Lluniau Nicaragua
(Lluniau o'r daith ar waelod y dudalen hon.)
Mae'r Nawfed Dirprwyaeth o Gymru wedi dychwelyd o Nicaragua ar ôl ymweliad llawn gobaith.
Treuliodd y Grŵp bythefnos yn y wlad yng Nghanolbarth America, yn Chwefror a Mawrth 2007, yn ymweld â phrosiectau cymunedol, ffermwyr masnach deg, undebau llafur, a gwleidyddion o'r llywodraeth newydd.
"Roedd y prosiect Action Aid yn un o'r rhai mwyaf llwyddiannus a welsom ar ein holl daith i Nicaragua," meddai Ben Gregory, Ysgrifennydd yr Ymgyrch. "Roeddent wedi gweithio gyda'r gymuned a'r Cyngor lleol i sefydlu system dŵr glân, cynllun credyd-micro, busnesau bach, a helpu i gefnogi ffermwyr lleol."
Sefydlodd y prosiect Radio Kukra Hill hefyd, a chafodd y gwirfoddolwyr o Kukra weithdy ar gynhyrchu rhaglenni gan Huw Meredydd Roberts, un o'r criw sy'n gynhyrchydd gyda rhaglen C2 ar 91Èȱ¬ Radio Cymru. Mae'r rhaglen gan wirfoddolwyr Radio Kukra Hill yn cynnwys cyfweliadau gan ddwy arall o'r ddirprwyaeth, mam a'i merch Carol a Branwen Ellis o Flaenau Ffestiniog. Darlledir y rhaglen ar Radio Bro Blaenau ar Radio Cymru (mae Radio Kukra Hill a Radio Bro Blaenau yn rhannu'r un donfedd - 92.5 FM!).
Un arall o'r uchafbwyntiau oedd cwrdd â'r mudiad sydd wedi saernio'r cynllun newydd i atal pobl rhag llwgu yn Nicaragua.
"Mae'r cynllun yn syml iawn," meddai Ben Gregory, Ysgrifennydd yr Ymgyrch. "Bydd 75,000 o deuluoedd yn derbyn buwch a llo, a moch, a chael hadau, credyd a chyngor technegol i dyfu eu bwyd eu hunan, i fwyta a gwerthu. Bydd pob teulu yn cael 'bio-digester' i greu nwy i goginio a chreu gwrtaith, a bydd y llywodraeth yn sefydlu rhwydwaith o farchnadau lleol i dderbyn y cynnyrch, ag agor banciau credyd a swyddfeydd cyngor lleol."
Mae CIPRES wedi peilotio'r cynllun gyda 3,000 o deuluoedd, a bydd y cynllun cenedlaethol yn cyrraedd 500,000 o bobl o fewn y pum mlynedd nesaf. "Bydd y cynllun yn gam mawr tuag at gyrraedd y Gol Datblygu'r Mileniwm cyntaf, sef hanneru tlodi a dileu llwgu," meddai Ben.