim yn angenrheidiol nac yn gydnaws i eglwys Anglicanaidd benodi esgob o'r fath.'

"Achos beth ydych chi'n i wneud fan hyn yw penodi esgob i fod yn gyfrifol am un garfan sydd ddim yn cytuno gyda'u hesgobion cadeiriol ac os nad ydych chi'n ofalus bydd pawb eisiau eu hesgob arbennig nhw am rhyw bwnc neu'i gilydd os nad ydyn nhw'n cytuno â'r esgob cadeiriol.

"Cyfrifoldeb esgob yw cynrychioli a gofalu am bawb yn yr esgobaeth ac mae'r esgobion cadeiriol wedi dal i wneud hynny hyd yn oed pan oedd David Thomas wrth y llyw.

"Yr unig beth ydym ni'n wneud yw . . . dweud wrthyn nhw, 'Ylwch rydym am ichi barhau i fod yn aelodau o'r Eglwys yng Nghymru . Mae yna le ichi yn yr Eglwys yng Nghymru ond mae'r trefniant yma yn dod i ben'.

Heb sail ddiwinyddol
Er bod trefniant arbennig yn parhau i fodoli o fewn Eglwys Loegr dywedodd yr Archesgob Barry nad oes unrhyw sail ddiwinyddol i hynny ac mai hi yw'r unig eglwys Anglicanaidd i fod â threfniant felly.

"Dydw i ddim yn credu fod yr hyn maen nhw wedi'i wneud yn gydnaws ag eglwysyddiaeth Anglicanaidd ," meddai.

Gwadodd fod hyn yn "ddangos y drws" i'r rhai hynny sy'n gwrthwynebu ordeinio merched.

Ychwanegodd i'r penderfyniad gael ei wneud "ar sail ddiwinyddol eglur a chadarn".

"Dydy ni ddim yn eu hesgymuno nhw. Dydy ni ddim yn dweud. 'Does yna ddim lle i chi yn yr Eglwys yng Nghymru.'," meddai.

Wedi siomi
Ond dywedodd y Parchedig Philip Davies sydd yn gwrthwynebu ordeinio merched iddo ef ac eraill gael eu siomi gyda'r penderfyniad.



"Yn sicr maen nhw [Mainc yr Esgobion] wedi ein siomi ni'n difrifol," meddai.

Cymharodd yr hyn sydd newydd ddigwydd yng Nghymru fel yr hyn a ddywed sydd wedi digwydd yn Sweden a'r Unol daleithiau "lle ar y dechrau mae'r rhai hynny sy'n gwrthwynebu wedi cael pob math o addewidion a'r addewidion yna yn cael eu tynnu'n ôl o dipyn i beth rydym yn gweld rhywbeth go debyg yn digwydd yng Nghymru."

Dywedodd ei bod yn hanfodol cael esgob penodol ar gyfer y gwrthwynebwyr:

"Dyna'r drefn a benderfynwyd pan gafwyd merched yn offeiriaid," meddai gan bwysleisio i'r penderfyniad hwnnw gael ei wneud yn ystod cyfnod Rowan Williams yn Archesgob Cymru ac yntau "yn un o'r diwinyddion mwyaf disglair erioed".

"Chwarae teg iddo fe, er ei fod o blaid cael menywod yn offeiriaid ac yn esgobion eto mae e'n ceisio sicrhau yn Eglwys Loegr fod y rhai sy'n gwrthwynebu yn cael chware teg," meddai.

Ychwanegodd i weinidogaeth yr Esgob David fod yn llwyddiant.

'Dim angen'
Ar yr un rhaglen dywedodd y Parchedig Enid Morgan ei bod hi'n amau a yw'r angen am ofal bugeiliol a fodolai 12 mlynedd yn ôl yn parhau heddiw.



"Dwi ddim yn meddwl ei bod yn ymarferol nac yn ddiwinyddol gyson i fod â dau esgob i ddelio gyda grŵp bach erbyn hyn sydd yn methu dygymod â gweinidogaeth gwragedd," meddai.


Llusern
Hanes Crefydd yng Nghymru
Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý