Ffurfiwyd Pwyllgor Coffa ac yn fuan derbyniodd gefnogaeth gan bob rhan o'r gymuned. Gofynnwyd i Antur Cwm Tâf/Tywi symud y prosiect ymlaen a bu'n llwyddiannus yn sicrhau arian ychwanegol oddi wrth Gyngor Celfyddydau Cymru. Cynhaliwyd arddangosfa o'r pum cynllun ar y rhestr fer yn ystod gwanwyn 2000 a gofynnwyd i'r cyhoedd fynegi eu barn. Y cynllun mwyaf poblogaidd o bell ffordd oedd un y brodyr Toby a Gideon Petersen o Sanclêr. Saif eu cerflun dur gloyw 16 troedfedd ar garreg 17 tunnell a gludwyd o'r bryniau i'r gogledd i'r dref. Ym marn y Pwyllgor mae'r gofeb yn crisialu'r ysbryd sydd wedi cynnal Cenedl y Cymry hyd heddiw ac sydd wedi galluogi'r Cymry, eu diwylliant a'u hiaith i oroesi er gwaethaf yr holl fygythiadau i'w bodolaeth yn ystod y ddwy fil o flynyddoedd diwethaf. O'r cychwyn cyntaf bwriad y Pwyllgor Coffa oedd dathlu rhinweddau dewrder a theyrngarwch a chreu: 1. Cofeb addas i nodi digmyddiad hanesyddol o bwys 2. Darn o waith celf cyhoeddus blaengar ac o safon uchel 3. Atyniad o bwys i dwristiaid ar gyfer Llanymddyfri a'r ardal o amgylch Fe ddaeth dros ddwy fil o bobl i'r seremoni ddadorchuddio liwgar a chynhwysfawr ar Hydref 6ed 2001. Roedd hwn yn brosiect cymunedol y gallwn ni i gyd ymfalchïo ynddo. Bydd y cerflun gwych hwn yn fuan yn cael ei gysylltu â Blaenau Tywi; bydd yn symbol nid yn unig o'r gorffennol ond yn arwydd o obaith ar gyfer y dyfodol. Dymuna'r Pwyllgor Coffa ddiolch i Antur Cwm Tâf/Tywi, Cyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Sir Caerfyrddin a'r holl unigolion a sefydliadau a fu'n ein cynorthwyo. Gan: Rhobert ap Steffan Darllenwch hanes Llywelyn ap Gruffydd yma.
|