Sioe Theatr Ieuenctid Menter Cwm Gwendraeth Perfformiodd Theatr Ieuenctid Menter Cwm Gwendraeth y sioe gerdd 'Tra Bo Dau' yn neuadd Pontyberem ar nos Fercher, Ebrill 5, 2006. Roedd y sioe yn rhan o weithgareddau Gŵyl Gyhoeddi Eisteddfod yr Urdd 2007 yn Sir Gaerfyrddin.
Carys Edwrads oedd y Cyfarwyddwr, Gwenda Owen yn Gyfarwyddwr Cerdd a Jane Walby yng ngofal y dawnsio. Roedd tua hanner cant o ddisgyblion ysgolion Uwchradd y cylch yn aelodau'r cast, gan gynnwys rhai o Ysgol Gyfun Bro Myrddin, Ysgol y Strade, Ysgol Maes yr Yrfa ac Ysgol y Gwendraeth. (Lluniau gan Irfon Bennett.)
Mwy am sioe Tra Bo Dau Lluniau o'r wythnos.
|