David Lewis - atgofion o Bentremawr a ChynheidreDechreuodd David Lewis o Bontyberem ei yrfa yn y diwydiant glo pan yn 16 mlwydd oed. Aeth i ganolfan hyfforddi Glynhebog cyn mynd ymlaen i weithio fel peiriannwr a thrydanwr ym mhyllau Pentremawr a Chynheidre. Bu'n gweithio ym mhwll Cynheidre neu 'gwaith y cwm', fel y cyfeirir ato weithiau, tan iddo gau ym 1989. Uchod gwelir llun ohono a'i gydweithwyr. (David Lewis yw'r trydydd o'r chwith)
Cliciwch yma i glywed David Lewis yn sôn am fywyd yn y pyllau glo, y bywyd cymdeithasol ac effaith y streic ar yr ardal.
David Arthur Davies neu 'Dai the Shot'
Cafodd David Arthur Davies neu 'Dai the Shot' o Fynyddygarreg ei lys enw oherwydd ei waith fel trefnydd ffrwydriadau. Bu'n gweithio ym mhyllau Pentremawr, Cwmsiencyn, Cynheidre a Glynhebog o ddechrau'r 1960au. Cliciwch i wrando ar 'Dai the Shot' yn adrodd ei hanes yn y gwaith.
Cofio Streic y Glöwyr 1984
|