Cliciwch yma i edrych ar luniau o'r noson. Y gantores a'r actores Gillian Elisa oedd trefnydd y sioe fawreddog, ac ymhlith yr artistiaid roedd, Caryl Parry Jones, Geraint Griffiths, Delwyn Siôn, Heather Jones, Siân James, Mynediad am Ddim, Jo's Heatwaves, Huw Chiswell, Margaret Williams, John Quirk a'i Fand, Aelodau o gast Pobol y Cwm gan gynnwys Huw Euron ac Arwyn Davies, Tara Bethan, Shân Cothi a Peter Karrie, Sioned Mair, Gwenda Owen a Geinor Hâf, Cwmni Theatr Ieuenctid Menter Cwm Gwendraeth, Côr CF1 (Arweinydd: Eilir Owen Griffiths), Côrdydd (Arweinydd Sioned James) a Karen Elli. Rhai o arweinwyr y noson o'r llwyfan oedd Hywel Gwynfryn, Siân Thomas, Sue Roderick, Huw Ceredig, Eirlys Parri ac Amanda Prothero -Thomas . Darlledwyd y gyngerdd yn fyw ar Radio Cymru gyda Dafydd Du yn cyflwyno rhwng perfformiadau'r artistiaid. Cliciwch yma i wrnado ar y gyngerdd eto ar y wefan hon. Roedd y Gyfnewidfa Lo yn orlawn gyda chynulleidfa wrth eu bodd gyda'r cyngerdd mawreddog. Cliciwch yma i edrych ar luniau o'r noson. Oeddech chi yno? Rhowch eich barn am y noson isod!
|