Mae'r rhan hon o Dde Cymru wedi gweld nifer o oresgynwyr yn mynd a dod, Rhufeiniaid, Llychlynwyr a Normaniaid, i enwi dim ond rhai. Gwnaeth y bobl Fflandrysaidd a gyrhaeddodd yn y 12ed ganrif ar ôl y Goresgyniad Normanaidd, argraff unigryw a pharhaol, sy'n dal i fodoli heddiw yn y rhaniad daearyddol ar draws y wlad rhwng yr iaith Saesneg a'r Gymraeg.Milwyr
Cyrhaeddodd un o'r tonnau cyntaf o bobl Fflandrysaidd i gyrraedd Ynysoedd Prydain adeg y Goresgyniad Normanaidd yn 1066. Yn ystod y 11eg ganrif, roedd Fflandrys yn cael ei gorboblogi'n ddifrifol a gorfodwyd y bobl Fflandrysaidd, yn yr ardal a gaiff ei hadnabod nawr fel Gwlad Belg, i symud. Symudodd nifer i'r Almaen, tra ymunodd eraill â'r fyddin Normanaidd, gan ddatblygu'n elfen bwysig yn eu lluoedd. Gwobrwyodd y brenhinoedd Normanaidd y rhai fu'n ymladd â thir yn y gwledydd a goncrwyd, gan roi tir iddyn nhw fyw arno, ar yr amod eu bod yn ei amddiffyn ar ran y goresgynwyr Normanaidd.
Cyn y Goresgyniad Normanaidd, roedd llawer o ymladd mewnol yng Nghymru, ac nid oedd mewn unrhyw sefyllfa i amddiffyn ei hun gyda rheng unedig. Sefydlodd William I ei ieirll ar hyd ffin Cymru yng Nghaer, yr Amwythig a Henffordd, ac yn fuan iawn fe symudon nhw i mewn i Gymru. Aeth Iarll Amwythig â'i luoedd i'r de orllewin, trwy Bowys a Cheredigion i Ddyfed, lle y sefydlon nhw gastell ym Mhenfro.
Ceiswyr Lloches
Dioddefodd Fflandrys yn enbyd ar ôl nifer o stormydd ym 1106. Ysgrifennodd Samuel Lewis "Yn ystod storm erchyll ar arfordir Fflandrys, fe gariwyd nifer o'r twyni tywod a'r argloddiau i ffwrdd, a fe foddodd y môr ddarn anferth o'r wlad."
Achosodd hyn i nifer fawr o Fflandrysiaid geisio lloches yn Lloegr, lle croesawyd hwy gan Harri I. Fe ymgartrefon nhw mewn nifer o drefedigaethau ar draws Lloegr, ond cyn hir ysgrifennodd Samuel Lewis " fe ddaethon nhw'n atgas i'r boblogaeth brodorol ac fe symudodd Harri I y Fflandrysiaid i'r anheddau ffermio anghysbell yn y 'cantref', ardal o Rhôs, yn ne Sir Benfro.
Achosodd y sefydlu systemig hwn o ymsefydlwyr Fflandrysaidd gan Harri I, ac, yn fwy diweddar, Harri II, ganlyniadau sylweddol i bobl de Sir Benfro. Mae'r Athro Hanes, Harold Carter, yn edrych ar yr effeithiau, "Os edrychwch chi ar 'Brut y Tywysogion' - Cronicl y Tywysogion Cymreig - mae'n cofnodi 'Pobl arbennig o darddiad ac arferion rhyfedd yn byw yn y cantref cyfan yn Rhôs ger aber afon Cleddau, gan yrru holl drigolion yr ardal i ffwrdd. Mewn ffordd gallech bron iawn â'i alw'n broses o lanhau ethnig."
Amddiffynfeydd
Adeiladwyd llinell o dros 50 o gestyll a chadarnleoedd gan y Normaniaid a'r Fflandrysiaid i amddiffyn de Sir Benfro oddi wrth y Cymry brodorol, a oedd wedi eu gorfodi i symud i'r wlad fynyddig i ogledd y sir. Roedd y ffin o gestyll, a adwaenid fel y llinell Landsger - o'r gair Llychlynnaidd am raniad - yn ymestyn o Niwgwl ar yr arfordir gorllewinol i Amroth ar yr arfordir de ddwyreiniol.
