91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Grand Slam Cynhadledd y Cyfryngau
Mi fydd cynhadledd Cyfrwng yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd o ddydd Gwener 22 Ebrill tan ddydd Sul 24 Ebrill 2005, a fydd yn gweld aelodau o gast gwreiddiol y ffilm gomedi 'Grand Slam' yn dychwelyd i gofio un o ffilmiau mwya poblogaidd y genedl.
Tra bo Cymru yn ymfalchïo yn ei buddugoliaeth gynta yn y gamp lawn ers 27 mlynedd, mae aelodau o gast gwreiddiol y ffilm gomedi Grand Slam yn dychwelyd i gofio un o ffilmiau mwya poblogaidd y genedl.

Bydd John Hefin, y cyfarwyddwr, ac aelodau o gast y ffilm boblogaidd sy'n portreadu grŵp o ddilynwyr rygbi yn teithio i Baris i ddilyn eu tîm, yn cael eu haduno mewn cynhadledd ym Mhrifysgol Morgannwg yn ystod mis Ebrill.

Bydd tri o'r actorion a ymddangosodd yn y ffilm - Sharon Morgan, Dewi Pws Morris a Siôn Probert - yn bresennol mewn dangosiad ohoni yn sinema'r UGC fel rhan o gynhadledd Cyfrwng 2005, un o ddigwyddiadau cyfryngol mwyaf urddasol Cymru.

Bydd wynebau enwog y ffilm yn ymuno ag aelodau allweddol eraill o'r diwydiant cyfryngau yng Nghymru mewn cynhadledd a gynhelir yn y Brifysgol yn Nhrefforest. Bydd y gynhadledd a gynhelir rhwng 22 - 24 Ebrill, yn hybu trafodaeth ynghylch materion cyfryngol yng Nghymru ac yn dod â'r cyfryngau a'r sector addysg bellach ac uwch yng Nghymru at ei gilydd.

Bydd aduniad y Grand Slam yn dilyn sesiwn ar ddarlledu chwaraeon o dan arweiniad Huw Llywelyn Davies o 91Èȱ¬ Cymru a Gareth Davies, Golygydd Comisiynu Chwaraeon S4C. Sefydlwyd Cyfrwng er mwyn darparu fforwm ar gyfer cyflwyno gwaith ymchwil a thrafod y cyfryngau yng Nghymru - sef ffilm, teledu, cyfryngau newydd, radio, newyddiaduraeth ac astudiaethau perfformio.

Penaethiaid y prif ddarlledwyr yng Nghymru fydd y siaradwyr cyfeirnod yn y gynhadledd a disgwylir iddynt fanylu ar ddyfodol llunio rhaglenni yng Nghymru yn yr oes ddigidol. Bydd Roger Lewis MD o ITV Cymru, Menna Richards, Pennaeth 91Èȱ¬ Cymru ac Elan Closs Stephens Cadeirydd S4C yn arwain trafodaethau yn y gynhadledd.

Bydd panel o brif aelodau, gan gynnwys cynrychiolwyr o'r wasg yng Nghymru ac Iwerddon, yn edrych ar yr her sy'n wynebu newyddiaduraeth o safbwynt ieithoedd lleiafrifol.Dywedodd Lisa Lewis, Cyfarwyddwr y Gynhadledd, "Mae'n anrhydedd i ni gael gwahodd cynhadledd mor enwog i Brifysgol Morgannwg. Mae'r gynhadledd yn adlewyrchu'n gywir ein hymrwymiad fel adran wrth ddelio â - a herio'r materion sy'n wynebu'r cyfryngau yng Nghymru heddiw.

"Uchafbwynt y digwyddiad fydd cyflwyno 'Gwobr Siân Phillips' i'r unigolyn a wnaeth gyfraniad nodedig i'r cyfryngau yng Nghymru. Bydd sesiynau eraill yn Cyfrwng 2005 yn canolbwyntio ar berfformiadau, darlledu chwaraeon, rheoliadau darlledu, newyddiaduraeth iaith leiafrifol, comedïau sefyllfa yng Nghymru ac ati.

Cynhelir sesiynau yn Gymraeg ac yn Saesneg gyda gwasanaeth cyfieithu ar y pryd llawn.

Am ragor o wybodaeth ynghylch y gynhadledd ac er mwyn llogi lle, ymwelwch â gwefan Cyfrwng - www.cyfrwng.com


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý