91Èȱ¬

Llywodraeth ElisabethPryderon y Senedd

Roedd Elisabeth I yn wynebu nifer o sialensiau wrth lywodraethu’r wlad. Roedd angen iddi ddangos cryfder ac arweinyddiaeth, ond roedd angen iddi gael dynion pwerus i’w chefnogi hefyd. Pa mor lwyddiannus oedd llywodraeth Elisabeth I?

Part of HanesOes Elisabeth, 1558-1603

Pryderon y Senedd

Yn ogystal â threthiant a rhyddid barn, roedd y Senedd yn poeni am briodas, crefydd a monopolïau.

Priodas

Roedd rhai Aelodau Seneddol yn teimlo y dylai Elisabeth enwi cariad i’w briodi ac i gynhyrchu etifedd er mwyn diogelu’r llinell . Ymateb Elisabeth oedd mai ei busnes preifat hi oedd hynny ac y byddai’n priodi os a phryd bynnag y byddai’n gyfleus.

Ar hyn o bryd, nid yw’n gyfleus; ni fydd byth yn gyfleus heb rywfaint o berygl i chi a rhywfaint o berygl i fi
— Gofynnodd Elisabeth I i’r Senedd roi’r gorau i roi pwysau arni i briodi, 1566

Crefydd

Roedd Elisabeth yn ac fe wnaeth adfer pan ddaeth i bŵer, ond er mwyn osgoi gwrthdaro crefyddol, cynigiodd ‘ffordd ganol’ oedd yn caniatáu peth addoli a thraddodiadau . Roedd rhai Aelodau Seneddol yn anghytuno gyda’r cyfaddawd hwn a heriwyd Elisabeth drwy fygwth i beidio â rhoi arian trethi iddi. Dywedodd Elisabeth fod crefydd yn ‘fater i’r wlad’, ac nid i’r Senedd, ac fe wnaeth Elisabeth eu gwahardd rhag trafod crefydd.

²Ñ´Ç²Ô´Ç±è´Ç±ôï²¹³Ü

Roedd monopolïau yn rhoi’r hawl unigryw i a masnachwyr unigol i gynhyrchu neu werthu nwyddau penodol. Drwy’r monopolïau, bwriad Elisabeth oedd hyrwyddo busnesau a hybu’r economi, ond oherwydd mai un person bellach oedd yn rheoli’r cyflenwad o gynnyrch penodol, roedd yn golygu bod prisiau’n codi. Gwnaeth Elisabeth, oedd mewn dyled o £227,000 ar ddechrau ei theyrnasiad, arian wrth ddyfarnu’r trwyddedau .

Tuag at ddiwedd teyrnasiad Elisabeth, teimlai rhai Aelodau Seneddol fod monopolïau yn annheg ac yn cael eu camddefnyddio. Cafwyd gwrthwynebiad yn eu herbyn yn 1597-8 ac 1601 ac ni fydden nhw’n fodlon caniatáu trethi nes i’r monopolïau gael eu diddymu.

Yn ystod y cyfnod hwn, cyfaddawdu wnaeth Elisabeth a thynnodd rai monopolïau yn ôl. Hefyd, gwnaeth araith hir yn canmol y Senedd, a chafodd yr araith honno ei galw ‘Yr Araith Euraidd’, oedd yn dangos unwaith eto ei bod yn ddoeth ac yn graff wrth reoli.