91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y castell yng Nghastell Nedd Adnabod ardal - Nedd a Dulais
Hanes cymoedd Nedd a Dulias sy'n gorwedd i'r dwyrain o Gwm Tawe ac yn ymestyn i lawr i gyfeiriad Abertawe.

Castell-nedd
Prif dref yr ardal yw Castell-nedd sydd wedi ei hadeiladu ar safle caer Rufeinig ar lannau'r afon Nedd. Dyma dref a dyfodd o gwmpas yr hen gastell Normanaidd. Yn ystod y Chwyldro Diwydiannol cynyddodd o ran pwysigrwydd a daeth yn fan cyfarfod sawl diwydiant.

Yn ddiweddarach bu datblygiadau diwydiannol yn yr ardaloedd cyfagos ac o ganlyniad bu cynnydd pellach ym mhwysigrwydd Castell-nedd fel canolfan ar gyfer cludo glo a nwyddau eraill ar draws y byd.

Saif y castell yng nghanol y dref. Dyma un o'r cestyll bychain a adeiladwyd gan y Normaniaid ym Morgannwg. Dewisodd y Normaniaid y lleoliad am ei fod yn safle strategol dda er mwyn gwarchod yr afon oedd yn croesi i diriogaeth bwysig.

Adeiladwyd y castell gwreiddiol yma yn y 12fed ganrif gan Iarll Caerloyw. Ymosododd y Cymry arno droeon a chafodd ei ailadeiladu yn y 13eg ganrif, o bosib wedi iddo gael ei ddinistrio gan Llywelyn ap Iorwerth ym 1231.

Ond ymosodwyd ar yr adeilad eto gan elynion arglwydd Morgannwg oedd yn amhoblogaidd iawn ar y pryd. Felly ailadeiladwyd y castell eto yn y 14eg ganrif a dyma pryd yr adeiladwyd y porth hardd y mae rhan ohono i'w weld ar y safle heddiw.

Nodwedd hanesyddol arall yng Nghastell-nedd yw'r abaty. Sefydlwyd yr abaty ym 1130 gan Richard Granville i gyd-fynd ag abaty Savigny yn Normandi. Roedd hwn yn abaty cyfoethog gydag ystadau mawr ym Morgannwg, Dyfnaint a Gwlad yr Haf.

O ganlyniad i'r ymdrechion i ehangu'r stadau ym Morgannwg datblygodd dadl chwerw rhwng yr abaty ag abaty Margam gerllaw. Cynyddodd y gymuned o fewn Abaty Castell Nedd yn sylweddol yn y 12fed ganrif ac felly fe ehangwyd yr adeilad yn y 13eg a'r 14eg ganrif.

Am bedair canrif roedd Abaty Nedd yn un o'r canolfannau diwylliannol a chrefyddol pwysicaf yng Nghymru. Pan ddiddymwyd y mynachlogydd yn yr 16eg ganrif roedd yr abaty yn un o'r ychydig rai a gafodd ganiatâd arbennig i agor am ddwy flynedd yn ychwanegol a hynny drwy dalu dirwy.

Diddymwyd yr abaty wedyn ym 1539 a chafodd ei roi yn nwylo Syr Richard Williams. Mae'n debyg mai ef neu ei fab ar ei ôl fu'n gyfrifol am droi rhan o'r abaty yn dŷ mawr. Fe fu'r rhan hwn yn dŷ hyd ddiwedd y 17eg ganrif. Wedi hynny cafodd rhan o'r abaty ei droi yn weithdy toddi copr.

Dechreuwyd clirio'r olion diwydiannol o'r safle yn yr 20fed ganrif. Aelodau Cymdeithas Hynafiaethwyr Castell Nedd fu'n gyfrifol am hyn ac fe aethant ati i gludo tunelli o ddeunydd diwydiannol oddi yma. Er bod yr abaty yn gorwedd ger ardal ddiwydiannol felly mae ei leoliad ar lannau Camlas Tennant yn ei wneud yn safle tawel a heddychlon.

Atyniad arall sy'n denu ymwelwyr i'r ardal yw Amgueddfa Glofa Cefn Coed. Mae'r amgueddfa wedi ei lleoli yn adeiladau gwreiddiol y lofa yng Nghwm Dulais. Yma mae ymwelwyr yn cael cyfle i weld sut brofiad oedd gweithio o dan y ddaear mewn amgylchiadau anodd. Hefyd mae yma injan stêm sydd bellach yn cael ei yrru gan drydan.

Agorwyd glofa Cefn Coed yn ystod y 1920au. Ym 1945 roedd 908 o ddynion yn cael eu cyflogi yma. Pwer stêm oedd yn cael ei ddefnyddio i weithio'r pwll. Roedd y stêm yn cael ei greu gan nwy. Yn 1968 daeth y cynhyrchu i ben yma ond cafodd y shafftiau eu gadael ar agor er mwyn rhoi mynediad ac awyr i lofa newydd Blaenant oedd ar yr un safle.

Camlesi
Canlyniad y datblygiadau diwydiannol yng Nghastell Nedd fu adeiladu dwy gamlas yn y dref. Fe'u hadeiladwyd er mwyn gwasanaethu'r pyllau glo a gweithfeydd haearn yr ardal. Adeiladwyd Camlas Castell Nedd ym 1791 ac roedd yn llifo am 10 milltir o waelod tref Castell Nedd i Abernant yng Nglyn Nedd. Yna ym 1798 ehangwyd y gamlas tua'r de i Lansawel. Yn raddol dirywio wnaeth porthladd Castell Nedd a chynyddodd pwysigrwydd Llansawel.

Yn 1816 penderfynodd George Tennant, gŵr o'r ardal, wella ac ehangu camlas nad oedd yn cael yn ei defnyddio yn yr ardal er mwyn cysylltu afon Nedd yn Llansawel â'r dociau newydd yn Abertawe.

Saith mlynedd yn ddiweddarach roedd wedi gorffen adeiladu Camlas Tennant a hynny er gwaetha problemau peirianyddol a gwrthwynebiad nifer o dirfeddianwyr yr ardal. Roedd y gamlas newydd yn cysylltu camlas Castell Nedd yn Aberdulais â'r dociau yn Abertawe.

Er mwyn cysylltu'r ddwy gamlas roedd angen traphont ddŵr er mwyn cludo camlas Tennant dros afon Nedd. William Jirkhouse oedd y gŵr aeth ati i adeiladu'r draphont ddŵr. Roedd hwn yn derbyn dwr o afon Nedd ac afon Dulais. Daeth gweithgarwch y camlesi i ben yn ystod y 1930au a heddiw mae'r draphont ddŵr yn wag.

Mwy am fro Nedd a Dulais - ewch i dudalen 2



Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r 91Èȱ¬ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý