91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Caerfyrddin

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Caerfyrddin
Fflur Dafydd Gŵyl Macs 2007
Diffyg cynulleidfa ond cerddoriaeth wych. Dyna rai o sylwadau Lowri Johnston o Gaerfyrddin am ŵyl Macs 2007 a gynhaliwyd ar Fedi 1 & 2.
  • Lluniau o'r penwythnos

    Dau ddiwrnod llawn o gerddoriaeth byw ar draws tri llwyfan; yn gerddoriaeth ddawns, bandiau Cymraeg a bandiau di-Gymraeg (rhai yn fwy enwog na'i gilydd) - a hyn oll llai na phum munud o 'nghartref - gwych!

    Dim ar chwarae bach mae mynd ati i drefnu gŵyl gerddorol yng Nghaerfyrddin, yn enwedig cynnal digwyddiad mor fawr â Macs a hithau ond yn ei hail flwyddyn. Ac oedd, mi oedd 'na broblemau bychain - diffyg cynulleidfa yn un peth - ond er gwaethaf hyn, roedd hi'n benwythnos hollol wych!

    Disgrifiwyd Caerfyrddin fel tref gyda "an undeniably down at heel and cheerless atmosphere which doesn't encourage you to stay for long..." yn y llyfr The Rough Guide to Wales a dyma beth ysgogodd dwy ferch ifanc o'r ardal i fynd ati i drefnu gŵyl fawr, fyddai'n denu pobl i'r ardal ac yn ceisio rhoi Caerfyrddin ar fap y gwyliau cerddorol ym Mhrydain.

    Roedd amrywiaeth mawr o fandiau yn chwarae o 12 y prynhawn tan 1 y bore ym Mhabell Cymdeithas yr Iaith, ar y llwyfan dawns ac ar y Prif Lwyfan, ac roedd 'na DJs yn chwarae yn y babell orffwys oedd yn llawn matiau ar y llawr i gael gorffwys am ychydig rhwng yr holl ddawnsio!

    Roedd pabell Cymdeithas yr Iaith yn llawn trwy gydol y penwythnos ac yr uchafbwynt heb os oedd set Derwyddon Dr Gonzo i gloi dau ddiwrnod, yn fy marn i hollol wych, o gerdd-oriaeth orau Cymru. Aeth y babell yn hollol wyllt yn ystod y Derwyddon nos Sul, pawb yn dawnsio i'w cerddoriaeth ffynci; dyma fand sydd yn gwella a gwella o hyd - ewch i'w gweld nhw'n fyw da chi!

    Bandiau eraill a fwynheais ym mhabell Cymdeithas yr Iaith dros y penwythnos oedd Fflur Dafydd a'r Barf, Cowbois Rhos Botwnnog, Pwsi Meri Mew, Endaf Presley - mae'r rhestr yn un faith! Gyda thri llwyfan roedd wastad rhywbeth i'w weld, er ei fod yn golygu rhedeg o un llwyfan i'r llall ar brydiau!

    Nos Sadwrn, roedd Killa Kella yn ardderchog - fel llynedd. Mae wir yn werth eu gweld nhw'n perfformio'n fyw, dwi'n cofio bod yn hollol gegrwth pan welais i e'n 'beatbocsio' am y tro cyntaf, waw! Plan B oedd yn cloi'r noson, a nes i rili fwynhau'r set ond falle nad ydyn nhw'n fand i ddenu niferoedd? Er hyn, roedd Meic Stevens, Radio Luxembourg a'r Magic Numbers yn chwarae ar y prif lwyfan nos Sul a doedd dim mwy o bobl i'w gweld yno na'r noson gynt.

    Roedd Meic Stevens yn dda iawn, er ei fod yn mynnu siarad Saesneg gyda'r gynulleidfa, nes iddo sylweddoli bod y rhan fwyaf o'r gynulleidfa am glywed caneuon fel 'Merch y ffatri wlân' yn Gymraeg! Cefais fy siomi ar yr ochr orau gan y Magic Numbers; doeddwn i ddim yn meddwl fy mod i am fwynhau eu set nhw, ond roedden nhw wir yn dda! Er fod 'na brinder cynulleidfa, roedden nhw fel pe baen nhw'n chwarae i filoedd o bobl.

    Er bod y lle yn teimlo'n reit wag, roedd 'na awyrgylch grêt ar faes yr ŵyl, pawb yn mwynhau ond pawb gyda'r un gŵyn - diffyg pobl! Lle oedden nhw gwedwch?! Roedd yr hysbysebu wedi bod yn dda, y bandiau, hyd y gwelaf i yn plesio pob chwaeth cerddorol, felly lle roedd y bobl, yn enwedig rhai Caerfyrddin? Falle mai'r pris o £45 am y penwythnos oedd yn cadw pobl i ffwrdd - neu Bryn Fôn yn ei gig flynyddol yn Sioe Llandysul?! Beth bynnag fo'r rheswm, gobeithio na fydd hyn yn effeithio ar barhad yr ŵyl.

    Yr hyn sy'n bwysig, yn fy marn i, yw bod y trefnwyr wedi llwyddo i gynnal gŵyl gwbl ddwyieithog, heb wneud gormod o ffws ynglŷn â iaith - roedd yr ŵyl yn hollol naturiol Gymraeg a Saesneg, a phobl na fyddai'n mynd i weld bandiau Cymraeg fel rheol yn cael gweld rhai gwych a bandiau llai yn cael cyfle i chwarae ar lwyfan mawr yn cefnogi bandiau llwyddiannus a phoblogaidd.

    Roedd hi'n bendant yn benwythnos i'w gofio, a'r trefniadau i gyd yn grêt. Boed i'r ŵyl barhau i dyfu!

    Lowri Johnston

  • Lluniau o'r penwythnos

  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

    Sylw:




    Mae'r 91Èȱ¬ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



    Bach o Bopeth
    Trefi
    Lluniau
    Digwyddiadau


    About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý