Lluniau o ŵyl Macs 2007
Derbyniwyd y wybodaeth isod gan drefnwyr Gŵyl Macs 2007.
Am restr lawn o'r bandiau fu'n perfformio ar Fedi 1 & 2 - ewch i'r wefan: www.gwylmacsfest.com
Nid yw'r 91Èȱ¬ yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.
Magic Numbers, Plan B, Killa Kela, Meic Stevens a Brakes yw prif fandiau yr ŵyl eleni.
Grooverider a Mistress De Funk yn arwain y llwyfan ddawns
Guns, Genod Droog, Radio Luxembourg a Supergene hefyd wedi eu cadarnhau.
Beth yw Gŵyl Macs?
Mae Gŵyl Gerddorol a Sglefyrddio Macs yn digwydd ar ddiwedd yr haf. Dechreuodd yr ŵyl yn 2006 ac mae rhestr artistiaid eleni yn cynnwys enwau mawr, ac mae'r ŵyl hefyd yn cynnal rhaglen sglefrio unigryw o'r radd flaenaf.
Mae'r Magic Numbers, Plan B, Killa Kela, Brakes a'r Meic Stevens chwedlonol yn enwau sydd wedi eu cadanrhau. Mae rhaglen ddawns yr ŵyl yn parhau i ddatblygu ond gyda nifer o DJs dawns a adnabyddir yn rhyngwladol ar y rhestr, gan gynnwys Grooverider a Mistress De Funk.
Nos Sadwrn
Y rapiwr dadleuol, Plan B, a elwir yn fersiwn Lloegr o Eminem, yw prif act noson agoriadol yr ŵyl. Mae ei wreiddioldeb hip hop wrth adrodd straeon tywyll Llundain wedi ennill cymeradwyaeth iddo. Bydd y Brakes, grŵp o Brighton, yn perfformio am y tro cyntaf yn yr ŵyl gyda'i steil unigryw o pync a roc caled, tra bod y Guns o'r cymoedd, enillwyr RAP Grŵp y flwyddyn Genod Droog a Supegene o Gaerfyrddin yn hedfan y faner Gymreig y noson honno ynghyd â nifer o enwau adnabyddus eraill a gwaed newydd.
Nos Sul
Ar y nos Sul gwelwn The Magic Numbers yn perfformio eu cerddoriaeth seicadelig gyda chymysgedd o felodi a harmoniau hafaidd sy'n adleisio grwpiau'r 60au fel The Lovin' Spoonful a The Mamas and The Papas. Mae'n gyfuniad llwyddiannus sydd wedi cadarnhau fod y ddau albwm gyntaf ar frig y siartiau. Mae bandiau mawr eraill ar y nos Sul yn cynnwys Meic Stevens, Radio Luxembourg a Mim Twm Llai. Mae Mim Twm Llai yn chwarae casgliad o ganeuon amrywiol a deinamig, sy'n plethu arddulliau gwerin, gwlad, Americana, reggae a roc i greu sŵn acwstig amgen ac unigryw.
Gwersylla
Bydd tocynnau gwersylla ar gael wrth i chi gyrraedd (£3 y noson / £7 am 3 noson). Bydd gwersylla'r un pris i'r rheini sy'n aros mewn pabell a'r rheini sy'n aros mewn 'campervan.'
Cyfyngiadau Oed
Nodwch fod Gŵyl Macs yn rhoi mynediad i bobl dros 18 yn unig. Bydd arnoch angen prawf o'ch oed os ydych chi'n edrych o dan 18 a bydd gofyn i chi ei ddangos lle bo'r angen. Byddwn yn rhoi mynediad i bobl o dan 18 os ydyn nhw gydag oedolion dros 25 oed. Byddwn yn gofyn am brawf oed ac felly dewch â phrawf gyda chi. Bydd y polisi yma yn cael ei orfodi'n llym drwy'r penwythnos. Ni chewch fynediad nac ad-daliad os fethwch i gydymffurfio gyda'r rheolau.
Mae tocynnau ar gael NAWR am £25 y diwrnod, neu £45 am docyn penwythnos (£40 os wnewch chi brynu'r tocyn mewn siop cyn Mehefin 11).
Ewch i wefan Gŵyl Macs am fanylion pellach: www.gwylmacsfest.com
Nid yw'r 91Èȱ¬ yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.