91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Diwedd y daith: Alan Greedy,Deon Tyddewi, Sian, Pat a chyfneithr i Sian Pererindod i gofio pererindod
Roedd naws pererinion i'r dyrfa fach ddaeth i gyfarfod Siân Swinton wrth borth Eglwys Gadeiriol Tyddewi am hanner dydd, dydd Gwener, Awst 27.
Gwahanol iawn i'r llu twristiaid penwythnos gŵyl banc oedd yn crwydro o amgylch Dinas Dewi. Dyrnaid yng nghrysau T yr Urdd, ambell un wrth ffon fuasai'n deilwng o'r oes pan oedd Tyddewi yn un o dair cyrchfan bwysicaf gwledydd cred.

Bu Siân a chyfeilles, Pat Kingston, yn cerdded ers dydd Llun o Landudoch i Ddinas Dewi, weithiau y nhw eu dwy, weithiau gydag eraill fel Ethni Jones yn ymuno â nhw am ran o'r daith.

Sian, y teulu, Pat Kingstern, Alan Greedy a Deon TyddewiAros amdanyn nhw tu allan i'r Eglwys Gadeiriol oedd gŵr Siân, ei mab Steffan, ei brawd Iwan, ac amryw ffrindiau, perthnasau a chyfeillion.

Cawsom groeso gan Ddeon yr Eglwys Gadeiriol, Y Gwir Barchedig Wyn Evans, a'n gwahodd fewn i Gapel Mair lle cynhelir gwasanaethau Cymraeg yr Eglwys Gadeiriol bob bore Sul.

Offrymodd weddi a chanwyd emyn Lewis Valentine, 'Tros Gymru'n Gwlad'. Uwch ein pennau crogai baner y Ddraig Goch. Baner ag iddi arwyddocâd arbennig i amryw o'r rhai ddaeth ynghyd, a'r rheswm dros bererindod Siân a'r gwasanaeth byr.

Pererindod y 1940au
Y criw gwreiddiol: Elvet Thomas, Maxwell Evans, Alan Greedy a Ray Sands Oherwydd ym 1940 a 1941 roedd ei thad, y diweddar Maxwell Evans, wedi mynd ar bererindod - ar droed - o Gaerdydd i bob un o Gadeirlannau Cymru yn eu tro lle cysegrwyd y faner yn enw Urdd Gobaith Cymru a ieuenctid Cymru.

Cafodd y faner ei chyflwyno i Adran yr Urdd, Ysgol Uwchradd y Bechgyn, Cathays, Caerdydd, gan ŵr o'r enw Arthur McTaggart Short, edmygydd mawr o waith Ifan ab Owen Edwards (Syr Ifan, wedi hynny) ac Urdd Gobaith Cymru.

"Pan oeddwn i'n blentyn ac yn aelod o Uwch-Adran yr Urdd yng Nghaerdydd fe fydden i'n amal yn mynd ar deithiau cerdded gydag arweinwyr y gangen, Nia Daniel a'i chwaer Ethni (Jones)," meddai Siân.

"Bydden ni'n dod adre'n flinedig ond gelen ni ddim llawer o gydymdeimlad gyda nhad. 'Twt, we hynna ddim byd,' wede fe. 'Pan we'n i'n mynd ar y pererindodau ...' Wedyn bydden i'n gweud 'Gwed y stori wrthon ni 'to, Dad'. Fe gês i'n magu gyda hanes y teithie hynny.

"Dyna pam gerddes i o Landudoch - lle mae nhad wedi ei gladdu -i Dyddewi, i weld rhai o'r golygfeydd welodd fy nhad, i deimlo'r wefr deimlodd e wrth gerdded mewn i Dyddewi ac i gyflwyno'r hanes i'r genhedlaeth nesaf. Achos mae hi'n rhan o stori'r Urdd ac o hanes adfywiad y Gymraeg yng Nghaerdydd."

Ysbrydoliaeth W. C. Elvet Thomas
Disgybl yn Ysgol Uwchradd y Bechgyn Cathays, Caerdydd, oedd Maxwell Evans yn 1940. Roedd athro Cymraeg Cathays, W. C. Elvet Thomas, yn ddyn arbennig iawn. Sefydlodd Adran o'r Urdd yn yr ysgol yn y tridegau, adran daflodd ei hun fewn i holl weithgareddau'r mudiad yn y cyfnod cynhyrfus hwnnw.

Ysbrydolodd Elvet Thomas genedlaethau o ddisgyblion - y mwyafrif o gartrefi di-Gymraeg - i ddysgu'r iaith yn rhugl. Daeth llawer ohonyn nhw'n enwau cyfarwydd ledled Cymru: y diweddar Rowland Lucas fu'n brif swyddog hysbysrwydd 91Èȱ¬ Cymru am flynyddoedd; Alan Greedy fu'n swyddog hysbysrwydd yn y Swyddfa Gymreig gyda chyfrifoldeb dros gyflwyno Cymru i wleidyddion a swyddogion o wledydd eraill; yr Athro Bobi Jones, Athro Cymraeg Coleg y Brifysgol Aberystwyth; Tedi Millward, o Adran Addysg Aberystwyth; Bili Raybould, chwaraewr rygbi adnabyddus yn y chwedegau a gŵr amlwg mewn addysg yng Nghymru; y diweddar Gilbert Ruddock, bardd ac ysgolhaig yn yr Adran Geltaidd, Prifysgol Dulyn. Gellid enwi llawer o rai eraill. Mae'n rhestr ryfeddol.

