|
Oedfa'r Bore, 91Èȱ¬ Radio Cymru, Sul, Mawrth 18, 2007 Y Parchedig Ganon Mary Stallard, Llangollen. Wraig, dyma dy fab - dyma dy fam di.
Henffych, Fair yr hon a gefais ras; Yr Arglwydd sydd gyda thi; bendigedig wyt ti ymhlith gwragedd, a bendigedig yw ffrwyth dy groth di, Iesu.
Darlleniad o Efengyl Sant Ioan, pennod 19: Yn ymyl croes Iesu yr oedd ei fam ef yn sefyll gyda'i chwaer, Mair gwraig Clopas, a Mair Magdalen. Pan welodd Iesu ei fam, felly, a'r disgybl yr oedd yn ei garu yn sefyll yn ei hymyl, meddai wrth ei fam, "Wraig, dyma dy fab di." Yna dywedodd wrth y disgybl, "Dyma dy fam di." Ac o'r awr honno, cymerodd y disgybl hi i mewn i'w gartref.
Emyn.
Cyflwyniad Bore da a chroeso i Oedfa'r Bore. Heddiw mae hi'n bedwerydd Sul y Grawys a hefyd yn Sul y Mamau.
Mae'n ddiwrnod o ddathlu ac mi fydd llawer o bobl yn mynd â'u mam allan am bryd o fwyd, neu yn coginio ar ei chyfer.
Enw arall ar y Sul yma ydi Sul Ymborth - mae'n ddiwrnod pan ydyn ni i fod i gael ein porthi. Ein bwydo.
Ond dydi hyn ddim yn ymwneud â bwyd materol yn unig. Mae e hefyd yn ymwneud â chael ein meithrin a'n cynnal yn ysbrydol er mwyn inni allu tyfu mewn ffydd.
Wrth inni felly ddiolch i Dduw am ein mamau, rydym ni hefyd yn ymwybodol o roddion y Fam Ddaear a rhai'r Fam Eglwys neu gapel - lle cafodd ein ffydd ni ei faethu - ac o'r enghraifft fwyaf erioed o gariad perffaith, cariad Iesu, yr un y meiddiodd Sant Iwlian o Norwich, yn ôl yn y bedwaredd ganrif ar ddeg, ei alw yn, "Crist, ein gwir Fam".
Dywedodd Iwlian hyn ar adeg y pla du, pan oedd e'n bwysig iddi egluro bod Duw wastad yn trafferthu gyda phobl yn eu dioddefaint.
Dangos cariad perffaith Duw Trwy ei holl fywyd, yn ei eiriau a'i weithredodd, dangosodd Iesu inni gariad perffaith Duw, y cariad sydd, yng ngeiriau Sant Paul, "yn hirymarhous . . . yn gymwynasgar . . . sydd yn goddef i'r eithaf, yn credu i'r eithaf, yn gobeithio i'r eithaf yn dal ati i'r eithaf."
Efallai y byddai Sant Paul hyd yn oed yn cytuno a Iwlian, fod cariad fel hyn yn disgrifio cariad mam.
Roedd Iesu'n sylweddoli pwysigrwydd y rhodd famol o fagwraeth. Wrth i ni weddïo'r bore 'ma, rydyn ni'n cofio ei eiriau ar y Groes.
Hyd yn oed ynghanol ei boen a'i ing, fe siaradodd â Mair ei fam ac ag Ioan, ei ddisgybl, a dweud wrthyn nhw: "Wraig, wele dy fab - fab, wele dy fam."
Roedd fel petai yn cydnabod cariad ei fam tuag ato, trwy gymryd ei gyfrifoldeb fel mab hynaf o ddifri.
Gan fod Mair yn weddw erbyn hyn, roedd gofal ei fam ar ysgwyddau'r mab hynaf ac nid yw Iesu yn anghofio'i ddyled i'r fam oedd wedi ei garu ac wedi gofalu amdano ar hyd blynyddoedd ei blentyndod a thu hwnt.
Her y geiriau yma i ni yw gweld pobl eraill fel aelodau o'n teulu - ac i sylweddoli mai ein teulu ni ydy teulu Duw. Teulu sy'n cynnwys pawb ydi o. Disgrifiodd Iesu ei hun ei berthynas efo ni fel iâr yn casglu ei chywion.
Mae'n cyfarch Jerwsalem gan ddweud; "Mor aml y dymunais gasglu dy blant ynghyd, fel y mae iâr yn casglu ei chywion dan ei hadenydd ..."
