|
Angylion Cyflwyniad
Weithiau, bydd pobol yn fy ngalw i'n angel. Bydd pobol yn dweud hyn pan fydda' i wedi bod yn dda, neu pan fydda' i wedi gwneud rhywbeth caredig a chlên.
Ond, os bydda' i wedi bod yn ddrwg, mae'n fwy tebygol iddyn nhw fy nghymharu i gyda'r diafol.
Mae gyda ni heddiw ein syniad o sut bethau ydi angylion. Maen nhw'n ferched, ar y cyfan, sy'n gwisgo dillad gwyn ac sydd â chylch hud yn disgleirio uwch eu pennau. Maen nhw'n hedfan o gwmpas o un lle i'r llall, ac yn gwneud gweithredoedd da.
Creadur gwahanol iawn ydi'r diafol. Mae e'n ddyn sydd wedi ei wisgo mewn coch, mae gydag e farf fechan ar ei ên, ac mae e'n byw mewn cwmwl o dân twym, twym.
Dyw e ddim yn ddyn neis iawn, ac mae e'n mwynhau ein gweld ni'n gwneud pethau drwg ac yn ffraeo gyda'n gilydd.
Ond, yn y Beibl, math o angel yw'r ddau - y da a'r drwg. Y gwyn a'r coch. Mae'r ddau yn gymeriadau sy'n siarad gyda ni, ac mae gyda ni'r dewis i wrando arnyn nhw neu beidio.
Yn nrama'r Geni, mae'r angel enwocaf ohonyn nhw i gyd - Gabriel - yn dod i ddweud wrth y bugeiliaid fod Iesu Grist wedi ei eni mewn stabl ym Methlehem.
Yna, mae yna gôr o angylion yn dod i ganu iddyn nhw ar y meysydd, gan ddweud wrthyn nhw am fynd i weld y baban bach sydd wedi ei rwymo mewn cadachau a'i osod i orwedd mewn preseb.
Y côr angylion sy'n tynnu sylw at y digwyddiad mwyaf yn hanes y byd, sef y newyddion da o lawenydd mawr.
Myfyrdod 1
Mae gyda ni bob amser y dewis i wrando neu anwybyddu lleisiau'r angylion sy'n siarad gyda ni. Y lleisiau da a drwg.
Weithiau, mae pobol yn dweud fod y diafol yn eistedd ar un ysgwydd a'r angel ar y llall, ac mai ein gwaith ni yw dewis ar ba un ohonyn nhw i wrando.
Weithiau, mae dilyn yr angel yn cael ei weld fel y peth saff a neis-neis i'w wneud, ac fe all dilyn cyngor y diafol ymddangos yn gyffrous.
Ond doedd yna ddim byd yn ddiflas am ymweliad yr angylion â'r bugeiliaid yn Stori'r Geni. Dyna lle'r oedd y dynion mawr, cryf yma yn gwarchod eu defaid yn ystod y nos, pan hedfanodd y criw angylion atyn nhw a dweud wrthyn nhw am beidio ag ofni, am mai newyddion da oedd gyda nhw i'w gyhoeddi.
Roedd y bugeiliaid, druan, wedi dychryn ac wedi eu cyffroi, ac fe benderfynon nhw fynd ar eu hunion i weld y baban Iesu. Fe aethon nhw ag oen bychan yn anrheg iddo.
Myfyrdod 2 (o'r gyfrol Does Debyg Iddo Fe, Nick Fawcett, cyf. Olaf Davies, Cyhoeddiadau'r Gair)
Darlleniad (Luc 1: 26-33)
Darlleniad (Luc 1: 35-38)
Gweddi
Ar drothwy Gŵyl y Geni eleni, rydym ni'n gobeithio y clywn ni gân yr angylion eto eleni. Cân sy'n dweud am eni Gwaredwr y byd, a chân sy'n fytholwyrdd.
Tra bod negeseuon eraill yn newid mewn byd o hysbysebion a marchnata, mae neges yr angylion, a glywyd gyntaf erioed ar y llethrau uwchlaw Bethlehem ddwy fil o flynyddoedd yn ôl, yn para'n fyw.
Ein gwaith ni yw gwrando am y gân, a gwneud yn siwr ein bod yn clywed a deall y neges fawr.
Gweddi 2
Fe fu'r angylion yn siarad gyda bugeiliaid, gwÅ·r doeth a gyda merch ifanc, ddiniwed, cyn geni Iesu Grist. Mae Duw yn dal i siarad gyda ni heddiw, drwy angylion o bob math.
Gallwn ninnau fod yn angylion i Dduw, trwy fynd ac adrodd y neges am Iesu Grist wrth ein ffrindiau a'u teulu, ac wrth wneud pethau da a bod yn neis wrth bobol nad ydyn ni'n eu nabod.
Dyna ydi gwir neges y Nadolig. Eleni ac erioed
Amen.
|
|