Chwalu tollbyrth
Erbyn diwedd tridegau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, prin fod
terfysgoedd y Siartwyr wedi gorffen na chafwyd rhagor o
derfysgoedd o fath gwahanol. Terfysg trefol oedd un y Siartwyr, ond
daeth Merched Beca â therfysg i berfeddion cefn gwlad.
Dechreuwyd gwella ffyrdd yng Nghymru rhwng 1700 a 1800.
Atgyweiriwyd hen ffyrdd a lluniwyd rhai newydd, ond oherwydd nad
oedd gan y swyddogion plwyf lawer o glem ynghylch cynnal a
chadw, sefydlwyd y Ddeddf Dyrpeg yn 1770.
Codwyd tollbyrth, ond
gwendid mawr y cynllun oedd fod gwahanol ymddiriedolaethau
tyrpeg yn gyfrifol am wahanol dollbyrth.
Doedd dim cysondeb yn
lefelau'r tollau, a doedd y tollau a gesglid ddim yn ddigon i dalu am
y gwaith o drwsio'r ffyrdd ychwaith.
O ganlyniad, pasiwyd deddf
arall yn 1833. Codwyd y tollau'n uwch - a'r tro hwn, cododd y werin
hefyd i geisio unioni'r cam.
Yr ymosodiad cyntaf
Yn Efailwen yr ymosodwyd ar y tollborth cyntaf, a hynny fel
protest yn erbyn Ymddiriedolaeth Cwmni Tyrpeg Hendy-gwyn.
Roedd y tollau'n faich ar ffermwyr bach, ac yn ardal Efailwen roedd
y tollborth yn atalfa ar y ffordd a arweiniai at odynau calch yn yr
Eglwys Lwyd.
Yn wir, roedd tollborth Efailwen yn un o bedwar yn
yr ardal ac nid cludo calch oedd yr unig broblem.
Byddai ffermwyr y
cylch yn gyrru eu creaduriaid i wahanol farchnadoedd ac yn gorfod
talu am wneud hynny hefyd.
Ar ben y cyfan roedd yn rhaid talu'r
degwm i'r Eglwys, sef degfed ran o gynnyrch fferm, heb sôn am
ofynion Treth y Tlodion oedd yn codi bob blwyddyn.
Twm Carnabwth
Mewn ysgubor ar fferm Glyn Saith Maen yn Llangolman y
cyfarfu'r protestwyr gyntaf.
Yr arweinydd oedd Thomas Rees, a
drigai yn nhyddyn Carnabwth ym Mynachlog-ddu ar odre'r Preselau.
Roedd Twm Carnabwth yn ddyn cydnerth, cyhyrog a arferai focsio
mewn ffeiriau.
Roedd hefyd yn adroddwr pwnc heb ei ail ac yn
arweinydd naturiol.
Trefnodd i'r protestwyr dduo'u hwynebau a
gwisgo dillad menywod fel na chaent eu hadnabod.
Gan ei fod mor
fawr, cafodd Twm hi'n anodd dod o hyd i ddillad menyw i'w ffitio,
ond llwyddodd i gael rhai addas gan wraig o'r enw Beca Fawr o
blwyf Llangolman.
Dyna sut y cafodd Merched Beca eu henw, medd rhai, ond mae
damcaniaeth wahanol hefyd.
Dywedir i'r enw ddod o Lyfr Genesis,
pennod 24, adnod 60: 'Ac a fendithiasant Rebeccah ac a ddywedasant
wrthi, "Ein chwaer wyt, bydd di fil fyrddion, ac etifedded dy had
borth ei gaseion".'
Ymhob ardal lle codai gwrthdystwyr, câi'r arweinydd ei alw yn
Beca a'i ddilynwyr yn Ferched Beca. Byddai Beca fel arfer yn
marchogaeth ar geffyl gwyn a'r criw yn cario arfau cyntefig fel
bwyeill, barrau haearn, pladuriau, crymanau ac ambell ddryll.
Ar
noson yr ymosodiad cyntaf, ar 13 Mai 1839, ymhlith torf o dros 300,
cariai Twm fwyell.
Malwyd y glwyd yn Efailwen yn ddarnau.
Ailgodwyd y glwyd ond ailgyfarfu Merched Beca.
Doedd y saith
cwnstabl oedd ar ddyletswydd yno yn ddim un math o ataliad.
Y tro
hwn difethwyd nid yn unig y tollborth ond y tollty'n ogystal.
Y terfysg yn ymledu
Ildiodd yr Ymddiriedolaeth a bu heddwch am gyfnod, ond roedd
yr annhegwch yn parhau mewn mannau eraill.
Yn ardal San Clêr, er
enghraifft, byddai ffermwyr yn gorfod talu ddwywaith o fewn un
filltir.