Ac yn y geiriau hyn yn mynegi natur cariad a gofal Duw dros ei deulu. Mae E'n moyn bod yn agos at eraill - yn moyn eu cofleidio fel mam yn cofleidio'i phlant.
Mae Iesu'n galw arnon ni drwy ei eiriau i fyfyrio ar ein perthynas â'n mamau, a thrwy hynny ein perthynas â Duw, ac â phawb rydyn ni'n byw ac yn gweithio yn eu plith.
Gadewch inni ofyn am faddeuant Duw am yr holl ffyrdd rydyn ni wedi ei siomi ef ac eraill a gweddïwn am ei nerth a'i adnewyddiad.
Kyriau
Gweddi:
Hollalluog Dduw a Thirion Dad, dyro i ni wir edifeirwch. Agor ein llygaid i adnabod y gwir amdanom ein hunain, fel wrth gydnabod ein beiau, ein gwendidau a'n methiannau y cawn dderbyn dy faddeuant a chael yn dy gariad galondid i ddechrau o'r newydd, er mwyn Iesu Grist ein Harglwydd, Amen.
O Dduw ein Mam, 'rwyt Ti'n cynnal ein bywyd ynot ti; rwyt Ti'n ein dysgu i gerdded. Cynorthwya ni i dderbyn dy diriondeb ac ymateb i'th her fel y bydd i eraill dderbyn bywyd gennym ni, yn dy enw. Amen.
Emyn Darlleniad - Luc 2:41-51:
Cariad rhiant yn reddfol a gwerthfawr Yn y darlun yma o fywyd cynnar Iesu yn Efengyl Luc fe gawn gipolwg ar rôl Mair, mam Iesu a'i pherthynas a'i mab. Mae'r darlleniad yn dweud fod cariad rhiant yn reddfol a gwerthfawr ond y mae hefyd yn gostus i'r rhiant.
Oherwydd bod cariad mam yn rhywbeth mor naturiol - yn rhywbeth sydd wedi ei gysylltu mor agos â realiti amrwd genedigaeth a gofal corfforol - yna mae'n rhywbeth sy'n dod gyda phris, sef ein bod ni weithiau yn ei gymryd yn ganiataol.
Mae gofal mam hefyd yn gallu golygu bod mam yn pryderu dros a dioddef gyda'i phlentyn.
Bydd pob rhiant sydd wedi aros i fyny yn disgwyl i'w plentyn gyrraedd yn ôl yn saff o'r noson o hwyl, neu sydd wedi aros efo plentyn sy'n sâl yn deall hyn ac yn deall pryder Mair dros yr Iesu yn y darlleniad.
Dydi'r gwaith mae ein mamau yn ei wneud drosom ddim yn cael ei fesur mewn oriau, nac yn rhywbeth y mae'n rhaid talu amdano, nac y gellir talu amdano - ond, chwedl y Sais, mae o'n priceless - y tu hwnt i'w brisio.
Sul y Mamau yn ein hatgoffa o gariad Duw Mae Sul y Mamau yn ein hatgoffa y gellir myfyrio yn hir ar gariad mam, a gall y cariad hwnnw ddysgu llawer inni am sut i fyw yn fwy haelionus.
Heddiw rydym ni'n dwyn i gof yr atgofion da - ac weithiau hefyd, y rhai poenus - rydym ni'n eu cysylltu â'n mamau, a chawn ein hatgoffa sut y mae Duw yn ein caru ni fel y fam orau erioed ac yn galw arnon ni i rannu yn y cariad hwnnw.
Mae ein mamau yn ein hatgoffa o gariad Duw oherwydd eu bod yn cyfranogi yng ngwaith creadigol Duw drwy fod yn rhan o greu rhywbeth newydd, bywyd newydd, rhywbeth gwerthfawr, sydd ar ddelw Duw.
Wrth gwrs mae gan dadau ran greadigol bwysig i'w chwarae hefyd ond mae mamau yn maethu plant gyda'u cyrff a'u gwaed eu hunain - mae mamau'n gwneud lle o fewn eu hunain ac yn eu breichiau i eraill ac mae hyn yn beth arbennig.
Mae'r weithred anhunanol o rannu'r hunan yn adlewyrchu rhywbeth o haelioni hynod Duw. Gwelwn enghraifft o hyn pan fo Mair yn darganfod ei bod hi'n disgwyl.
Mae hi'n dweud mewn geiriau mor anhunanol; "Dyma lawforwyn yr Arglwydd. Bydded i mi yn ôl dy air Di".
