91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Brenda James (gynt Roberts) yn arddangos Y Tarw (Tua 1941) Llun trwy garedigrwydd Brenda James. Hel atgofion
Atgofion o blentyndod Brenda James yn ystod ei magwraeth yn ardal wledig Talyllychau, sir Gaerfyrddin.
Un o gysuron henoed yw gallu cofio'n ôl a chael modd i wenu'n braf wrth gofio am gymeriadau a digwyddiadau bore oes.

Heddiw mae cymaint o sôn am blant a phobl ifanc yn cam fihafio yn chwilio am ddedwyddwch mewn cyffuriau, diod a phethau annifyr. Pam? Yr ateb gan y mwyafrif yw "Achos bod ni'n bored"

Beth yn y byd sydd ar ieuenctid heddi? Mae gyda nhw'r radio teledu, gemau teledu di-rif, chwaraeon a chyfleusterau anfesurol i dorri eu chwant.

Beth oedd gyda ni slawer dydd heb un o'r manteision yma?

Rhaid oedd diddori ein hunain a hynny mewn ffyrdd syml iawn. Yng nghefn gwlad doedd dim llawer i'n diddanu oddieithr tri neu bedwar cyngerdd mewn blwyddyn gyfan, ambell eisteddfod a Chymanfa Ganu.

Beth am nosweithiau'r gaeaf? Wedi dod adref o'r ysgol a chael te rhaid oedd mynd allan i'r ddwy sied ieir oedd gyda ni. Roedd un sied ar gyfer yr ieir bwrdd (table birds) fel y Rhode Island Reds, ffowlyn go dda ac yn ddigon i fwydo'r wyth ohonom sef nhad a mam a chwech o blant, ac os nad oedd maint y ffowlyn gymaint ag arfer rhaid oedd cael cwningen i'w rhostio gydag e' i wneud yn siŵr y byddai pawb yn cael eu gwala.

Yn y sied arall roedd y bridiau ysgafn yr Exchequer Leghorn, rhai da am ddodwy wyau. Ein tasg oedd casglu'r wyau o'r nithoedd a rhaid oedd rhoi pob gofal i'r fasged rhag ofn cwympo a'r wyau yn torri.

Gwaith Cartref y Cownti Scŵl
Y dasg nesaf oedd gwaith cartref ac yn ystod fy amser yn y "Cownti Scŵl' roedd y gwaith yn cynyddu'n enbyd. Rhaid oedd ei gwblhau cyn amser swper er mwyn clirio'r bwrdd o'm llyfrau. Un noson, penderfynais mai gorau beth fyddai aros tan i bawb fynd i'r gwely ac yna cawn dawelwch i astudio.

Gofynnais i mam am ddiffodd y lamp olew, gan fod ofn diffodd y lamp arnaf a gadael cannwyll yn olau i mi. Cefais brofiad a'm dychrynodd un noson wrth fynd â'r lamp allan er mwyn rhoi'r paraffîn ynddi. Doedd ynddi ddim digon i gadw'n ynghyn hyd amser gwely. Roedd drws y beudy uchaf ar agor a gwelais mam yn codi o'i stôl fach i fynd a'r stenaid llaeth i'r ystafell oeri'r llaeth.

Diolch fyth fod gan mam drwyn sensitif. Edrychodd drwy'r drws i'm gweld yn arllwys olew i mewn i'r lamp. Rhedodd tuag ataf;
"Beth wy ti'n wneud groten? Petrol sydd yn y tin na, fe allset fod wedi dodi'r tŷ ar dân." Rhedais o'r golwg wedi fy nychryn yn lân ond wedi dysgu gwers na wnaf fyth mo'i anghofio. Rhaid oedd i mi ddibynnu ar gannwyll o hynny allan. Ar y noson arbennig, fe euthum ati i adolygu tipyn ar gyfer y "Central Welsh Board Senior" (O level neu TGAU heddiw) a phawb yn y gwely. Y nesaf peth i mi ei gofio oedd dihuno, fy mhen yn gorffwys ar fy llaw ar y bwrdd, a'r gannwyll wedi llosgi'n llwyr. Mynd i'r gwely fel pawb arall wnes i wedi hynny.

Ambell waith gofynnai mam "Odi chi wedi cau'r sieds ffowls blant"? Jac fy mrawd a finne'n edrych ar ein gilydd a dangos dyrnau i'n gilydd, mynd i hôl y lamp stabal, os roedd hi wedi nosi, gwisgo cot a chap a mynd allan at y dasg gydag un yn beio'r llall am anghofio cau'r sieds.

Amser chwarae
Ar ôl swper roedd gennym gyfle i ryw gemau bach fel tipit, cardiau chwist, dominoes, snakes and ladders ac yn ystod y cynhaeaf "Buwch Pentwyn" a hynny wedi bod allan yn yr allt yn hel cnau. Wedi cyrraedd adref byddai gennym gnwd eitha da a dyma ddechreu'r gêm. Rhaid i bob un gael cap a rhoi nifer dda o gnau ymhob un.

