Rôl y Senedd
Swyddogaeth y Senedd
Roedd SeneddCorff sy’n gwneud cyfreithiau mewn gwlad. oes Elisabeth yn wahanol iawn i’r Senedd heddiw. Roedd yn llawer llai pwerus a ddim yn cynrychioli’r boblogaeth yn llawn. Doedd dim Prif Weinidog, dim pleidiau gwleidyddol, dynion oedd yr Aelodau Seneddol (ASau) i gyd, a bydden nhw'n cael eu hethol gan dirfeddianwyr cyfoethog.
Er bod y Senedd yn rhan sefydlog o’r llywodraeth, nid oedd yn beth rheolaidd neu’n angenrheidiol ar yr adeg yma.
Dwy brif swyddogaeth y Senedd oedd:
- cyflwyno cyfreithiau newydd, drwy pasio Deddf Seneddol
- codi arian, gan fod angen caniatâd y Senedd i gasglu trethi
Serch hynny, roedd Elisabeth yn rheoli’r Senedd yn dynn.
- Gallai’r Senedd ond cwrdd pe byddai Elisabeth yn cytuno i hynny, a hi fyddai’n gosod yr agenda.
- Gallai’r Senedd ond siarad am faterion oedd Elisabeth wedi caniatáu iddi drafod.
- Roedd Elisabeth yn defnyddio’r Senedd yn bennaf i gytuno ar ei threthi – dyma oedd ei phrif incwm.
- Gallai Elisabeth gau’r Senedd (gohirio) unrhyw bryd.
- Sicrhaodd Elisabeth fod aelodau’r Y Cyfrin GyngorGrŵp o uwch wleidyddion sy’n cynghori’r brenin neu’r frenhines. yn eistedd yn y Senedd er mwyn helpu i reoli’r gweithgareddau.
Materion trethiant a rhyddid barn
Yn ystod y cyfnod hwn, daeth Tŷ’r Cyffredin yn fwy ac yn fwy pwysig, yn bennaf oherwydd bod trefi yn troi’n fwrdeistrefi ac felly yn gallu cael Aelod Seneddol. Teimlai’r Senedd y dylai gael mwy o ddylanwad dros benderfyniadau a wnaed ar gyfer y wlad. O ganlyniad, doedd Elisabeth a’i Seneddau ddim wastad yn cytuno ar y materion pwysig.
Roedd disgwyl i frenhinoedd a breninesau y Tuduriaid dalu am gost rhedeg y wlad, gyda’r incwm yn dod o feysydd fel rhent ystadau brenhinol a tolldaliadauTrethi ar nwyddau sy’n dod i fewn i’r wlad.. O ganlyniad, bydden nhw’n brin o arian yn aml iawn ac yn gorfod gofyn i’r Senedd am gyllid ychwanegol drwy drethiant.
Roedd teyrnasiad Elisabeth yn gyfnod pan roedd chwyddiantPrisiau’n codi. yn broblem sylweddol ac roedd gwrthdaro gyda gwledydd eraill yn gwaethygu’r sefyllfa. Cynyddodd baich trethiant felly yn ystod ei theyrnasiad. Roedd gofynion y frenhines am arian ychwanegol yn aml yn arwain at anghytuno yn y Senedd gyda rhai Aelodau Seneddol yn gwrthod rhoi caniatâd am arian ychwanegol, oni bai bod materion roedden nhw am eu lleisio yn cael eu trafod.
Un o’r materion hyn oedd rhyddid barn. Roedd gan y Frenhines a’r Senedd syniadau gwahanol iawn ynglŷn â’r hyn roedd y term yn ei olygu. Roedd nifer o Aelodau Seneddol o’r farn y dylai Tŷ’r Cyffredin gael hawl i drafod beth bynnag y dymunai, yn enwedig polisi crefyddol Elisabeth. Fodd bynnag, credai’r Frenhines mai swyddogaeth y Senedd oedd dweud ie neu na i mesurCynnig gerbron y Senedd yw mesur. Os daw’n gyfraith, caiff ei alw’n Ddeddf., ond fawr ddim arall.
Sicrhaodd Elisabeth hawl dros rai materion gan wahardd y Senedd rhag:
- drafod ei phriodas a’r olyniaeth
- trafod crefydd
- datgan rhyfel a heddwch
Serch hynny, doedd hynny ddim yn rhwystro’r Senedd rhag codi’r materion hyn, ac ar sawl achlysur, gorfodwyd y Frenhines i roi ymatebion aneglur i’w gorchmynion ac yna cau’r Senedd. Yn 1576, cwynodd yr AS Piwritanaidd, Peter Wentworth, nad oedd ASau yn rhydd i drafod beth bynnag roedden nhw'n ei ddymuno. Anfonodd Elisabeth e i Dŵr Llundain am fis ar ôl iddo leisio’i farn.