Am dros dair blynedd 'roedd yn eithaf tawel, ond yn Nhachwedd 1842, lledaenodd i Gwm Gwendraeth ddiwydiannol gan gyrraedd ei anterth ym 1843.
Mae cerflun sy'n coffáu Merched Beca yn nhridegau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg wedi cael ei ddadochuddio mewn tre chwaraeodd ran bwysig yn y terfysg.
Wedi'r penderfyniad i godi tollbyrth ar y ffyrdd tyrpeg, yn Lloegr ddigwyddodd yr helyntion cyntaf. Yn Hydref 1735 lladdwyd dau derfysgwr yn Ledbury, a dilynwyd hynny gan weithgaredd eang yng Ngwlad yr Haf a Swydd Gaerloyw, ac ym 1753 cafwyd helyntion yn Swydd Efrog.Y glwyd gyntaf i'w dinistrio yng Nghwm Gwendraeth oedd Clwyd y Garreg ger Cydweli ar y 4ydd Chwefror 1843 ac eto ar Fawrth y 13eg yr un flwyddyn. Ar yr 16eg o Chwefror cafwyd cythrwfl yn Llanddarog, pan wrthododd ceidwad tollborth dderbyn arian gan barti priodas ac ym Mai ymwelodd Rebecca â chlwydi Llanddarog a Chastell Rhingyll. Yn ystod Gorffennaf ac Awst ym 1843 bu llawer o weithgaredd yng Nghymoedd y Gwendraeth. Ar y 4ydd o Orffennaf dinistriwyd pedair clwyd yng Nghydweli, Mynyddygarreg, Meinciau a Phontiets. Yn ddiweddarach bu'r terfysgwyr yn ymweld â chlwydi Llanddarog, Porthyrhyd a Meinciau, ac ar Orffennaf yr 21ain rhoddwyd gwybod i'r dragwniaid bod y terfysgwyr am ail-ymosod ar glwyd Porthyrhyd, ond yn fuan wedi i'r milwyr gyrraedd yno daeth y newyddion bod glowyr y Tymbl wedi cynnau clwyd ger y pentref. Cafwyd rhagor o helynt ym Mhorthyrhyd, Foelgastell a Llannon yn ystod mis Awst. Cyfrannwyd yr erthygl i wefan gymunedol Cwm Gwendraeth gan yr hanesydd lleol Mr Donald Williams. Mwy am hyn ar wefan Cwm Gwendraeth
Mwy am Derfysgoedd Beca
|