Mae'r geiriau yma yn ein harwain yn anorfod at y Grawys a'r Pasg. Maent yn ein hatgoffa o neges y Pasg am sut y rhoddodd Iesu ei hun - ei gorff a'i waed - dros eraill.
Mae grym rhyfeddol ac iachaol i'r math hwn o hunanaberth.
Mae'n adlewyrchu paradocs rhyfedd cariad Duw - fel y dywed Gweddi Sant Ffransis;
"Trwy roddi rydym yn derbyn."
.
Mae'r cariad creadigol hwn yn ein hamgylchynu yn y greadigaeth, sydd weithiau'n cael ei galw yn "Fam Daear". Diolchwn i Dduw am brydferthwch a rhodd y greadigaeth heddiw:
Emyn
Darlleniad - Mam a Brodyr Iesu, Marc 3:31-35
Crist a'i ddisgyblion Yn y geiriau yma o Efengyl Marc rydyn ni'n cael cipolwg o'r berthynas gref iawn roedd Iesu am ei gweld rhwng ei ddisgyblion a rhwng cyd-ddyn hefyd.
Mae'n anodd i ni ddeall cariad sydd mor hael ac mor agos.
Mae Iesu'n dangos inni sut, yn Nheyrnas Dduw, mae ein dyletswydd i garu eraill fel rhieni, plant, brodyr a chwiorydd, yn cael ei ehangu i gynnwys ein cymdogion i gyd, yn hytrach na'r teulu sydd o'r un cig a gwaed â ni yn unig.
A dyma felly pam, ar y Groes, y dywedodd wrth Ioan am fabwysiadu Mair yn fam iddo ac i Fair i ofalu am Ioan fel ei mab ei hun.
Y drefn naturiol fyddai iddo ofyn i un o'i deulu, Iago ei frawd er enghraifft, ond trwy ofyn i Ioan, rhywun nad oedd o'r un teulu, yr oedd Iesu yn awgrymu fod angen i ni weld pawb, nid yn unig fel cymdogion ond fel aelodau o'n teulu.
Ac mae pawb sydd â phrofiad o fyw mewn teulu yn gwybod pa mor anodd yw hyn.
Mewn teuluoedd, rydym ni'n darganfod rhywbeth am ofynion cariad. Mewn perthynas ag eraill gallwn gael ein tynnu i wahanol gyfeiriadau wrth geisio edrych ar ôl anghenion pawb ac mae'n rhaid i ni ddarganfod cydbwysedd yn y ffordd rydym ni'n byw.
Gall darganfod cydbwysedd fod yn sialens arbennig i bawb, yn enwedig felly i famau sy'n gorfod gofalu am amrywiaeth o bobl yn berthnasau a brodyr a chwiorydd hŷn, yn ogystal â phlant bychain.
Mae'n rhaid iddyn nhw ddioddef poen wrth roi genedigaeth ac wrth brofi colled neu alar. Roedd y llawenydd a'r galar hwn yn amlwg ym mywyd Mair ac roedd yn nodwedd o gariad Iesu hefyd.
Ar ddechrau stori Mair yn yr efengyl mae'n amlwg ei bod hi'n ymwybodol o'r aberth oedd yn rhaid ei wneud ond trwy'r un stori rydyn ni'n gweld sut mae hi'n datblygu mewn cariad trwy ei ffydd a'i dyfalbarhad.
Nid yn beth hawdd Dydi cariad mam byth yn beth hawdd. Mae'n galw am ddoethineb ac am amynedd mawr. Ni all mamau gael eu ffefrynnau ymysg eu plant ac mae'n rhaid i'w cariad nhw gynnwys pob aelod o'r teulu, hyd yn oed y rhai anhydrin a'r rhai sy'n anodd eu caru.
Ymhob teulu bron, mae problemau efo perthnasau anodd a phobl sy ddim wedi siarad ers amser.
Ers adeg y teuluoedd cyntaf, mae'r teulu wedi bod yn lle i ddadlau ac anghytuno. Dyna hanes Cain ac Abel er enghraifft, trodd yr anghytuno yn genfigen a'r cenfigen yn ddicter, a'r dicter yn arwain at lofruddiaeth.
Mae'n ymddangos ei fod yn rhan o'r cyflwr dynol ein bod ni, yr 'oedolion', yn aml yn dewis bod yn blentynnaidd yn yr ystyr waethaf.
Gelwir ar Gristnogion a chymunedau Cristnogol i ymdrechu yn erbyn y duedd hon ac i geisio dod yn llefydd lle mae cariad anhunanol yn cael ei amlygu.
