Baner Beca gan Marion Eames Mae un o brif awduron nofelau hanes Cymru ar fin cyhoeddi nofel am Ferched Beca.
Yr oedd brwydr 'merched Beca' yn erbyn gormes y tollbyrth yn un o ddigwyddiadau mwyaf cyffrous a lliwgar ein hanes ac yn Baner Beca mae Marion Eames yn dilyn hanes gohebydd y Times, Thomas Campbell, am drywydd y stori yn ne orllewin Cymru.
Yn ystod y gwrthryfel yr oedd tollbyrth yn cael eu malu yn rheolaidd gan rai wedi eu gwisgo fel benywod ac yn galw'u hunain yn Ferched Beca.
Mae nofel Marian Eames yn s么n hefyd am helynt teulu lleol sy'n cael ei dynnu i'r cythrwfl.
Mae Marion Eames, yn nofelydd hanes o hil gerdd gyda'i nofelau Y Stafell Ddirgel a Rhandir Mwyn am helyntion Crynwyr Cymry yn cael eu hystyried yn glasuron Cymraeg.
Cyhoeddodd ei nofel gyntaf, Y Stafell ddirgel yn 1969 gyda bonllef o gymeradwyaeth iddi am ei phortread grymus a gofalus o'r erlid a fu ar y Crynwyr cynnar yn ardal Dolgellau lle cafodd ei magu.
Dilyniant iddi ydoedd Y Rhandir Mwyn a'r Crynwyr Cymreig bellach yn ymsefydlu ym Mhensylfania yr Unol Daleithiau.
Ffilmiwyd y ddwy nofel gan y 91热爆.
Yn dilyn y llwyddiant hwn cyhoeddodd nifer o nofelau eraill gan gynnwys I Hela Cnau, ac Y Gaeaf Sydd Unig i gyd-fynd a saith canmlwyddiant marwolaeth Llywelyn ap Gruffudd yn 1982 a hon eto yn adlewyrchu yr ymchwil manwl a nodweddai ei dwy nofel gyntaf.
Er mai yn Nolgellau y treuliodd ei phlentyndod a chael ei haddysg gynnar ym Mhenbedw y'i ganwyd ac wedi cyfnod yn llyfrgellydd aeth i astudio'r delyn a'r piano yn y Guildghall yn Llundain a thynnodd ar y profiad hwnnw ar gyfer ei nofel Seren Gaeth am ferch dalentog yn astudio cerddoriaeth.
Cyhoeddodd lyfrau i blant hefyd a bwriedir Baner Beca ar gyfer rhai rhwng de a 12 oed.
"Gobaith Marion Eames yw y bydd y darllenwyr yn cael blas ar y nofel ac yn cael eu hysbrydoli i ddarllen rhagor am ymgyrchoedd Merched Beca dros gyfiawnder i ffermwyr tlawd Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro yn erbyn ceidwaid y tollbyrth," meddai Garmon Gruffudd o wasg y Lolfa sy'n cyhoeddi'r llyfr.
"Mae wedi ei anelu at blant sydd, efallai, heb glywed am yr helyntion o'r blaen. Gobeithio y bydd yn llanw bwlch yn y farchnad, gan fod llyfrau Cymraeg am hanes Merched Beca yn brin dros ben.
"Mae'n rhyfedd iawn nad oes yna lond trol o nofelau Cymraeg am helyntion Merched Beca gan fod yna gymaint o gyffro a rhamant i'r stori. Mae dyheadau a gweledigaeth Merched Beca dros gyfiawnder yn erbyn gorthrwm y sustem gyfalafol yn parhau i fod yn berthnasol yng nghefn gwlad y De Orllewin o hyd lle mae bron yn amhosib i deulu ifanc allu fforddio prynu ty."
Baner Beca gan Marion Eames. 拢4.95 Cyhoeddir Awst 16.