Yna dechrau arni; y cyntaf yn cydio mewn dyrnaid o gnau o'i gap gan ddweud- "Buwch Pentwyn dorrodd ei thrwyn, pa sawl gwaith"? Bydde'r gweddill yn ateb gan amcani nifer o'r cnau- Pum gwaith---Nage----Saith Gwaith---Nage ac ymlaen hyd nes bod pawb wedi amcani a dyna'r heriwr yn agor ei law ac efallai cael mai dim ond un gneuen fyddai ynddi. Rhaid oedd i'r un ddwedodd Pum gwaith roi pedair cneuen i'r heriwr a'r gweddill i setlo yn ôl ei hamcanion. Roedd tipyn o hwyl diniwed i'w gael ond ar ddiwedd y sesiwn byddem yn sicrhau fod pob un yn gorffen gyda'r un faint o gnau yn ei gap.

Cofiaf yn dda un nos Lun, a ninnau'n trafod yr apêl at y Genhadaeth yn oedfa'r Sul, gweld Islwyn y brawd hynaf yn codi o'i stôl, a chydio yn ei het waith ac yna mynd o'n hamgylch gan gyhoeddi "Rwy'n casglu at y Genhadaeth" gan ddal yr het o dan drwyn pob un ohonom yn ein tro. Doedd gan neb geiniog i'w sbario ac oherwydd i ni fethu rhoi, taflodd ei het i fyny a'i chicio'n uwch nes iddi ddisgyn ar ben y lamp olew. Does dim angen datgan ymateb mam i'r holl rialtwch.

Un diddordeb a oedd wrth fodd pob un ohonom oedd canu a hynny i gyfeiliant fy nhad ar yr organ, ei delyn fach Mandolin, ac os fyddai rhyw ymwelydd yn medru chware'r organ fe gydiai nhad yn ei ffliwt i roi lliw ar y cyfan. Yn rhyfedd ni chafodd fy nhad un wers mewn cerddoriaeth erioed ond roedd yn gerddor arbennig ac yn gweithredu "wrth y glust" yn hollol. Roedd ganddo amynedd di-bendraw wrth geisio'n paratoi ni ar gyfer y Gyngerdd Nadolig yn y capel.

Y bechgyn yn y teulu gafodd leisiau canu da ond fe fyddwn yn canu deuawd gyda Bernice fy chwaer ond fe fu ymgais fy nhad at ddysgu pedwarawd yn fethiant. Fe fydde nhad yn ceisio dysgu'r alto i Bernice, tenor i Gwyn bas i Islwyn a'r soprano i fi ac wrth roi sylw i un ar y tro fe fyddai'r tri arall yn tynnu wynebau neu wneud stymiau er mwyn peri i'r unigolyn dorri allan i chwerthin. Wedi poeni am dipyn fe ddwedai'n nhad "Dyna ddigon! Chi ddim am ddysgu rwy'n gweld" a mynd allan i'r gegin fawr a thanio'i bîb.

Fe fyddai Sŵn y Jiwbili, Odlau'r Efengyl, y New Revival Hymn Book a detholiadau'r Cymanfaoedd yn cael eu defnyddio'n gyson. Mae'r tonau yma yn dal yn fytholwyrdd. Roedd gan Islwyn ddiddordeb mewn canu gwerin ar "Alaw Penrhaw" i gyfeiliant y delyn fach. Fe aeth y llyfryn barddoniaeth "Difyrrwr y Dorf "ar goll, er mawr siom. Credaf mai'r Parch Derwennydd Morgan, a fu am gyfnod yn weinidog yn America, a'i hysgrifennodd. Bellach nis gallaf gofio fwy nag un pennill o'r rhai yr arferai Islwyn eu canu:

Paid yfed cwrw ar dy lw
Mae hwnnw'n berffaith elyn,
Na chwisgi cryf, os gwag dy ben,
Neu fydd e'n wacach wedyn.
Ond ŷf o ddŵr y ffynnon fach
A llefrith iach ac enwyn

Gwneud menyn
Faint o bobl heddiw sy'n yfed enwyn? Mae siŵr o fod modd i'w brynu yn rhai o'r archfarchnadoedd heddiw, ond roedd gennym beth i'w yfed yn ffres o'r fuddai pan fyddai mam yn gwneud ymenyn. Roedd yn llesol. Gallaf flasu'r sbotiau bach o'r ymenyn ar wyneb yr enwyn hyd heddiw.

Sarah Jane Roberts Blannant, Talyllychau (mam) a'm chwaer Bernice yn barod i odro. (Tua 1940.) Llun trwy garedigrwydd Brenda James.Roedd yr ymenyn a wnai mam bob amser yn hyfryd ei flas a'm gofid penna' i pan yn blentyn, pan benderfynodd nhad a mam i droi at werthu'r llaeth i'r Ffatri Laeth yn Ffairfach, bryd hynny, oedd "Pidwch wir a gwerthu'r llath neu fe fydd raid prynu menyn a fydd hwnnw ddim mor ffein a'ch menyn chi mam a bydd dim llath enwyn i'w gal i'w yfed"

Gwerthu'r llath wnaed a'r elw yn dipyn gwell na'r un wrth werthu menyn ac hefyd arbed i nhad i orfod troi y fuddai a'r hufen ynddo i'w gorddu a'i droi yn fenyn ac yna mam yn ei drin, ei halltu a'i baratoi yn ddarnau sgwâr gyda'r "clappers" a'r "Scotch Hands" er mwyn gwneud patrymau pert ar y top.

