91Èȱ¬

Llywodraeth ElisabethPrif gynghorwyr Elisabeth

Roedd Elisabeth I yn wynebu nifer o sialensiau wrth lywodraethu’r wlad. Roedd angen iddi ddangos cryfder ac arweinyddiaeth, ond roedd angen iddi gael dynion pwerus i’w chefnogi hefyd. Pa mor lwyddiannus oedd llywodraeth Elisabeth I?

Part of HanesOes Elisabeth, 1558-1603

Prif gynghorwyr Elisabeth

Portread o William Cecil, Arglwydd Burghley
Image caption,
William Cecil, Arglwydd Burghley

William Cecil

Penododd Elisabeth Cecil fel yn 1558. Fe oedd ei mwyaf poblogaidd gan gynghori’r Frenhines yn ddoeth am 40 mlynedd.

Protestant cymhedrol oedd e, a gwasanaethodd fel cyswllt rhwng y frenhines a’r senedd. Yn 1571 derbyniodd y teitl Arglwydd Burghley.

Portread o William Cecil, Arglwydd Burghley
Image caption,
William Cecil, Arglwydd Burghley
Portread o Syr Francis Walsingham
Image caption,
Syr Francis Walsingham

Syr Francis Walsingham

Yn Biwritan ffyddlon, yn gyfrifol am wasanaeth cudd Elisabeth ac yn cynghori ar . Yn 1586, datgelodd y cynllwyn a arweiniodd at ddienyddiad Mari, Frenhines y Sgotiaid.

Portread o Syr Francis Walsingham
Image caption,
Syr Francis Walsingham
Portread o Robert Dudley
Image caption,
Robert Dudley, Iarll CaerlÅ·r

Robert Dudley

Iarll Caerlŷr a chynghorydd y gellid dibynnu arno tan ei farwolaeth yn 1588. Roedd Elisabeth a Robert Dudley yn agos iawn ac roedd sïon bod Elisabeth ac e yn gariadon.

Roedd e’n Biwritan a ddim yn cyd-dynnu gyda Cecil, gyda’r ddau yn rhoi cyngor gwrthgyferbyniol i’r Frenhines yn aml iawn.

Portread o Robert Dudley
Image caption,
Robert Dudley, Iarll CaerlÅ·r

Dau gynghorydd amlwg arall oedd:

  • Syr Christopher Hatton, Protestant cymedrol, a benodwyd yn Arglwydd Ganghellor yn 1587.
  • Robert Devereux, 2il Iarll Essex, oedd wrth ei fodd yn cael cymeradwyaeth y Frenhines yn ystod y 1590au ond roedd yn aml yn ffraeo gyda hi. Roedd yn rhan o gynllwyn i gael gwared ar rai o gynghorwyr y Frenhines, gan arwain at ei wrthryfel yn 1601, lle cafodd ei ddienyddio.