Pwysigrwydd Churchill fel arweinydd rhyfel
Ar 13 Mai 1940, rhoddodd Winston Churchill ei araith gyntaf fel Prif Weinidog.
Pa r么l ddaru Winston Churchill chwarae?
Roedd Churchill yn ymgorfforiad o鈥檙 ysbryd ci tarw, yr oedd ei angen os oedd Prydain am ennill rhyfel lwyr faith. Roedd ganddo brofiad o ryfel yn India ac Affrica (roedd yn gohebydd rhyfel yn Ail Ryfel y BoerRhyfel rhwng yr Ymerodraeth Brydeinig a Gweriniaeth De Affrica a鈥檙 Orange Free State, o fis Hydref 1899 hyd fis Mai 1902.), ac fel Gweinidog Arfau yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd Churchill wedi bod yn feirniadol o鈥檙 polisi dyhuddiad ar ddiwedd y 1930au, ac roedd yn benderfynol o atal Hitler. Nid oedd yn ystyried ildio o gwbl.
Roedd yn cyflwyno areithiau grymus ac yn ymweld ag ardaloedd oedd wedi鈥檜 bomio gan yr Almaenwyr yn y gobaith o godi ysbryd. Roedd pobl yn gallu mwynhau ei areithiau ar y radio.
Roedd Churchill yn gweithio鈥檔 agos gyda F D Roosevelt, Arlywydd America, er mwyn denu arian a chymorth America i ddechrau, yn arbennig drwy鈥檙 trefniadau les-fenthyca, ac yna fel un o鈥檙 Cynghreiriaid o Ragfyr 1941. Hefyd, rhoddodd ei amheuon a鈥檌 ymddiriedaeth personol i鈥檙 neilltu er mwyn gweithio gyda Stalin yn ystod y rhyfel oherwydd mai trechu Nats茂aeth oedd y peth pwysicaf un.
.
Ym marn nifer o bobl Prydain, arweiniad ysbrydoledig Churchill i raddau helaeth oedd yn gyfrifol am fuddugoliaeth y Cynghreiriaid yn 1945. Roedd yn symbol o gadernid, o鈥檙 awch i ymladd a phenderfyniad diwyro i beidio ildio. Roedd nifer o bobl yn credu bod Churchill yn gyfrifol i raddau helaeth am fuddugoliaeth Prydain.