Daw'r enw oddi wrth yr enw ar hen drigolion Gwent, y Gwennwys, ac yr oedd yn iaith oedd yn cael ei siarad yn eang ar un adeg mewn ardal yn ymestyn o Sir Fynwy cyn belled a Dyffryn Aman a Bannau Brycheiniog. Ond er nad oes llawer o'r iaith i'w chlywed heddiw dywed Mary Wiliam mewn llyfr a sgrifennodd hi am yr Wenhwyseg ei bod i'w chlywed "yn ddyddiol" yn Saesneg yr ardal. "Mae cystrawen y Gymraeg mor fyw ag erioed," meddai yn Blas ar Iaith Blaenau'r Cymoedd gan gyfeirio at ymadroddion Saesneg fel, What is on her? (Beth sydd arni?)ac You can venter that it was 'im (Gelli fentro taw ef oedd a.) Dyfynna hefyd eiriau Cymraeg sy'n dal ar iws - ond yn y Saesneg: 'E went like a winci ac You can count on 'er wen there's taro." Ymhlith nodweddion o'r dafodiaeth y mae Mary Wiliam yn cyfeirio atynt mae absenoldeb y llythyren 'h' "'Ewl, 'eddi, 'yll yw'r ffurfiau arferol. Gweiddir Eisht! ar blant neu gŵn a chathod sy'n cadw sŵn. Ond os na yw hynny'n cael yr effaith briodol gweiddir Heisht! yn uwch fyth," meddai. Dywed hefyd na ddefnyddir 'ch' yn y dafodiaith gan ddyfynu, wech, wthu a wilia. Mae'n cyfeirio hefyd at y defnydd o 'g' mewn ffurfiau negyddol: Gwi ddim. Cliciwch yma i weld detholiad o eiriau tafodieithol y Wenhwyseg a geiriau eraill sy'n hynod i'r de ddwyrain.
|