Aeth Elvet Thomas a thri bachgen o'r ysgol gydag e ar y bererindod i Dyddewi - Maxwell Evans, Roy Saunders ac Alan Greedy.

Alan Greedy - disgybl Elvet Thomas
Roedd Alan Greedy - yr unig un sydd bellach yn fyw - wrth borth yr Eglwys Gadeiriol i groesawu Siân ar ddiwedd ei thaith.

"Syniad Elvet Thomas oedd rhoi hwb i Gymru a'r Gymraeg a'i diwylliant," meddai Alan, oedd yn fachgen un ar bymtheg oed ym 1940. "Doedd hi ddim yn daith hawdd, ryw igam-ogam o daith. Fe aethon ni lan y Wenallt, drwy Gaerffili, y Groeswen, Eglwys Llan, drosodd i Senghennydd a nôl lan i Gilfynydd, i Ynysybwl, Llanwynno a throsodd i Abercwmboi yng Nghwm Cynon.

"Rwyn cofio ni'n mynd heibio Sgwd yr Eira ym mhen ucha' Cwm Nedd ...wedi i ni gyrraedd Abergwaun, fe ddilynon ni'r glannau i Dyddewi. Rwy'n cofio lletya noson yn Nhrefîn gyda'r Prifardd a'r Archdderwydd Trefîn a'i wraig Maxwell Fraser.

"Fe ddysges i gymaint am Gymru ar y daith honno - roedd Elvet Thomas yn adnabod Cymru mor dda. Rwy' mor falch fod Siân wedi meddwl gwneud ei phererindod ei hun fel rhyw fath o deyrnged i Max a'r gweddill ohonon ni."

Daeth Alan a hen gopïau o Cymru'r Plant gydag e, copïau oedd yn cynnwys erthyglau manwl a lluniau o'r daith wedi eu hysgrifennu gan Elvet Thomas.

Ym 1941 aeth Elvet Thomas a Maxwell Evans ar bererindod o Gaerdydd i Eglwys Gadeiriol Llanelwy ac oddi yno i Gadeirlan Bangor a channoedd o bobl yn aros i'w croesawu yn y ddau le.

Wedi i'r faner gael ei chysegru ar allor pob un o Eglwysi Cadeiriol Cymru - fe wnaed hynny yn Llandaf cyn cychwyn a thaith deuddydd oedd hi i Aberhonddu - arferwyd defnyddio'r faner ar Å´yl Ddewi yn Ysgol Cathays a'i chludo i fewn i Eglwys Dewi Sant Caerdydd adeg gwasanaethau arbennig gan yr Urdd.

Hefyd yn bresennol yn Nhyddewi ddydd Gwener oedd Iwan Evans, mab Maxwell Evans a brawd hŷn Siân. "Rwy'n meddwl mai fi oedd yr olaf i gael y fraint o gario'r faner fewn i Eglwys Dewi Sant," meddai Iwan, fu hefyd yn un o ddisgyblion Elvet Thomas yn ysgol Cathays.

Gwelwyd chwyldro mewn addysg Gymraeg yng Nghaerdydd ers y dyddiau hynny. Siâ SwintonRoedd Siân yn un o ddisgyblion cyntaf Ysgol Gyfun Rhydfelen a agorwyd ym 1962. Gofalwyd am y faner yng nghartref Elvet Thomas, ac wedi ei farw ef cytunodd ei weddw, Mair Elvet Thomas, ei throsglwyddo i ofal Eglwys Gadeiriol Tyddewi, ac ym 1997 fe'i derbyniwyd mewn gwasanaeth dan ofal Archesgob Cymru, y Parchedicaf George Noakes.

Oddi ar hynny bu yng Nghapel Mair yn y Gadeirlan.

Er ei eni yn Sir Benfro, magwyd Maxwell Evans yng Nghaerdydd. Yn ystod ei fywyd bu'n weinidog gyda'r Bedyddwyr, yn athro ysgol yn yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd, yn Drefnydd Cymraeg Ysgolion Uwchradd Morgannwg Ganol a wedi hynny'n Offeiriad gyda'r Eglwys yng Nghymru.

Erbyn hyn mae dwy ysgol uwchradd ac oddeutu dwsin o ysgolion cynradd Cymraeg yng Nghaerdydd. Gwyrth yn wir. Wrth lawenhau yn y cynnydd hwnnw, roedd yn briodol cofio ddydd Gwener am waith mawr W. C. Elvet Thomas yn cynnal Cymreictod yng Nghaerdydd, yn cysylltu'r Cymreictod hwnnw â gweddill Cymru ac yn ysbrydoli bechgyn fel Maxwell Evans. Hynny mewn cyfnod pan nad oedd addysg cyfrwng Cymraeg yn ddim mwy na breuddwyd.

"Gwnewch y pethau bychain ..." ys dywedodd Dewi. Ond roedd yr hyn gyflawnodd Elvet Thomas yn ei ddydd yn Cathays yn wyrth. Gwych o beth wnaeth Siân Swinton yn ein hatgoffa ni o hynny.

Gwyn Griffiths


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý