Cliciwch yma i weld casglaid Lynda Gantsiou o'r diwrnod arbennig
Sawl Cymraes sy'n gallu ymffrostio yn y ffaith ei bod wedi ymweld â'r Gêmau Olympaidd? Efallai ei fod yn haws i mi, gan taw yn Thessaloniki, yng ngogledd Groeg rwy'n byw bellach; wedi gadael glannau Cymru deg mlynedd ar hugain yn ôl.
Teimlais fod yn rhaid mynd i'r gêmau ysblennydd yma hyd yn oed am ddiwrnod, gan taw ond unwaith bob pedair mlynedd eu cynhelir, ac yn ychwanegol roeddynt ar drothwy fy nrws!
I ffwrdd â mi a'r gŵr felly, a chael diwrnod bythgofiadwy wrth weld rhai o fabolgampwyr gorau'r byd yn cystadlu am fedalau aur, arian ac efydd o fewn llathennu i ni.
Roedd yr awyrgylch yn hudol, ac yn codi iâs arnaf wrth glywed y dorf yn curo dwylo, siantio a gwaeddi Hellas, Hellas, Hellas yn diddiwedd ac yn enwedig pan fyddai mabolgampwr o wlad Groeg yn mynnu ei dro.
Uchafbwynt y noson oedd gweld Fani Halkia yn ennill y fedal aur yn y ras 400 clwydi. Syrthiodd y nefoedd i'r ddaear, do wir! Trawsffurfiwyd y ferch ieuanc hon o dynes i dduwies mewn eiliad o flaen fy llygaid - Dyma oedd arwres y trac.
Gwelais gasgliad diddorol o gystadlaethau a seremoniau cyflwyno medaliau ond dim byd i gymharu â'r gorfoleddu a fu pan enillodd y ferch yma y medal aur i'w gwlad.
Er na fûm yn cystadlu fy hun, cefais innau fedal aur wyddoch - wrth weld y wledd mawreddog hon o flaen fy llygaid.