Atlas Geirfa Morgannwg
Cyn bo hir bydd atlas newydd yn cael ei gyhoeddi. Atlas sy'n dangos pa eiriau sy'n cael eu defnyddio ym Morgannwg.Geiriau ffermwyr y sir fydd yn y llyfr oherwydd nhw sydd debycaf o siarad hen iaith Morgannwg, sef y Wenhwyseg. Mae'r atlas yn cynnwys atebion pobl o 95 o bentrefi drwy Forgannwg. Ond mae lle i ragor! Ydych chi'n gwybod am unrhyw un a fagwyd ar fferm ym Morgannwg ac a allai helpu? Os ydych, cysylltwch â'r Athro Peter Wynn Thomas yn Ysgol y Gymraeg. cymraeg@caerdydd.ac.uk yw'r e-gyfeiriad. Beth am anfon eich cynigion chi aton ni hefyd? Cliciwch yma i weld rhestr o eirfa tafodieithol sydd gennym ni ar Lleol, ac ychwanegwch at y rhestr trwy lenwi'r ffurflen arbennig ar waelod y dudalen. Byddwn yn hapus i ddangos eich cynigion yn y rhestr.
|