Roedd dwy ran o dair o'r cadarnleoedd wedi eu hadeiladu o bridd, gyda chestyll cerrig ar, neu yn agos i, ddyfroedd mordwyol. Cafodd y castell yn Hwlffordd ei adeiladu gan yr arweinydd Fflandrysaidd, Tancred, yn fuan ar ôl i'r Fflandrysiaid gyrraedd yn 1108. O dan ei amddiffyniad datblygodd treflan, a gosodwyd y sylfeini ar gyfer tref farchnad fodern a chanolfan fasnachol. Cafodd y pentref Cas-wis, bum milltir i'r gogledd-ddwyrain o Hwlffordd, ei enwi ar ôl Fflandryswr arall, Yr Arglwydd Wizo, a sefydlodd gastell yno, tra roedd Treletert yn gartref i'r gŵr â'r ffugenw addas Letard Litelking ('y Brenin Bach').
Tyfodd Dinbych-y-pysgod, ar arfordir de ddwyrain Sir Benfro, yn ystod y 12ed Ganrif, pan godwyd waliau o gwmpas y dref, castell ac eglwys er hwylustod i'r trefedigion Fflandrysaidd. Roedd y Fflandrysiaid yn arbenigwyr yn y fasnach wlân, ac yn fuan iawn fe ffynnon nhw yn yr ardal.
Ymsefydlodd y Fflandrysiaid ar y tir ffermio mwyaf cynhyrchiol yn Sir Benfro, i'r de o'r llinell Lansger, ar y gwastadeddau isaf. Yma roedd y tir yn ffrwythlon, yn cael ei gynhesu gan Lif y Gwlff, yn mwynhau hafau bach Mihangel, gaeafau claear a gwanwynau cynnar. Roedd cnydau'n barod bythefnos cyn y rhai yng Ngogledd y sir, lle'r oedd y tirwedd yn fwy mynyddig.
P'run ai George Owen a fathodd y term neu ei fod yn ailadrodd term cyffredin, daeth "Little England beyond Wales" i gael ei ddefnyddio i nodi'r tir i'r de o'r Linell Landsger.
Mae'r rhaniad mewn iaith ac arferion yn Sir Benfro a ddynodwyd gan y Linell Landsger nodi yn parhau hyd heddiw. Yn flaenorol, ni châi priodasau rhwng y ddau ddiwylliant eu cefnogi, gan mai nid yr iaith oedd yr unig wahaniaeth. Nododd Roy Lewis, awdur o'r ardal, y gwahaniaethau crefyddol, 'Yn gynnar iawn yn fy mywyd doedd dim cymysgu rhwng pobl y gogledd a'r de. Roedd hyn yn bennaf oherwydd crefydd, gan fod y rhai o'r gogledd yn anghydffurfwyr a'r rhai o'r de yn bennaf Gatholig ac Anglicanaidd. Doeddech chi ddim yn ymwneud â'r 'down below'.'
Mae De Sir Benfro wedi dod yn le poblogaidd i adleoli iddo, o rannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Mae'r don newydd hon o bobl wedi meddalu'r gwahaniaeth diwylliannol. 'Dydyn nhw ddim yn ymwybodol o'r carfanau', dywed Roy, ac felly does ganddyn nhw ddim teyrngarwch i'r naill ochr i'r llinell na'r llall, sy'n parhau'n ffin na ellir ei ddiffinio rhwng y ddau ddiwylliant sydd mor wahanol ond eto'n gyflenwol.
Ar y Fflandrysiaid:
'Roedd trigolion y rhanbarth hon â'u gwreiddiau yn Fflandrys, ac fe'u hanfonwyd gan y Brenin Harri'r I i fyw yn yr ardaloedd hyn; yn bobl ddewr a chadarn, yn fwyfwy gelyniaethus tuag at y Cymry; pobl, ddywedwn i, oedd yn gyfarwydd â masnach a diwydiannau gwlân; pobl a oedd yn awyddus i ennill tir trwy fôr neu dros dir, er gwaethaf blinder a pherygl; yn hil eofn, yn gyfarwydd â defnyddio aradr neu gleddyf fel ei gilydd; pobl ddewr a hapus'. Geraldus Cambrensis, Itinerary Through Wales, 1188