Efallai mai dyma pam y galwodd Iesu o'r Groes ar i Fair a Ioan ddod i berthynas newydd, fel perthynas mam a mab.
Mae'n ein galw ni i hyn hefyd; gelwir ni i gynnig gweinidogaeth lle rydyn ni'n disgwyl rhoi yn fwy na derbyn.
Mae'n rhaid i ni ddarganfod ffordd o roi croeso, lle gall pawb deimlo cysylltiad â'i gilydd. Mae hyn wedyn yn cynnig hefyd sicrwydd a chefnogaeth i roi i eraill - mae'n ffordd o dyfu mewn cariad. Mae angen inni greu patrwm o ysbrydolrwydd iach, un sy'n gadarn, un nad yw'n hawdd ei ddymchwel, un sy'n addasadwy ac wedi ei wreiddio yn sicr yng nghariad hael Duw.
Dydi cynnig y math yma o groeso ddim yn hawdd, ond mae dysgu, a bod yn fam, yn ddau beth sy'n mynd law yn llaw a'i gilydd. Rydym ni'n gwybod fod pobl yn dysgu orau pan fo nhw'n cael eu hannog a'u meithrin, pan fo ganddyn nhw rywun sy'n barod i ddangos iddyn nhw, i'w harwain trwy esiampl ac wedyn i ymddiried ynddyn nhw.
Yn fyr, mae pobl yn ffynnu pan fo ganddyn nhw famau da a hefyd yn ffynnu o fewn y fath o berthynas fel yr un oedd Iesu yn ei disgrifio trwy ei weinidogaeth ac yn Ei eiriau ar y groes.
Dyma'r math o gariad rydym ni'n darllen amdano yn yr efengylau. Efallai mai'r adnod enwocaf yn y Beibl ydi'r un sy'n disgrifio cariad Duw ar waith, (Ioan 3:16):
"Do, carodd Duw y byd gymaint nes iddo roi ei unig Fab."
Yn gariad drud Mae cariad fel hwn yn gariad drud gan ei fod yn golygu gollwng gafael ar bobl a dydi gollwng ein gafael ddim yn hawdd - efallai y bydd yn achosi poen inni.
Ond dyma lle ceir cysylltiad rhwng bod yn fam, a rhoi.
Rhaid caru pobl ddigon i roi rhyddid iddyn nhw a'r rhyddid hwnnw yn caniatáu iddyn nhw fethu weithiau ond parhau i'w caru drwy hynny.
Deallodd Iesu hyn ac felly roedd e'n byw i eraill trwy ei fywyd ac yn gofyn i'w ffrindiau ddangos yr un cariad hefyd tuag at eu cymdogion. Felly dywedodd: "Wraig dyma dy fab, Fab dyma dy fam".
A heddiw beth mae Iesu yn dweud wrthym ni? Pwy yw ein plant heddiw a phwy sy'n haeddu parch fel ein rhieni? A sut dylwn ni ddangos cariad at y rhai sydd mewn angen heddiw?
Wrth inni weddïo, gofynnwn am i Dduw ein bendithio gyda rhoddion cariad hael yn awr: y cariad roedd cariad Mair yn batrwm iddo, yr hon a ddysgodd ac a fagodd Iesu'r hwn, yn ei dro, a ddangosodd yn y ffordd fwyaf perffaith sut beth yw cariad Duw.
Gweddi:
Diolchwn i Ti ein Tad am ein gosod mewn teuluoedd, a'n hamgylchynu a bendithion cartref a chymuned y ffydd.
Gweddïwn am ddoethineb i aros oddi mewn i gylch dy gariad ac am nerth i weithredu dy gariad tuag at ein gilydd, ein hanwylid a phawb.
Cyflwynwn i'th ofal grasol gartrefi ein gwlad a chartrefi'r byd. Gweddïwn ar i ti sancteiddio cariad pobl tuag at ei gilydd, a'u harwain i gyflawnder dy gariad sy'n bwrw allan ofn. Amen
Emyn.
Y Fendith
Bendithied yr Arglwydd ni a chadwed ni a llewyrched yr Arglwydd ei wyneb arnom a thrugarhaed wrthym. Dyrchafed yr Arglwydd ei wyneb arnom, a rhodded i ni dangnefedd. A bendith Duw hollalluog, Y Tad, y Mab a'r Ysbryd Glan a fo yn ein plith ac a thrigo gyda ni yn wastad. Amen.
|
|