91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Golygfa o bentref Llangain o'r awyr. Llun gan Haydn Williams Plwyf Llangain
Hanes pentref Llangain ers cyn-hanes, gan edrych ar atyniadau'r pentref heddiw, gan Haydn Jones, Cadeirydd Cyngor Cymuned a Hanesydd Lleol Llangain.
Lleoliad:
Saif Llangain ar lannau'r afon Tywi, ac mae ffiniau'r plwyf yn ymestyn bron o Dre-Ioan i Lansteffan mewn un cyfeiriad ac o Langynog hyd at yr afon i gyfeiriad arall. Mae'r plwyf hwn, sy'n cynnwys bron 3,000 o erwau, yn gyfuniad o gefn gwlad godidog, coetiroedd ysblennydd a bryniau gwyrddlas yn cyrraedd 350tr/105m (Pwynt Trig.)

Arfbais y Cyngor
Rhoddwyd yr arfbais hwn gan y Cyngh. Haydn Williams er cof am ei rieni sef Evan John Williams (1913-1991) a Rachel Eleanor Williams (Nellie) (1919-2004), Glascoed, 1 Dôl-y-Dderwen (gynt o Penycoed a Coedmor). Mae'r symbol, sef ysgub o ŷd, yn dynodi asgwrn cefn y gymuned amaethyddol hon. O gwmpas y symbol hwn gwelir tair nodwedd leol ac mae'r dderwen i'w chanfod mewn nifer o enwau yn y pentref.

Cyn-hanes
Ceir rhai cromlechi yn yr ardal, yr enwocaf yw Meini Llwydion a Choetennau Myrddin. Claddfeydd teuluol oeddynt sy'n dyddio o'r cyfnod Neolithig. (c.3000CC).

Castell Moel
Ni fu erioed yn gastell, ond yn hytrach cartref a adeiladwyd ar gyfer y teulu Reed ddechrau'r bymthegfed ganrif. Yn wir, roedd yn adfeilion erbyn oes Elisabeth. Mae'n bosibl bod yma amddiffynfa bridd ar ryw adeg, a chred rhai mai ger yr Hen Gastell y safai hon. Castell mwnt a beili fyddai hwn yn ddiau. Tan y cyfnod diweddar, arferai llongau angori o dan y castell i ddadlwytho eu nwyddau i longau ysgafnach a'u cludai wedyn i Gaerfyrddin.

Addysg
Yn 1846 yr unig ysgol yn yr ardal oedd yr Ysgol Sul. Adeiladwyd Ysgol Breswyl Llangain yn 1875 ac fe'i hagorwyd yn swyddogol yn 1876. Roedd yn parhau i gael ei defnyddio hyd oni adeiladwyd yr ysgol newydd yn 1977.

Yr Eglwys
Eglwys Sant Cain, Llangain. Llun gan Haydn Williams Adeiladwyd yr eglwys bresennol, sef Eglwys Sant Cain yn 1871. Mae murluniau hyfryd o deils o amgylch yr allor er cof am y teulu Gwyn, Pil-roath a Phlas Cwt-hir. Ceir yno hefyd gwpan cymun o oes Elisabeth dyddiedig 1576.

Y Capel
Capel Llangain. Llun gan Haydn Williams Mae Capel yr Annibynwyr yn nodwedd amlwg yn y plwyf. Fe'i adeiladwyd yn wreiddiol yn 1835, cafodd ei ailadeiladu yn 1865. Adeiladwyd y capel presennol yn 1915. Pwrpas y stabl fach oedd cysgodi ceffylau yn ystod gwasanaethau'r capel. Defnyddiwyd y llofft fel festri.

Plas Cwrthir
Adeiladwyd y plasty to dwbl tua chanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Y preswylydd cyntaf oedd William Edward Bevan Gwyn, Pilroath.

Coedmor
Adeiladwyd y breswylfa hon yn 1968 ar gyfer Mr a Mrs E J Williams, ffermwyr wedi ymddeol o Pen-y-coed. Yn wreiddiol roedd y tir yn eiddo i'r teulu ac mae'r enw Coedlan Coedmor yn cydnabod y cysylltiad lleol parhaol.

