Cliciwch yma i weld detholiad o'r delweddau oedd yn yr arddangosfa yn y Llyfrgell Genedlaethol Ar achlysur dathlu canmlwyddiant geni Waldo Williams (1904-71), cynhaliwyd arddangosfa ffotograffau arbennig yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth yn talu teyrnged i un o'n llenorion mwyaf.
Deillia'r arddangosfa o'r gyfrol Waldo Williams: Môr Goleuni / Tir Tywyll gan Wasg Gomer, ac roedd yn cyfosod dyfyniadau o waith Waldo Williams gyda ffotograffau soffistigedig Aled Rhys Hughes, gan herio confensiynau cyfforddus ein perthynas â gwaith Waldo.
Roedd yr arddangosfa yn ffrwyth cydweithio rhwng arbenigwr ar waith Waldo Williams, Damian Walford-Davies, a ddewisodd y dyfyniadau o waith y bardd, a'r ffotograffydd Aled Rhys Hughes o Rydaman.
"Dyma arddangosfa sy'n herio'r 'llygad diog' y mae Waldo yn ei feirniadu yn y gerdd 'Bardd'. Trwy ddramateiddio cysyniadau creiddiol Waldo - tŷ, goleuni, tywyllwch, ffenestr, cwmwl, bwlch, gwreiddyn, pren - mynega'r delweddau a'r dyfyniadau weledigaeth sy'n llwyr ymwybodol o draha ein hymwneud â'r ddaear, ac o ffyrnigrwydd ein hymwneud â'n gilydd," dywedodd Damian Walford-Davies ar y pryd, darlithydd yn Adran y Saesneg yn Aberystwyth.
Roedd yr arddangosfa yn bwysig iawn i'r ffotograffydd Aled Rhys Hughes. "Fydda' i ddim fel rheol yn gweithio i gomisiwn, ond rwy'n adnabod ac yn hoff iawn o waith Waldo ac roedd hwn yn gynnig na allwn ei wrthod. Rwy'n teimlo fod Waldo'n siarad 'da fi ac yn deall sut rwy'n trin y tirwedd. Mae'n dipyn o arwr i mi a dweud y gwir - yn Gristion, Crynwr, Cymro a heddychwr," dywedodd y gŵr a fagwyd yn y Rhondda Fach, Cwm Llynfell a Rhydaman ac sydd nawr yn darlithio mewn ffotograffiaeth yng Ngholeg Penybont-ar-Ogwr.
Siwrnai o fath a gynigwyd gan yr arddangosfa, trwy gyfrwng delweddau sengl, diptychau a thriptychau. Ond nid siwrnai saff o gyfyngdra 'ogofâu'r nos' - rhaid i'r gwyliwr droedio ei lwybr personol ei hun.
Roedd Michael Francis, Pennaeth Uned Arddangosfeydd y Llyfrgell Genedlaethol, ac un sy'n wreiddiol o Faenclochog ym mro Waldo Williams, yn hynod o falch i gynnal arddangosfa Môr Goleuni / Tir Tywyll.
"Gyda geiriau y cysylltir enw Waldo Williams fel rheol, ond mae'r arddangosfa brydferth a theimladwy hwn yn rhoi lluniau a delweddau i ni roi wrth ei enw hefyd," meddai yn 2004.