Gwyn y Gof wrth ei waith
Dechreuodd Gwyn y Gof ei yrfa fel gof yn 么l ar ddechrau y 1920au gyda'i frawd Dafydd (a oedd yn of yn y Rhyfel Byd Cyntaf oherwydd maint y ceffylau a ddefnyddiwyd,) a'i dad Evan Gof.
Crefftwr medrus, canwr da, chyfansoddwr penillion, a chymeriad hoffus, unigryw oedd Gwyn y Gof. Medrai drin traed ceffylau a da yn ogystal 芒'u pedoli. Uchafbwynt iddo oedd pedoli buwch i'r diweddar Vincent Davies Glanyrafonddu Isaf ar ddechrau'r 1960au a gafodd ei ffilmio gan deledu 91热爆 Cymru fel rhan o raglen ddogfen am "Banc yr Eidon Du".
Medrai fy nhad droi ei law at atgyweirio a thrawsnewid nifer o wahanol beiriannau fferm, yn enwedig yn y cyfnod o ddiwedd oes y ceffylau at oes y tractor, trwy ddefnyddio cylchau olwyn cert i wneud bachyn i dynnu cert ac olwyn teiars tu 么l y tractor. Meddiannol ydoedd ar gorff hynod o ran nerth ac yn ystod yr helynt i ddiflaniad Sykut, y Pwyl o fferm Cefn Hendre yn 1953, portreadwyd Gwyn Y Gof gan un o bapurau newydd Lloegr fel "The Srong Man Of Cwmdu". (Gweler fwy am hanes y diflaniad yma.)
Dyma enghraifft o'i gryfder. Aeth i arwerthiant gefail yn Abergorlech. Prynodd lawer o offer ac yn eu plith hen ffwrn wal. Wedi'r arwerthiant aeth i'r Black Lion i gwrdd 芒 hen gyfeillion ac yn ystod y sgwrsio dyma rai yn betio cyfanswm o dair punt na allai "Gwyn y Gof "gario y ffwrn adref ar ei gefn.
Cafodd gymorth y diweddar Jim Price brodor o Abergorlech, a ffwrdd ag ef adref. O gofio i bobl ei ddisgrifio yn gawr nid rhyfedd iddo gyrraedd adref fore drannoeth a'r ffwrn ar ei gefn ac ennill y dair bunt a hynny y swm a dalwyd ganddo am yr holl offer a brynodd . Roedd 拢3 yn werth llawer o arian ar ddiwedd y 1950au.
Pan ddaeth yr oes ceffylau i ben arall gyfeiriodd i wneud clwydi haearn allan o olwynion certi a'u cario adre' ar ei gefn o Gwmdu i ble bynnag yr oedd yr archeb yn y plwyf. Clywais Brenda James gynt o Blaenant, Talyllychau (sydd bellach yn byw yn Rhydaman) yn adrodd yr hanes fod "Gwyn y Gof wedi cyrraedd cl么s y fferm am hanner awr wedi wyth y bore a'r glwyd ar ei gefn," taith o tua 4 milltir o Gwmdu. Gwnaeth ei mam frecwast iddo, cyn cychwyn yn 么l ar y daith adref ac i gyflawni diwrnod arall dyfal o waith yn yr efail. Pris y glwyd, yn cynnwys cludiant, oedd dwy bunt a chweugain.
Gweithiodd yn galed gydol ei oes, rhy galed yn 么l rhai ohonom gan iddo farw yn 1968 yn gymharol ifanc yn 61 mlwydd oed.
Gan Hywel Jones.