Llywodraeth leol yng Nghymru
Llywodraeth leol
Y Frenhines oedd yn gyfrifol am sicrhau y gallai pobl ledled y wlad fyw mewn heddwch a threfn dda. Serch hynny, roedd yn amlwg yn anodd i'r llywodraeth ganolog yn Llundain gyfathrebu â gweddill y wlad ar adeg pan oedd teithio a chyfathrebu’n araf iawn. Felly, roedd system trefnus a sefydlog o lywodraeth leol a'i rôl oedd sicrhau bod cyfraith gwlad yn cael ei gwireddu a bod heddwch yn cael ei gynnal.
Y sefyllfa yng Nghymru
Roedd gan Gymru system weinyddolStrwythur llywodraeth. ychydig yn wahanol i Lloegr. Yn dilyn Deddfau Uno Harri VIII yn 1536 a 1543, roedd Cymru o dan reolaeth wleidyddol Lloegr yn ffurfiol. Serch hynny, roedd gan Gymru system weinyddol ychydig yn wahanol. Cyngor Cymru a’r Gororau oedd y corff oedd yn gyfrifol am redeg Cymru a chafodd ei arwain gan Arglwydd Lywydd, gyda'r pencadlys yn Llwydlo.
Yn ystod teyrnasiad Elisabeth, y ddau Arglwydd Lywydd mwyaf blaenllaw oedd:
- Syr Henry Sidney (yn y swydd rhwng 1560-86)
- Henry Herbert, 2il Iarll Penfro (yn y swydd rhwng 1586-1601)
Roedd Dirprwy Raglaw a chyngor o 20 o aelodau yn helpu’r Arglwydd Lywydd ac yn gyfrifol am ddau faes llywodraeth leol – gweinyddu a chyfiawnder. Dyma oedd y llys uchaf yng Nghymru, gan wrando ar achosion fel llofruddiaethau, môr-ladrata ac ati.
O dan y Dirprwy Raglaw, ar lefel fwy lleol, cafwyd y siryfion ac yna’r Ynadon Heddwch. Roedd gan bob sir siryf oedd yn delio’n bennaf â materion cyfreithiol, ond erbyn teyrnasiad Elisabeth, roedd y swydd wedi colli rhywfaint ar ei phwysigrwydd blaenorol.
Roedd yr Ynadon Heddwch yng Nghymru a Lloegr, fodd bynnag, yn bwysig iawn ar lefel leol a chynyddodd eu llwyth gwaith o dan Elisabeth. Gan amlaf, roedd rhwng 30 a 60 ym mhob sir ac roedd y gwaith fel arfer yn cael ei wneud gan ddynion gwledig cyfoethog, gan nad oedd tâl am y swydd. Roedd yn rhoi dylanwad a phŵer i’r dynion hyn o fewn y gymuned wrth iddyn nhw gyflawni dyletswyddau fel:
- delio â throseddau
- goruchwylio gwaith y rheini oedd yn gofalu am y tlawd
- sicrhau bod seremonïau cyhoeddi brenhinolCyfarwyddiadau’r Brenin neu’r Frenhines – ond nid oedd gan y seremonïau hyn yr un grym â’r gyfraith. a chyfreithiau yn cael eu cynnal
Roedd Ynadon Heddwch yn cael eu cefnogi gan is-swyddogion fel Cwnstabliaid Plwyf, Goruchwyliwr y tlawd a Gwylwyr Nos. Gwnaeth Elisabeth ddefnydd llawn o’r Ynadon Heddwch i sicrhau bod cyfraith a threfn yn cael eu cynnal, ond hefyd i geisio lleihau pŵer teuluoedd bonedd yn y siroedd. Roedd hi eisiau gwneud yn siŵr bod ei rheolaeth hi a Heddwch y Frenhines yn ymestyn i bob rhan o’r wlad.