91热爆

Cynnal yr ysbrydPosteri propaganda a sensoriaeth

Roedd cynnal yr ysbryd yn her fawr i Lywodraeth Prydain. Heb gynnal yr ysbryd a gobaith efallai na fyddai buddugoliaeth wedi bod yn bosibl, yn arbennig o gofio bod angen sifiliaid i helpu gyda鈥檙 ymgyrch ryfel. Pa mor bwysig oedd cynnal ysbryd pobl yn ystod y rhyfel?

Part of HanesDirwasgiad, rhyfel ac adferiad, 1930-1951

Posteri propaganda a sensoriaeth

Propaganda

Darlun o ferched yn sgwrsio ar fws, a gwelir Himmler a Goering yn clustfeinio y tu 么l iddyn nhw. Y geiriau yw: You never know who's listening! - CARELESS TALK COSTS LIVES
Figure caption,
Roedd y neges 鈥淐areless talk costs lives鈥 yn rhybuddio pobl rhag siarad am y rhyfel nac am eu cyfraniad eu hunain

Roedd y Weinyddiaeth Wybodaeth yn cyflogi鈥檙 artistiaid gorau i gynhyrchu posteri . Ffocws y posteri yma oedd hysbysu pobl am beth oedd angen iddyn nhw ei wybod am y rhyfel a sicrhau eu bod yn cefnogi鈥檙 rhyfel. Erbyn diwedd y rhyfel, roedd 3,000 o bobl y gweithio yn y weinyddiaeth.

Roedd posteri yn amrywio o rai oedd yn pwysleisio dewrder ac undod (ysbryd y ci tarw), delweddau yn annog dynion i ymrestru i ymladd ac i ferched weithio mewn ffatr茂oedd arfau, ac ymuno 芒鈥檙 ymgyrch ryfel.

Roedd posteri wedi鈥檜 dylunio鈥檔 glyfar er mwyn hyrwyddo鈥檙 ymgyrch ryfel. Er enghraifft, dywedwyd wrth wragedd t欧 am 鈥榝odloni ac atgyweirio鈥 yn hytrach na phrynu eitemau newydd, ac y gallai defnyddio bwyd yn ofalus helpu i drechu Hitler.

Sensoriaeth

Defnyddiwyd sensoriaeth i reoli鈥檙 negeseuon yr oedd pobl yn eu gweld. Ychydig iawn o newyddion negyddol a gyflwynwyd am y rhyfel.

Roedd radio, papurau newyddion, cylchgronau, ffilmiau sinema ac eitemau newyddion yn cael eu monitro a鈥檜 sensro gan y Weinyddiaeth Wybodaeth.

  • Gwaharddwyd The Daily Worker, papur newydd oedd yn cefnogi comiwnyddiaeth, oherwydd ei eitemau negyddol.
  • Roedd y Llywodraeth yn ystyried sensro darllediadau William Joyce oedd yn gefnogol i鈥檙 Nats茂aid. Roedd yn Americanwr Gwyddelig, ac fe鈥檌 galwyd yn Arglwydd Haw-Haw oherwydd ei lais mawreddog.
  • Roedd llwyddiannau milwrol yn cael eu chwyddo er mwyn rhoi鈥檙 argraff bod y rhyfel yn symud o blaid buddugoliaeth i鈥檙 Cynghreiriaid.