Mae'r Ganolfan yn gartref newydd i saith o gwmnïau celfyddydol yn cynnwys opera, dawns a'r Urdd, a'r gobaith yw y bydd rhywbeth at ddant pawb. Adeiladwyd y ganolfan gyda deunydd o bob cwr o Gymru a daeth arian i gefnogi'r prosiect enfawr hefyd o sawl cronfa gan gynnwys y loteri, ffynonellau cyhoeddus a'r sector preifat. Dywedodd Rhodri Morgan, Prif Weinidog y Cynulliad, fod yr agoriad yn "gam mawr ymlaen" i gelfyddydau a cherddoriaeth yng Nghymru. "Mae wedi cymryd 18 mlynedd i gael y ganolfan gelfyddydol hon, o'i chreu hyd ei geni, ond yn sicr mae werth yr holl aros," meddai. "Nawr mae lan i bawb yng Nghymru ac ymwelwyr â Chymru i fwynhau'r ganolfan sydd o safon byd." Cliciwch yma i ddarllen mwy.
|