Y Llys Brenhinol a'r Cyfrin Gyngor
Y Llys Brenhinol
Yn ystod y cyfnod hwn, roedd gan Elisabeth bŵer sylweddol, er nad oedd yn unben. Serch hynny, gallai ddewis gweinidogion a swyddogion i’w chynghori. Roedd y grŵp yn cynnwys aelodau’r Cyfrin Gyngor, barnwyr ac Arglwyddi RhaglawCynrychiolwyr y Frenhines yn y siroedd..
Roedd Elisabeth yn byw ym Mhalas Whitehall, Llundain. Roedd ei chynghorwyr, swyddogion y llywodraeth, boneddigesau preswyl a gweision yn byw gyda hi. Cafodd y gymuned fawr hon ei hadnabod fel Y Llys Brenhinol ac roedd y rheini oedd yn rhan o’r llys yn cael eu galw’n gwŷr llys.
Roedd aelodau’r Llys Brenhinol yn gwneud amrywiaeth eang o ddyletswyddau. Roedd rhai yn gwneud swyddi domestig, fel bwydo neu ofalu am y bobl oedd yn rhan o’r Llys neu’n ymweld ag e. Cafwyd caplaniaid a meddygon a phobl oedd yn gofalu am y ceffylau a’r palasau brenhinol.
Byddai’r Llys Brenhinol hefyd yn mynd gyda’r Frenhines wrth iddi deithio o amgylch y wlad. Cafodd yr ymweliadau hyn eu galw’n gylchdeithiau ac yn ystod y cylchdeithiau hyn, byddai’r Frenhines yn aros yn nhai uchelwyr cyfoethog, ar gost mawr yn aml iawn.
Y Llys Brenhinol oedd canolbwynt pŵer gwleidyddol Cymru a Lloegr yn ystod oes Elisabeth. Byddai pobl gyfoethog ac uchelgeisiol yn mynd yno ac yn ceisio denu sylw’r Frenhines gan ennill ei ffafr, yn y gobaith y bydden nhw'n cael eu gwobrwyo gyda swydd bwysig yn y llywodraeth fyddai’n dod â phŵer, dylanwad ac incwm gwerthfawr.
Roedd defnyddio nawddogaethY pŵer i benodi pobl i swydd neu safle pwysig. yn galluogi Elisabeth i sicrhau bod ei deiliaid yn deyrngar iddi. Roedd y Llys Brenhinol hefyd yn lle o gystadlu, cynllwynio a chynnen mawr. Yn ystod ei theyrnasiad, bu’n rhaid i’r Frenhines ymyrryd yn y dadleuon hyn i sicrhau mai ei phŵer hi oedd oruchaf.
Y Cyfrin Gyngor
Wrth iddi esgyn i’r orsedd, dewisodd Elisabeth grŵp bach o ddynion fel ei phrif gynghorwyr, o’r enw Y Cyfrin Gyngor, oedd yn gyfrifol am:
- gynorthwyo’r Frenhines i wneud penderfyniadau ynglŷn â pholisïau cartref a thramor
- sicrhau bod yr holl benderfyniadau gwleidyddol yn cael eu gwireddu
- cadw’r llywodraeth mewn cysylltiad â gweddill y genedl drwy’r bobl oedd yn dal pŵer yn y siroedd a’r trefi
- cwrdd, ar gais y Frenhines, oedd bron iawn bob dydd erbyn diwedd ei theyrnasiad (tua tair gwaith yr wythnos ar y dechrau)
Roedd nifer aelodau’r Cyfrin Gyngor yn amrywio o 12 i 20 yn ystod ei theyrnasiad. O’r 19 a benodwyd yn 1558, roedd hanner wedi gwasanaethu o dan ei chwaer Mari. Ceisiodd Elisabeth ddewis cynghorwyr gydag amrywiaeth o safbwyntiau, er i hyn arwain at rywfaint o anghytuno rhwng aelodau’r Cyfrin Gyngor a’r Frenhines.