91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Tangwystl yn perfformio yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Abertawe Adolygiad Gŵyl Macs 06
Roedd hi'n hen bryd i gynnal gŵyl fawr yng Nghaerfyrddin, ac felly cafodd Gŵyl Macs groeso cynnes iawn yn yr ardal.
  • Gwybodaeth am Å´yl Macs 2007 yma
  • Lluniau o Å´yl Macs 2006

    Dros 20 o fandiau yn chwarae mewn sied ddefaid am dros ddeuddeg awr, gyda sied ddawns a phabell i 'ymlacio' yn rhan o'r fargen...a'r cyfan oll am £15 gan gynnwys parcio a gwersylla. Gwych!

    Band lleol o Gaerfyrddin agorodd yr ŵyl, ac yn amlwg mae gan Tangwystl llawer o ddilynwyr selog! Chwareuon nhw set dda iawn, gan gynnwys un o fy hoff ganeuon i; Saith Pechod Marwol, a'r gân hynod 'catchy' Mabli i orffen y set. Trueni eu bod nhw ond yn cael chwarae am chwarter awr ac eu bod nhw ymlaen mor gynnar yn y dydd!

    Clywais i rai pobl yn cwyno am cyn lleied o amser oedd y bandiau yn cael ar y llwyfan, ond dwi'n meddwl fod y trefnwyr wedi gwneud y peth cywir yn cael lot fawr o fandiau gwahanol i chwarae er gwaetha'r ffaith bod hyn yn golygu nad oeddent yn cael cymaint o amser i chwarae. Gan fod cynifer o fandiau yn chwarae yn ystod y dydd, roedd amrywiaeth eang o gerddoriaeth a siawns i blesio pawb!

    Roedd pobl yn y gynulleidfa o bob man - a dau wedi dod yr holl ffordd o Norwy! Er bod yr ŵyl yn dechrau am 12, roedd digon o bobl yno o'r cychwyn ac roedd y lleoliad yn wych; er eu bod hi 'di bwrw glaw trwy'r dydd, doedd dim ots gan fod y cyfan dan do.

    Euros Childs. Llun gan Mary WycherleyYr uchafbwyntiau i mi yn bersonol yn ystod y dydd oedd setiau Supergene, Mattoidz, Texas Radio Band, Radio Luxembourg (oedd yn hollol wych), Hot Puppies ac Euros Childs. Roedd set Euros Childs yn fythgofiadwy, a'r gynulleidfa yn mynd yn nyts. Fe fwynheuais set The Crimea yn fawr hefyd, yn enwedig pan ddaeth y prif leisydd mewn i'r gynulleidfa i ganu un o'r caneuon!

    Ond dwi'n meddwl mai uchafbwynt y dydd i mi oedd set Killa Kela. Doeddwn i heb weld yr 'human beatbox' yma o'r blaen, ac on i'n meddwl bod e'n hollol wych. Aeth y gynulleidfa yn wyllt, a dyma pryd oedd y sied yn fwyaf llawn. Ewch i weld Killa Kela yn fyw; mae'n brofiad!

    Ffans Nicky Wire yn y blaen. Llun gan Mary WycherleyRoedd set Nicky Wire yn siomedig - er doeddwn i ddim yn disgwyl llawer i fod yn onest. Roeddwn i'n teimlo ei fod ymlaen mor hwyr yn y nos oherwydd pwy yw e yn hytrach na safon ei gerddoriaeth. Ond chware teg i'r rhai oedd wedi aros ar flaen y gynulleidfa o flaen y llwyfan ers i'r gatiau agor yn y bore i weld Nicky Wire; parch yn wir!

    The Automatic oedd yn gorffen y noson, ac er nad ydw i'n ffan mawr ohonyn nhw, naethon nhw fy siomi ar yr ochr orau a nes i wir fwynhau eu set. Band da iawn, a ffordd dda o orffen y noson er doedd hi ddim yn llawn iawn yno erbyn hynny.

    Felly llwyddiant mawr oedd Gŵyl Macs; pawb i'w gweld wedi mwynhau. Efallai mod i'n mynd i swnio fel hen fenyw nawr, ond dwi'n meddwl ei bod hi'n werth ystyried cael rhyw fan lle all pobl eistedd lawr y flwyddyn nesa; ar bwys y bar er enghraifft. Roedd hi'n ddiwrnod hir, a llawr y sied yn oer!

    Hefyd, roedd angen posteri o gwmpas y lle gyda amserau'r bandiau arnynt, doedd gan y rhan fwyaf o bobl ddim syniad beth oedd yn mynd ymlaen. Ond pethau bach yw rhain; a pethau y gellir eu gwella erbyn y flwyddyn nesa. Dwi'n edrych ymlaen yn fawr i weld yr ŵyl yma yn datblygu yn ddigwyddiad pwysig iawn i'r calendr gerddorol flynyddol - a llongyfarchiadau i'r trefnwyr.

    Gan: Lowri Johnston

  • Gwybodaeth am Å´yl Macs 2007 yma
  • Lluniau o Å´yl Macs 2006

    Anfonwyd yr erthygl hon atom fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 91Èȱ¬ Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Am fwy o fanylion ac i wybod sut fedrwch chi gael £30 am ysgrifennu - cliciwch yma.


  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

    Sylw:




    Mae'r 91Èȱ¬ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý