"Roeddwn i'n byw ym Mhontrhydyfen yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Y prif atgof sydd gen i o'r rhyfel yw'r bom a ffrwydrodd yn y tÅ· drws nesa ond un i ni, ar 17 Mawrth 1942.
"Mas o'r rhai oedd wedi'i claddu dan y rwbel da'th tri byw mas a tri wedi marw. Yr hyn sy'n aros yn y cof ydi fod un o'r rhai gafodd ei achub yn enwog iawn mewn rhai mannau o Gymru, sef Ivor Emanuel. Anghofia i byth y diwrnod 'na.
"Nôl yn yr amser 'na ym Mhontrhydyfen roedd pawb yn un teulu - does neb yn gwybod pwy sy'n byw drws nesa i'w gilydd nawr.
"Roeddwn i lawr yn gwitho yn Abertawe yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Er fy mod i'n gweithio yn gwaith glo roeddwn i hefyd yn mynd mas i helpu gyda'r frigiad dân yn ystod y nos. Part timer oeddwn i, shift o 4 awr, neu ryw 12 awr y mis. Doeddwn i ddim arno bob nos achos oedd tîm 'da ni. Roedd pympiau dŵr ar bwys yr eglwys (sy'n Gadeirlan nawr). A'r hyn fyddwn i'n ei wneud oedd symud y dŵr o un lle i'r llall.
"Yn ystod yr amser pan oeddwn i'n gweithio yn Abertawe, yn edrych ar ôl pwmp dwi'n cofio dau o blant yn dod tuag ataf - "We have lost our parents" medden nhw. Doeddwn i ddim yn eu nabod nhw, ond pwy ddaeth heibio ond y Salvation Army, roedden nhw'n dod â cawl o amgylch i ni. Wedes i wrthyn nhw; "Look, these people have lost their parents" - a chware teg dyma nhw'n mynd â'r ddau blentyn. Dwi ddim yn gwybod os ffindo nhw eu rhieni neu os oedden nhw wedi cael eu lladd.
"Cafodd 11,000 o fywydau eu colli yn Abertawe - dyna faint ddywedwyd ond efallai fod mwy. Roedd y byd ar dân a phan rwy'n mynd i Abertawe nawr rwy'n falch i fynd oddi yna. "
|