Bydd y gyfres newydd yn archwilio un o ystrydebau mwyaf cyfarwydd y genedl - y syniad o Gymru fel 'gwlad y gân'. Yn Canu'r Cymoedd, bydd yr Athro Gareth Williams yn honni bod y ddelwedd hon o Gymru wedi dod i'r fei gyntaf oll yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg, er bod y Cymry yn gysylltiedig â cherddoriaeth ymhell cyn hynny.
"Mae'r ddelwedd hon o "Gymru, Gwlad y Gân" yn deillio o'r traddodiad corawl anrhydeddus a dyfodd yn ardaloedd diwydiannol y De yn y 1800au," eglura'r Athro Williams. "Yn wir, y tro cyntaf i 'dîm' o Gymru wynebu Lloegr oedd mewn cystadleuaeth gorawl fawreddog yn y Palas Crisial yn Llundain ym 1873."
Yn yr ornest hanesyddol hon roedd yn rhaid i'r 'Côr Mawr' brofi ei allu yn erbyn un o brif gorau Llundain. O dan arweiniad yr enwog Griffith Rhys Jones, bu'r Cymry'n fuddugoliaethus. "Roedd bri Jones gymaint nes ei fod yn cael ei adnabod gan ei ffugenw yn unig - Caradog," meddai Gareth.
"Ar draws Cymru, mae 'na gerfluniau o gadfridogion, gwleidyddion ac enwogion y meysydd chwarae, ond does ond un cerflun o arweinydd côr, sef y cerflun godidog o Caradog yn chwifio'i faton, sy'n sefyll yn sgwâr ei dref enedigol, Aberdâr."
Mae'r Athro Williams yn egluro paham fod tŵf y traddodiad newydd hwn wedi bod mor gryf yn y de.
"Bu i ddiwydiannau De Cymru dyfu'n gyflym ac fe ymgartrefodd niferoedd uchel o Gymry yn y trefi am y tro cyntaf mewn hanes. Gyda'r tŵf mewn poblogaeth a'r gwelliannau mewn trafnidiaeth, roedd yn bosibl i gorau mawr ddod at ei gilydd i ymarfer a pherfformio - yn aml yn y capeli newydd oedd yn cael eu hagor dros y wlad. Fe arweiniodd hyn at draddodiad y Corau Meibion Cymraeg," eglura Gareth, sydd yn aelod o Gôr Meibion Pendyrus yn y Rhondda.
"I fi, mae sŵn y Corau Meibion yn rhywbeth arbennig. Mae'n gadarn, cyffrous ac yn gynnes hefyd. I nifer fawr o bobl, dyma sain sy'n nodweddiadol ohonom ni'r Cymry."
Fe wnaeth y corau ddenu cefnogaeth frwd. Ym 1893 fe aeth rhyw 15,000 o bobl i weld Cymru yn maeddu Lloegr mewn gêm rygbi ym Mharc yr Arfau, Caerdydd, ond yn y mis Awst, roedd pafiliwn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd dan ei sang gyda 20,000 o bobl yn gwylio'r brif gystadleuaeth gorawl.
Bydd Canu'r Cymoedd hefyd yn edrych ar ochr dywyllach cystadlaethau corawl oes Fictoria. Roedd yr awydd i ennill mor gryf nes i'r corau geisio pob math o driciau a chynllwynio i danseilio'u gwrthwynebwyr. Roedd y cystadlaethau mawr yn denu llu o gamblwyr, a phan nad oedd y gwylwyr yn hapus gyda'r dyfarniad, roedd y cefnogwyr anfodlon weithiau'n ymladd, a'r beirniaid yn gorfod ffoi am eu bywydau!
Canu'r Cymoedd. Yn dechrau ar Ddydd Calan, 8.45pm, S4C, gydag isdeitlau Saesneg.
Cynhyrchiad Boomerang i S4C mewn cydweithrediad ag ITV Wales.