Ailgychwynnodd y brwydro. Dinistriwyd y clwydi hyn ac
eraill hefyd.
Danfonwyd milwyr i geisio cadw'r heddwch, ond
parhau i ledu wnaeth yr ymgyrch.
Ar nos Wener 26 Mai 1843
ymosododd tua 300 o'r Merched ar glwyd Heol Dŵr yng
Nghaerfyrddin.
Dilynwyd hyn gan ddinistr clwydi ledled Sir
Gaerfyrddin.
Yna, ym mis Mehefin, daeth torf o bedair mil ynghyd
ger y Plough and Harrow yn y dref a gorymdeithio y tu ôl i seindorf
gan gario baneri'n galw am gyfiawnder.
Fe'u chwalwyd gan y 4ydd
Dragoons ond dihangodd Beca ei hun.
Credir mai Michael Bowen o
Drelech oedd yr arweinydd y tro hwn.
Sylw'r wasg
Cymaint oedd y terfysg fel i'r Times ddanfon ei ohebydd ei hun, T.
C. Foster, yno.
Roedd adroddiadau Foster yn y Times yn llawer
tecach na'r rheiny a ymddangosai yn y papur lleol, y Carmarthen
Journal.
Yr un adeg danfonwyd milwyr i gadw'r heddwch yng
Nghaerfyrddin ynghyd â'r Cyrnol George Rice Trevor, Dirprwy
Raglaw Sir Gaerfyrddin, i gymryd yr awenau oddi wrth ei dad, a
oedd yn wael.
Ceisiodd yr awdurdodau ymresymu, ond gwaethygu wnaeth y
sefyllfa wrth i'r ymgyrch ledu i ddwyrain Sir Gaerfyrddin.
Marwolaeth ac achosion llys
Ym
Mhorth-y-rhyd, lladdwyd ceidwad y tollty, Sarah Williams. Yn y
Stag and Pheasant ym Mhump Heol cynhaliwyd cyfarfod enfawr o
dan arweiniad John Jones (Sioni Sgubor Fawr) a David Davies (Dai'r
Cantwr).
Daliwyd a chyhuddwyd y ddau, ac yn dilyn achos llys fe
alltudiwyd y naill am weddill ei oes a'r llall am ugain mlynedd.
Clywodd yr awdurdodau fod cynllun ar waith i daro clwydi
Pontarddulais a'r Hendy.
Y tro hwn roedd plismyn yn aros amdanynt;
dan arweiniad y Capten Napier, Arolygydd Heddlu Sir Forgannwg,
daliwyd saith o'r protestwyr yn cynnwys John Hughes, 24 oed, neu
Jac Ty-isha o Lan-non.
Alltudiwyd ef am ugain mlynedd.
Credir mai symbylydd ymgyrch Merched Beca oedd y cyfreithiwr
a'r Siartydd brwd, Hugh Williams o Gaerfyrddin.
Bu'n amddiffyn
nifer o'r Merched a ymddangosodd o flaen y llysoedd fel y gwnaethai
adeg trafferthion y Siartwyr.
Damcaniaeth ddiddorol arall yw mai'r defnydd o'r Ceffyl Pren, sef
ffordd o arddangos delw o elyn, oedd y tu ôl i Ferched Beca.
Llwyfannwyd y ddefod ger clwyd Pwll Trap gyda ffermwr wedi'i
wisgo fel hen wraig ddall yn ceisio mynediad drwy'r glwyd ac yna'n
annog ei 'phlant' i falu'r llidiart.
Malwyd a llosgwyd y glwyd o fewn
deng munud.
Buddugoliaeth
Credir hefyd mai dim ond un agwedd ar waith Beca a'i
Merched oedd malu tollbyrth, a chafwyd enghreifftiau o ddefnyddio
Beca fel modd i drafod gwahanol gwynion cymdeithasol.
Cyfarfod mawr ar fynydd Sylen uwchlaw Cwm Gwendraeth ar 25
Awst 1843, ac un arall ger Llyn Llech Owain y mis canlynol, a
arweiniodd at gadoediad.
Yn y cyfarfodydd hyn galwyd am ddanfon
deiseb at y Frenhines.
Y flwyddyn wedyn pasiwyd Deddf newydd a
welodd ymddiriedolaethau siroedd de Cymru yn cael eu huno.
Hanerwyd y doll ar galch, symleiddiwyd cyfundrefn y taliadau, a
diddymwyd y dyledion yn erbyn rhai o'r ymddiriedolaethau hynaf.
Roedd Beca a'i Merched wedi ennill buddugoliaeth.
Lyn Ebenezer
Cliciwch yma i weld chwedl Merched Beca mewn lluniau gan ddisgyblion Ysgol Beca, Efailwen.