Bwthyn-y-Felin
Hen felin wlân oedd hon a gyflogai bedwar o weithwyr llawn amser yn ei dydd. Caeodd Melin Llangain/Ffatri yn y 1940au.

Llwyndu
Llwyndu. Llun gan Haydn Williams Adeiladwyd y plasty hwn yn ystod hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Bu'r Capten Henry Harding yn byw yno rhwng 1821 a 1823 ac wedi hynny bu'n gartref i Frederick Philipps, Y.H. Yn 1906, aeth yn eiddo i Charles Bankes Davies. Mae ganddo borthdy uchaf ac isaf. Enw gwreiddiol y porthdy uchaf (The Beeches) oedd "Chweched", sef cyfeiriad at y chwe heol.

Pilroath
Saif y plasty hwn ym mhen deheuol y plwyf uwchben y man lle llifa Nant Rhoth i Afon Tywi. Yn 1902 prynwyd yr eiddo gan T J Harries Ysw. a chododd y plasty presennol. Tan 1994, roedd yr eiddo hwn a fu'n gartref i dair cenhedlaeth o'r teulu Harries, yn eiddo i'r Cyngh.Sir, Arthur Harries, CBE,YH,MRCVS. Mae'r clos a'r tai mas yn cael eu haddasu yn ganolfan ffilmio lle bwriedir gwneud ffilmiau a rhaglenni teledu yn ymwneud â bywyd lleol.

Fernhill
Maenordy yw hwn sy'n dyddio o 1723 ac sydd yn adeilad rhestredig graddfa II am ei gysylltiadau pensaernïol a hanesyddol. Mae'n fwyaf adnabyddus fel y man lle'r arferai'r bardd enwog Dylan Thomas (1914 - 1953) dreulio ei wyliau haf pan yn blentyn. Cafodd y tŷ ei anfarwoli yn un o'i gerddi enwocaf, "Fernhill".
Adnabyddir Fernhill hefyd am ei gysylltiad â chrogwr y sir, Robert Rickets Evans, a drigai yno ar droad y ganrif. Roedd ei ferch yn etifeddes gyfoethog ac fe'i carcharodd mewn cell yn y clos (a erys hyd heddiw) i geisio dwyn ei chyfoeth, ond dihangodd gyda chymorth ei chariad, yn ôl traddodiad.

Brynderi
Adeiladwyd y cartref hwn tua 1928 fel cartref ymddeoliad ar gyfer y parch. Evan Jones BD, ficer Llangain 1900 - 1934.

Yr Ymddiriedolaeth Coedlannau
Yw elusen fwyaf Prydain sy'n ymwneud yn unig â chadwraeth coed trwy brynu a rheoli. Prynodd Goedwigoedd Castell Moel yn 1993 ac mae'r safle bellach ar agor i'r cyhoedd.

Bywyd Gwyllt
Mae'r cyfuniad o goetir, meysydd, gwrychoedd, nentydd, glan yr afon a'r chwarel yn cynnig amrywiaeth eang o wahanol gynefinoedd ac yn creu noddfa bwysig iawn i bob math o fywyd gwyllt. Ymhlith yr adar a welir yma'n aml ceir y curyll, y cudyll glas, y bwncath a'r gnocell fraith leiaf. TÅ·f hen flodau'r maes yn ymyl coed derw, bedw, helyg a gwern.

Pantydderwen
Bwthyn bychan oedd hwn yn wreiddiol ac ar un adeg yma oedd Swyddfa'r Post a'r siop losin leol. Addaswyd y lle yn dÅ· tafarn tua 1979. 'Roedd y cwrs golff mewn bodolaeth rhwng 1993 a 2000.

Pantyrathro
Adeiladwyd y plasty hwn gan James Richards ddechau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Datblygodd yn sgil y fasnach gwerthu cynnyrch llaeth i Lundain gyda dyfodiad y rheilffordd i Gaerfyrddin. Addaswyd y plasty yn westy lleol yn 1970.

Haydn Williams, Llangain



Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r 91Èȱ¬ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý