Lluniau o Å´yl y Wlad yn y Dref - Oriel 1 Lluniau o Å´yl y Wlad yn y Dref - Oriel 2
Cynhaliwyd Gŵyl y Wlad yn y Dref ym Mae Caerdydd o ddydd Gwener y 3ydd o Dachwedd nes dydd Sul y 5ed o Dachwedd. Roedd yn ŵyl fwyd ac yn ddathliad o gefn gwlad Cymru.
Cefn gwlad yn dod i Gaerdydd
Bwriad yr ŵyl oedd dod â chefn gwlad Cymru i mewn i ganol Caerdydd. Roedd tair ardal yn rhan o'r ŵyl gyda phob un ardal yn disgrifio'r gwahanol gamau o'r gadwyn fwyd. Cafwyd arddangosfa o dda byw a chynhyrchwyr bwyd yn bresennol ynghyd â gweithgareddau addysgiadol a gwledig ar gyfer y rhai a fu'n ymweld.
Cafwyd perfformiadau byw gan y Sioe 'Sheeptacular' a 'Meirion Owen a'r Quack Pack' yn ystod y digwyddiad. Pwy a fyddai'n meddwl byddai defaid ac Indian Runner Ducks i'w gweld yn fyw ym Mae Caerdydd?
Roedd y cogydd Dudley yn bresennol ac yn gwneud arddangosfeydd coginio hefyd.
"Mae'n ddigwyddiad pwysig iawn i CFfI Cymru. Wrth ddod â'r 'Wlad i'r Dref', fe fyddwn yn medru addysgu ymwelwyr ynglŷn â gwahanol agweddau o gefn gwlad a gobeithir y bydd yr ŵyl yn codi proffil y mudiad yng Nghymru ac yn darparu'r cyfle i bobl ifanc i arddangos eu sgiliau mewn digwyddiad proffesiynol cyhoeddus." meddai Rhodri Evans, Cadeirydd y Mudiad cyn y penwythnos.
"Rhaid diolch i'n noddwyr sef Tesco a Hybu Cig Cymru ac i Lywodraeth Cynulliad Cymru am eu cefnogaeth a'u harweiniad." ychwanegodd.
Gala yn uchafbwynt
Daeth y penwythnos arbennig hwn i ben gyda Gala ddathliadol a gynhaliwyd ar lwyfan ysblennydd Canolfan Mileniwm Cymru ar nos Sul y 5ed o Dachwedd gyda channoedd o aelodau'r mudiad yn cymryd rhan. Byddwn yn ychwanegu lluniau o'r gala ar y safle hwn yn fuan.
Mae'r mudiad wedi bod yn trefnu'r gala ar y cyd gyda S4C a Cwmni Da Tonfedd Eryri.
"Mae'r noson yn addo bod yn gampwaith o holl ddoniau aelodau'r mudiad ac rwy'n sicr yn edrych ymlaen at weld y perfformiad. Mae'n gyfle arbennig i'r bobl ifanc i berfformio ar un o lwyfannau mwyaf y byd gan ddangos eu llu o dalentau. Yr ydym yn ffodus iawn o'r holl gefnogaeth yr ydym wedi derbyn dros y misoedd diwethaf gan bawb sydd ynghlwm yn y digwyddiad ac yr ydym yn hynod o ddiolchgar am hyn. Noddwyr y Gala yw Land Rover UK ac yr ydym yn ddiolchgar iddynt hwy hefyd am eu cefnogaeth hael," dywedodd Rhodri Evans wrth edrych ymlaen at y noson.
Lluniau o Å´yl y Wlad yn y Dref - Oriel 1 Lluniau o Å´yl y Wlad yn y Dref - Oriel 2
Cliciwch yma i ddallen Dyddiadur Aelodau Clwb Ffermwyr Ifanc Dyffryn Banw, Maldwyn wrth iddyn nhw baratoi am y penwythnos mawr.
Llywydd newydd y Clwb, Eryl Williams yn edrych ymlaen at y dathlu.
|