Tua diwedd yr haf a dechreu'r Hydref pan fyddai digon o laeth i'w gael, rhaid oedd dechreu llanw'r crochan pridd mawr fyddai'n storio digon o fenyn i barhau dros y gaeaf pan fyddai ond ychydig o laeth gan y gwartheg. Yn y Gwanwyn, pan y byddai'r lloi bach yn cael eu geni, caem gyflenwad o laeth unwaith eto.

Un gorchwyl fyddai'n rhaid i Jac a fi ei wneud yn y gwanwyn oedd mynd â'r dwrcen at geiliog twrci. Roedd yn daith o leia ddwy filltir a hanner heibio i Gapel Carmel yr Annibynnwyr a thuag at bentref Llansadwrn.

Talyllychau, yr Eglwys a'r Abaty.  Llun trwy garedigrwydd Brenda James.Er mai i gapel Esgairnant y Methodistiaid yn Nhalyllychau yr aem ni, a nhad yn aelod o'r Eglwys roedd Carmel yn haeddu'n cefnogaeth ar adegau fel ambell Gyngerdd a Chymanfa. Rhaid oedd mynd heibio tyddyn bach ble'r oedd merch ddi-briod a'i mab a oedd bryd hynny tua wyth oed yn byw. Cynhaliaeth dlawd oedd eu rhan a chynnyrch dwy neu dair buwch, mochyn a'r ieir yn eu cynnal.

Er mor anodd, llwyddodd y wraig i gynilo digon o arian i brynu set radio neu "weiyrles" a daeth gŵr y siop o Lambed i'w gosod yn eu lle, ac aeth ar ei ffordd adref. Wedi mwynhau'r gwrando a phan roedd yn amser noswylio methai'r wraig yn lân a chofio sut oedd switsio'r radio i ffwrdd. Doedd dim i'w wneud ond gadael y set i'w thynged a mynd i'r gwely. Fore drannoeth, wedi godro, a pharatoi'r mab i fynd i'r ysgol, cododd y wraig y radio, a'r "wet battery" a'u cario dros ddau neu dri lled cae i fferm i ofyn am gymorth. Erbyn hynny roedd y battery wedi mynd yn fflat a rhaid oedd galw'r gwerthwr yn ôl i adfer y sefyllfa.

Cario'r dwrcen oedd raid, a hynny mewn basged wiail a chanddi ddolen bob ochr i ni gydio ynddi Cyrhaeddasom y fferm ble'r oedd y ceiliog twrci a rhaid oedd gadael yr iâr dwrci yno a dychwelyd i'w hôl ymhen rhai dyddiau. Cofiaf i ni gael darn o deisen yr un gan y wraig i'w bwyta ar y ffordd adref. Pan aethom yn ôl i hôl yr aderyn rhaid oedd talu hanner coron am y "gwasanaeth" a chael darn arall o deisen.

Lawer gwaith y bu i Jac a fi fynd, ar orchymyn mam, a "sitting" o wyau i fferm arall. Deuai cais am yr wyau pan fyddai iâr yn glwc a llesol oedd cael wyau o fferm arall i "newid y stoc." Roedd "sitting" yn golygu tri-ar-ddeg o wyau nid dwsin fel y credai rhai. Y rheswm am yr un ychwanegol oedd rhag ofn y digwyddai un ŵy droi'n glwc. Nid oedd neb yn talu am yr wyau hyn am y credai pobl y byddai gwell lwc wrth gyfnewid yn rhad.

Daeth merch o un fferm atom i hol sitting o wyau ac wedi cael chwpaned o de rhaid oedd cychwyn am adref. Erbyn hyn roedd hi'n nosi a dyma mam yn gofyn i gefnder a oedd yn aros gyda ni ar y pryd, i hebrwng y ferch adref. Fe ufuddhaodd, a dyna ddechreu carwriaeth a arweiniodd at briodas gyda mam a nhad yn cael gwahoddiad.

Wyddoch chwi am iâr glwc yn cael y fath ddylanwad erioed?

Brenda James

Diolch yn fawr iawn i Brenda James am ysgrifennu am ei hatgofion o'i magwraeth yn Nhalyllychau, sir Gaerfyrddin. Mae bellach yn byw yn Rhydaman.

Oes gennych chi atgofion am slawer dydd i'w rhannu? Llenwch y ffurflen isod, ac fe'i cyhoeddwn ar y wefan yma.

  • Rhagor o atgofion Brenda James - Pennod 2

  • Gwyn y Gof: portread o hen gymeriad


  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

    Sylw:




    Mae'r 91Èȱ¬ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý