Cafodd y gwahaniaeth sylfaenol rhwng safbwynt Rowan Williams, Archesgob Caergaint, ac un Richard Dawkins, y gwyddonydd, ei egluro ar y rhaglen radio, Bwrw Golwg
Yr oedd Noel Davies, Cyfarwyddwr Hyfforddiant yr Annibynwyr yn y De a Chyfarwyddwr y Ganolfan Ecwmenaidd yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin, yn siarad wedi iddo fod yn gwrando ar ddarlith gan yr Archesgob - Sut i Gamddeall Crefydd -
ym Mhrifysgol Abertawe, Hydref 13.
Yn cael ei holi gan John Roberts, cyflwynydd Bwrw Golwg, dywedodd Noel Davies mai craidd safbwynt Dawkins yw y gellir delio â phethau crefyddol yn yr un modd a phethau biolegol. Ei ddamcaniaeth yw bod genynnau mewn pobl sy'n trosglwyddo nodweddion diwylliannol yn yr un modd ag y mae genynnau eraill sy'n trosglwyddo nodweddion biolegol o un genhedlaeth i'r llall.
"Ond dywed Rowan Williams nad oes unrhyw brawf mai felly mae hi ac, felly, nad oes unrhyw sicrwydd y gellir siarad am grefydd yn yr un modd ag y gellir siarad am Fioleg," meddai,"
Esbonio'r anesboniadwy
"Mae Dawkins yn awgrymu mai pwrpas crefydd, ymhlith pethau eraill, yw trio esbonio yr anesboniadwy. Esbonio tarddiad y greadigaeth, tarddiad bywyd ac, wrth gwrs, mae'n dweud, 'Mae hynny'n ddwli, dyw e ddim yn bosib felly mae crefydd yn ddwli.'
"Ond y pwynt mae Rowan Williams yn ei wneud yw, nad yw crefydd fel y cyfryw yn ceisio esbonio.
"Ymateb i'r hyn 'Sydd' y mae crefydd nid trio esbonio ei darddiadau - mater o ffydd yw e.
"Mae yna naid sy'n dweud, Yn Nuw mae hyn wedi digwydd - allwch chi ddim profi hynny. Dyw e ddim yn esbonio dim ond fan yna rydym ni'n sefyll ac felly dyw honiad sylfaenol Dawkins ddim yn dal dŵr," meddai Noel Davies.
Arwydd o wendid
Ynglŷn â dadl Dawkins mai arwydd wendid mewn pobl yw'r angen am grefydd i fod yn fagl i'w cynnal dywedodd Noel Davies:
"Odi mae e'n dweud hynny - ond eto doedd Rowan Williams ddim yn cymryd hynny o ddifrif ychwaith a beth mae e'n honni yw nad ydym yn sylfaenol yn crefydda er mwyn sicrhau ein diogelwch ein hunain.
"Efallai'n bod ni'n credu o ganlyniad i'n crefydd fod yna ddyfodol. Falle 'mod i'n credu mod i'n Gristion gweithredol am fy mod i'n credu y byddai hynny yn arwain i ddyfodol tragwyddol ond dyw hynny ddim yn hanfod crefydd.
" Yr ydym ni'n credu; am fod Duw . . . yno i ni ac rydym yn rhoi ein hunain yn nwylo Duw hyd yn oed os na fydd hynny yn gwarantu unrhyw ddyfodol a diogelwch am y dyfodol.
"Ac rwy'n credu fod Rowan Williams yn dadlau nad yw Dawkins wedi deall yr elfen yma o fenter, o risgio'r dyfodol er mwyn ffydd," meddai.
Wrth orffen ei sgwrs dywedodd Noel Davies fod hon yn drafodaeth sydd angen ei hymestyn.
"Mae'r cwestiynau yma yn dyngedfennol bwysig," meddai.
Ewch yn ddechrau'r erthygl i wrando ar y drafodaeth.