91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Adloniant
Syr Anthony Hopkins
Syr Anthony Hopkins

Ganwyd: 31 Rhagfyr 1937

Magwyd: Port Talbot

Addysg: Ysgol Dyffryn ac Ysgol Ramadeg y Bont Faen


Actor a chwaraeodd y canibal Hannibal Lecter yn y ffilm Silence of the Lambs.

Gellid dadlau mai Anthony Hopkins ydy'r seren fwyaf o Gymru ers Richard Burton, er mai yn reit hwyr yn ei yrfa y daeth i enwogrwydd mawr.

Fe'i ganed yn Mhort Talbot yn fab i Muriel a Richard Hopkins, a oedd yn bobydd, ac ymweliad Richard Burton â'i dref enedigol a gyneuodd ddiddordeb Hopkins mewn actio.

Gwrandewch ar Kate Woodward, darlithydd yn adran Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth, yn trafod bywyd a gwaith Hopkins ar raglen 91Èȱ¬ Radio Cymru, Hywel a Nia:

gwrandoBywyd cynnar

gwrandoCwrdd â Richard Burton

gwrandoAgwedd Hopkins at fyd y theatr a'r byd ffilm

gwrandoY berthynas â Chymru a'r penderfyniad i ddod yn ddinesydd Americanaidd

Enillodd ysgoloriaeth i RADA yn 1961 a chwaraeodd y brif ran mewn nifer o gynyrchiadau theatraidd yn ystod y 60au. Ond, cyn hynny, yn 1956 y cafodd ei gyfle cyntaf mewn cynhyrchiad 91Èȱ¬ o 'The Corn is Green' er nad oedd ganddo ef ei hun yr un gair i'w ddweud.

Cynhyrchiad arall gan y 91Èȱ¬ 'War and Peace' a'i denodd i'r Unol Daleithiau ac yno y canfu'r llwyddiant a'i gwnaeth yn seren fawr. Daeth yn wyneb cyfarwydd iawn mewn ffilmiau mawr gan ennill canmoliaeth mawr am ei berfformiad fel Richard y 1af yn 'The Lion in Winter' ac yn yn 'The Elephant Man'.

Ond ei ran mwyaf enwog hyd yma yn bendant ydy un Hannibal Lecter, y llofrudd cyfres o ganibal yn 'The Silence of the Lambs'. Derbyniodd Oscar am ei bortread.

Ond fe gafodd ei ganmol hefyd am ffilmiau megis 'The Remains of the Day, 'Nixon' a 'Shadowlands' ac fel cyfarwyddwr 'August'.

Cafodd ei urddo'n farchog yn 1993 ond yn 2000 penderfynodd gymryd dinasyddiaeth Americanaidd ac fe gafodd ei feirniadu'n hallt.

Ond chafodd hyn fawr o ddylanwad ar ei yrfa ac mae o bellach wedi cwblhau dwy ffilm arall am Hannibal Lecter sef 'Hannibal' a 'Red Dragon' ac mae'r ddwy wedi bod yn llwyddiant ariannol mawr.

Yn arolwg y Sunday Times yn 2002 amcangyfrifwyd i Hopkins ennill £21.5 miliwn mewn un blwyddyn am ei waith ffilm.

Ar 1 Mawrth 2003 priododd Hopkins am y trydydd tro hefo gwerthwr hen greiriau Stella Arroyave mewn seremoni breifat yng Nghaliffornia. Ysgarodd Hopkins ei ail wraig, Jennifer Lyntron yn 2002 ar ôl 29 mlynedd o briodas. Fe gafodd un ferch o'i briodas gyntaf efo Petronella Barker.

Ei funud fawr: ennill Oscar am ei berfformiad o Hannibal Lecter.

Yn answyddogol : Cyn ei lwyddiant yn ennill Oscar, ymddangosodd Hopkins mewn sawl ffilm digon aflwyddiannus yn fasnachol sef 'Desperate Hours', 'The Dawning' a ffilm a ganmolwyd 'The Bounty' efo Mel Gibson, Daniel Day-Lewis a Liam Neeson.

Dathlodd ei ben-blwydd yn 70 ym Mharc Margam ar Nos Galan 2007.

Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r 91Èȱ¬ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý